Rheoliadau Ffosffad

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:19, 7 Mawrth 2023

Diolch yn fawr iawn i’r Prif Weinidog am yr ateb. Mae effaith y polisi a rheoliadau ffosffad yma yn cael dylanwad sylweddol ar bobl ar draws Cymru. Mi fyddwch chi'n ymwybodol o effaith y rheoliadau ar ddatblygwyr tai, yn enwedig i'n tai cymdeithasol, efo tua 700 o dai cymdeithasol wedi cael eu dal i fyny oherwydd y rheoliadau yma.

Ond dwi eisiau edrych yn benodol ar ddatblygiad rheilffordd Llyn Tegid yn y Bala, sydd yn cael ei ddal i fyny oherwydd y Ddyfrdwy. Maen nhw wedi llwyddo i gasglu cannoedd o filoedd o bunnoedd yn rhyngwladol er mwyn dod â'r rheilffordd i mewn i'r dref, a bydd hwn yn hwb economaidd sylweddol i'r ardal. Maen nhw wedi derbyn y caniatâd cynllunio ac wedi gwneud y gwaith paratoadol ar gyfer yr orsaf newydd. Yn wir, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eu hunain wedi gwneud llawer o'r gwaith paratoadol i alluogi'r rheilffordd i ddod i mewn i'r dref. Ond mae'r rheoliadau ffosffad yn golygu na all y datblygiad hwn fynd yn ei flaen, er gwaethaf y ffaith nad ydyn nhw am adeiladu toiledau ychwanegol i'r hyn sydd ar gael yn gyhoeddus eisoes. Mae yna berig go iawn y gall y cynllun yma fethu. Pa gyngor y byddech chi'n ei roi i reilffordd Llyn Tegid yn wyneb hyn?