Tlodi Plant

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:22, 7 Mawrth 2023

Diolch i Heledd Fychan. Llywydd, rydym yn gweithio gyda'n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, y trydydd sector a'r rhai sydd â phrofiad bywyd i gefnogi aelwydydd bregus. Rhai o’r camau ymarferol sy’n cael eu cymryd ar draws Cymru yw help uniongyrchol gyda chost y diwrnod ysgol, prydau ysgol am ddim i bawb mewn ysgolion cynradd a mesurau i fynd i’r afael â llwgu yn ystod y gwyliau ysgol.