Part of the debate – Senedd Cymru am 5:57 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ei gwneud yn glir o'r dechrau mai gwelliant ymchwilgar yw hwn, wedi'i gynllunio i sicrhau'r lluosogrwydd mwyaf posibl i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol. Nid yw wedi'i gynllunio i fychanu neb, nac unrhyw sefydliad. Mae'n cael ei gyflwyno yn ddidwyll i sicrhau bod y lleisiau sy'n cael eu clywed fel rhan o'r cyngor newydd a dylanwadol yn cael eu tynnu o gronfa mor eang â phosib. Byddai'r gwelliant hwn felly yn gosod dyletswydd statudol ar y Prif Weinidog i geisio enwebiadau ar gyfer cynrychiolwyr gweithwyr ar y cyngor partneriaeth gymdeithasol nad ydynt yn gysylltiedig â'r TUC.
Fel yr wyf wedi datgan yn flaenorol ar gyfnod y pwyllgor, nid yw ein galwadau am gynrychiolaeth gweithwyr ar y cyngor partneriaeth gymdeithasol sy'n ymestyn y tu hwnt i undebau sy'n gysylltiedig â'r TUC wedi'i gynllunio i fwrw amheuaeth ar gyfraniad hanfodol y TUC wrth hyrwyddo hawliau gweithwyr yng Nghymru. Yn wir, mae gennym ni berthynas ragorol â'r TUC, a hir y parhaed hynny. Rydym ni'n falch bod y Bil yn cynnwys darpariaethau i sicrhau bod gan y TUC lais cryf wrth lunio cwrs partneriaeth gymdeithasol yn y dyfodol. Yn hytrach, fel mae Plaid Cymru wedi pwysleisio trwy hynt y Bil hwn, er mwyn gwir sylweddoli manteision ymgysylltu tridarn ar bartneriaeth gymdeithasol ac, yn benodol, i symud tuag at fodel ffordd uchel blaengar o gysylltiadau diwydiannol, rhaid i ni sicrhau bod cyfansoddiad y cyngor partneriaeth gymdeithasol yn adlewyrchu'r amrywiaeth o gynrychiolaeth llafur sydd yma yng Nghymru. Rydym ni'n credu'n gryf bod gwarantu sedd wrth y bwrdd i gyrff nad ydynt yn gyrff TUC fel y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas Feddygol Prydain—ill dau yn undebau llafur enfawr a dylanwadol yn eu rhinwedd eu hunain—yn cyfoethogi rhagolwg y cyngor partneriaeth gymdeithasol ac yn gwella ei botensial i gyflawni'r nodau er budd rhan eang o gymdeithas Cymru.
Ers i ni gyflwyno'r mater hwn am y tro cyntaf, rwy'n falch o ddweud fy mod i wedi cael cyfarfodydd cynhyrchiol iawn gyda'r Dirprwy Weinidog, sydd wedi rhoi sicrwydd, er na fydd cynnwys dyletswydd statudol o'r natur hon yn bosibl, mae'r TUC, serch hynny, wedi darparu gwarantau ysgrifenedig i gyflwyno enwebiadau i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol ar ran aelodaeth yr undeb llafur cyfan yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi ymgysylltu â'r TUC yn uniongyrchol am eglurhad pellach ar y mater. Maen nhw'n cytuno'n llwyr â'r egwyddor gyffredinol y dylai'r cyngor partneriaeth gymdeithasol gynnwys sbectrwm eang o gynrychiolaeth undebau llafur. Maen nhw hefyd wedi egluro, yn unol â threfniadau tebyg sydd ar waith ar gyfer y cyngor partneriaeth gweithlu, y byddan nhw'n ymdrechu i sefydlu ysgrifenyddiaeth undeb y cyngor partneriaeth gymdeithasol, sy'n cynnwys yr holl undebau llafur cofrestredig yng Nghymru sy'n dymuno bod yn aelodau. Rydym ni'n ddiolchgar iawn am y sicrwydd hwn.
Yng ngoleuni hynny, a yw'r Dirprwy Weinidog yn barod i fynd ar y cofnod yn y Siambr i gadarnhau y bydd y broses enwebu i'r cyngor yn gweithredu fel hyn? Ac a all hi roi sicrwydd i undebau llafur nad ydynt yn gysylltiedig â'r TUC fel bod modd lleddfu pryderon ynghylch y broses enwebu? Os gellir mynd i'r afael â phryderon yn ddigonol, byddwn yn tynnu'r gwelliant hwn yn ôl yn hapus. Diolch yn fawr.