Grŵp 4: Enwebiadau i’r CPG gan Wales TUC Cymru (Gwelliannau 2, 27)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 6:00, 7 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Efallai y byddai'n werth adrodd cefndir y mater hwn er budd yr Aelodau hynny nad ydynt wedi bod yn rhan mor agos o hynt y Bil fel aelodau'r pwyllgor craffu a minnau. Fel y nododd Peredur yn ei sylwadau agoriadol, yn ystod cyfnodau'r pwyllgorau o graffu, codwyd pryderon gan rai partïon mewn perthynas â rôl TUC Cymru fel y corff a fydd yn darparu enwebiadau i Brif Weinidog Cymru er mwyn i gynrychiolwyr gweithwyr eistedd ar y cyngor partneriaeth gymdeithasol. Roedd y pryderon hynny'n seiliedig ar dybiaeth y byddai TUC Cymru, yn y rôl hon, neu efallai hyd yn oed, ond yn gallu enwebu unigolion o undebau llafur sy'n gysylltiedig â'r TUC, gyda'r canlyniad y byddai rhai proffesiynau neu sectorau'n cael eu heithrio o'r cyngor, yn syml am nad oedd eu haelodau mewn undebau sy'n gysylltiedig â'r TUC. Rwyf i wedi egluro yn ystod cyfnodau blaenorol, ac mewn trafodaethau ag Aelodau y tu allan i'r Pwyllgor, nad yw hyn yn fwriad gan adrannau 4 a 5 y Bil, ac y bydd TUC Cymru yn gallu enwebu cynrychiolwyr gweithwyr o undebau nad ydynt yn gysylltiedig â TUC. Fel mae'r nodiadau esboniadol i'r rhan hon o'r Bil yn ei wneud yn glir, y nod yw

'creu grŵp amrywiol drwy ddarparu ar gyfer sicrhau bod ystod eang o gyflogwyr a gweithwyr yn cael eu cynrychioli ar yr CPG.'

Dylwn i hefyd atgoffa'r Aelodau, unwaith eto, fel y nodir yn y nodiadau esboniadol, nad oes unrhyw rwymedigaeth ar y Prif Weinidog i benodi pob unigolyn neu unrhyw unigolyn a enwebwyd gan TUC Cymru Cymru i fod yn gynrychiolydd gweithwyr, a

'gallai’r Prif Weinidog benderfynu peidio â phenodi un neu ragor o enwebeion TUC Cymru a gofyn am enwebiadau eraill.'

Mae ein cydweithwyr yn TUC Cymru yn llawn werthfawrogi natur y rôl hon, ac rwyf wedi cadarnhau yn eu llythyr, a rannais ag aelodau'r pwyllgor fis diwethaf, ei bod yn fwriad ganddynt i geisio enwebeion gan bob undeb llafur yng Nghymru, nid yn unig y rhai sy'n gysylltiedig â'r TUC. Hoffwn gymryd munud i ddyfynnu ychydig linellau o'r llythyr er budd yr Aelodau hynny na fydd wedi'i weld:

'TUC Cymru yw'r unig strwythur addas i weithio gyda mudiad yr undebau cyfan i gynnal etholiadau ar gyfer enwebeion cynrychiolwyr gweithwyr i'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol... Mae hon yn rôl rydym ni'n ei dal eisoes ar gyfer y ddirprwyaeth undebau llafur i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, lle rydym ni'n cymryd rôl ysgrifenyddiaeth ar gyfer yr holl undebau llafur a gydnabyddir yn y sector cyhoeddus datganoledig (gan gynnwys undebau llafur nad ydynt yn gysylltiedig â'r TUC, megis yr RCN, BMA ac ASCL).'

Mae'r llythyr yn mynd ymlaen i ddweud,

'byddwn yn sefydlu ochr undeb cyngor partneriaeth gymdeithasol fel y grŵp democrataidd i bennu enwebiadau ochr yr undeb i'r cyngor, a phrotocolau ar gyfer sut mae'r rhai sydd â seddi ar y cyngor yn ymgysylltu â'r trefniadau ehangach ar ochr yr undeb a'r trefniadau sectoraidd presennol. Bydd hyn yn cynnwys trefniadau i sicrhau nad yw undebau llafur llai yn cael eu heithrio', ac yn cloi gyda disgwyliad y bydd

'undebau llafur nad ydynt yn gysylltiedig [yn] cael eu cynnwys fel rhan o'r rhestr o enwebeion a gyflwynir i'r Prif Weinidog'.

Cyni mi gloi, hoffwn hefyd grybwyll yn benodol ynghylch cynrychiolaeth o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol nad diben y cyngor yw disodli'r partneriaethau cymdeithasol presennol, sydd wedi hen ennill eu plwyf, megis fforwm partneriaeth GIG Cymru, ond meithrin perthynas gref ac effeithiol rhwng strwythurau cyfredol a'r cyngor.

Felly, i gloi, er bod y Llywodraeth yn fodlon bod yr ymrwymiad ysgrifenedig sydd gennym ni gan TUC Cymru yn rhoi sicrwydd digonol y bydd yr enwebiadau i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol yn cynnwys cynrychiolwyr o undebau nad ydynt yn aelodau cysylltiedig, gallaf sicrhau'r Aelodau, pe byddai'r cytundeb hwn, am unrhyw reswm, yn profi'n annigonol ar unrhyw adeg yn y dyfodol, byddem, wrth gwrs, yn barod i ailedrych ar y mater. Felly, er na fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliannau 2 neu 27, fel y dywedais i yng Nghyfnod 2, rydyn ni'n gwerthfawrogi'r ysbryd maen nhw wedi'i gyflwyno ynddo.