– Senedd Cymru am 6:23 pm ar 7 Mawrth 2023.
Grŵp 8 yw'r grŵp nesaf o welliannau. Mae'r rhain yn ymwneud â'r ddyletswydd caffael cymdeithasol cyfrifol. Gwelliant 4 yw'r prif welliant yn y grŵp hwn. Peredur Owen Griffiths i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r grŵp.
Diolch, Llywydd. Fel yr wyf i wedi ei nodi drwy bob cam o hynt y Bil hwn drwy'r Senedd, hoffwn bwysleisio unwaith eto bwysigrwydd gwneud y ddeddfwriaeth hon mor gryf â phosibl o ran caffael cyhoeddus yng Nghymru. Am fwy na degawd, mae Plaid Cymru wedi galw am dargedau uchelgeisiol ond realistig, mesurau meintiol, a nodau eglur i gynyddu'r gwerth sy'n cael ei ychwanegu at economi Cymru trwy gaffael, i atgyfnerthu ein heconomi ac i gynyddu lefel y gwariant cyhoeddus a roddir i gwmnïau, busnesau a sefydliadau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, gan gadw'r bunt gyhoeddus ym mhocedi ein pobl, ein cymunedau a'n cenedl i bob pwrpas. Yn y 10 mlynedd a mwy hynny, gallai degau o filoedd o swyddi fod wedi cael eu creu yng Nghymru pe bai targedau uchelgeisiol wedi cael eu gosod a'u bodloni.
Cyflwynwyd gwelliant 4, a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, a allai ei gwneud hi'n ofyniad bod yn rhaid i'r amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol nodi mewn termau meintiol sut maen nhw'n bwriadu cynyddu'r gwerth a ychwanegir at economi Cymru trwy gaffael sector cyhoeddus, i fynd i'r afael â'r hyn y mae Plaid Cymru wedi bod yn galw amdano a'r hyn y mae ei angen yn daer ar economi Cymru: nod eglur i gynyddu faint o arian cyhoeddus sy'n cael ei wario yng Nghymru, gyda chyflenwyr, busnesau a sefydliadau lleol a chenedlaethol. Pe bai targedau caffael wedi cael eu gosod tua 10 mlynedd yn ôl, gallai dyfodol llawer o gwmnïau bach a chanolig eu maint fod wedi cael ei sicrhau drwy harneisio grym prynu'r sector cyhoeddus. Yn fwy na hynny, gallem fod wedi creu cyfleoedd i lawer o gwmnïau bach a chanolig eu maint gychwyn trwy roi cyfle iddyn nhw integreiddio i'r gadwyn gyflenwi. Byddai'n fater o golli cyfle enfawr felly, pe na baem ni'n manteisio ar y cyfle nawr i wneud rhywbeth am y lefel gymharol isel hon o gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn y ddeddfwriaeth hon.
Mae'r wobr i'w hennill o osod bwriad clir mewn termau meintiol o ran sut i ychwanegu gwerth at economïau lleol trwy dargedau caffael cyhoeddus yn enfawr. Amcangyfrifodd maniffesto Senedd Plaid Cymru yn 2021 y gallai 46,000 o swyddi ychwanegol gael eu creu o gynyddu lefel caffael cyhoeddus Cymru, o 52 y cant i 75 y cant. Byddai hyn yn cael ei wneud trwy ddefnyddio cyllideb caffael cyhoeddus gwerth £6.3 biliwn Llywodraeth Cymru, a thrwy weithio mewn partneriaeth agos gyda chyrff cyhoeddus. Mae cyngor Gwynedd a reolir gan Blaid Cymru wedi troi gair yn weithred, trwy gefnogi busnesau lleol a chynyddu caffael cyhoeddus yn yr awdurdod lleol. Mae eu gweithredoedd wedi rhoi hwb mawr i'r economi leol. Felly, byddai hyn yn safoni'r hyn y mae llawer o gyrff eisoes yn ei wneud, yn unol â nod datganedig y ddeddfwriaeth hon, i wella caffael cyhoeddus. I bob pwrpas, byddai'r rhain yn uchelgeisiau y ceir cyfrifoldeb lleol amdanyn nhw y byddai gan bob corff gyfrifoldeb amdanyn nhw, gan gynnwys cyrff cenedlaethol fel Llywodraeth Cymru ei hun. Mae awdurdodau lleol blaengar yn ei wneud eisoes. Mae'r awdurdodau sy'n rhedeg y Senedd hon yn ei wneud. Dyma y gellir ei gyflawni gydag ewyllys wleidyddol, a chyda'n gwelliant ni i'r Bil—i nodi mewn termau meintiol sut y bydd yr amcanion caffael cymdeithasol gyfrifol yn cynyddu'r gwerth sy'n cael ei ychwanegu at economi Cymru.
Cyfeiriwyd yn aml at yr anhawster yn casglu data fel rheswm am beidio â mynd ar drywydd targedau. Rydym ni hefyd yn gwybod bod Llywodraethau Cymru olynol dros y blynyddoedd wedi bod yn erbyn gosod targedau gan eu bod nhw'n ofni methu. Nid yw'n amhosibl goresgyn y problemau hyn, ac yn sicr nid ydyn nhw'n rhoi rheswm da i gilio oddi wrth fesur sydd â photensial enfawr i hybu ein heconomi. Gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog, felly, feddwl eto am y gwrthwynebiad i osod nodau eglur, trwy osod dyletswydd drwy'r Bil i ddiffinio'r gwerth a ychwanegir trwy gaffael cyhoeddus yn economi Cymru. Siawns na ddylem ni wneud hyn nawr, yn enwedig ar adeg pan fo angen hwb o'r fath ar ein heconomi.
Cyn i mi orffen, mae'n ymddangos bod defnyddio targedau fel ysgogiad polisi sydd ar gael i bob Llywodraeth—gan gynnwyr hon—yn rhywbeth sy'n apelio i rai Aelodau o'r Cabinet yn fwy nag eraill. Nododd y Gweinidog materion gwledig a gogledd Cymru, yn rhan o'r drafodaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid lai na mis yn ôl, ar 9 Chwefror 2023:
'Rwy'n Weinidog sy'n hoffi targedau; nid felly pob Gweinidog.'
Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud:
'Rwyf i'n credu'n bersonol bod targedau, pan edrychwch chi ar faint o fwyd a diod o Gymru sy'n cael ei gaffael gan ein hysgolion, er enghraifft, mewn prydau ysgol, a'n hysbytai a'n byrddau iechyd, rwy'n sicr yn credu bod angen i ni ei gynyddu.'
Gorffennodd y Gweinidog yr ymateb i fy nghwestiwn drwy ddweud:
'Pryd bynnag y byddwch chi'n gosod targed neu pryd bynnag y byddwch chi'n pennu strategaeth neu bolisi, mae angen i chi edrych ar ble'r ydych chi eisiau bod—beth yw'r nod terfynol? I ble'r ydych chi eisiau mynd? Ac os bydd targedau yn ein helpu ni i gyrraedd yno, yna yn sicr, rwy'n credu ei fod yn werth ei ystyried.'
Gyda hyn mewn golwg, gofynnaf i'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol a'r Llywodraeth Cymru hon y mae'n ei chynrychioli: onid caffael bwyd o ran y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim, gan sicrhau a dewis yn weithredol cynhyrchion a chynhwysion o ffynonellau lleol, cyn belled â phosibl, yw'r cam cyntaf naturiol i'w archwilio o ran gosod targedau? Mae hyn yn arbennig o berthnasol pan fo ymrwymiad cyffredin Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru, yn rhan o'r cytundeb cydweithio i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, yn, ac rwy'n dyfynnu,
'helpu gyda chyrhaeddiad addysgol a maeth plant ac yn arwain, ar yr un pryd, at gynhyrchu mwy o fwyd yn lleol ac at ragor o gadwyni dosbarthu yn lleol, gan hybu economïau lleol.'
Yn ystod Cyfnod 2 y ddadl bwyllgor ar y Bil hwn, mae'r Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio at ganllawiau statudol, a swyddogaeth Llywodraeth Cymru yn y canllawiau hynny i gyflwyno'r bwriad eglur o gyflawni gwelliannau mwy cyson o ran gyflawni canlyniadau llesiant, gan gynnwys o ran y cyfraniad y mae caffael yn ei wneud at ein heconomi yng Nghymru. A wnaiff y Dirprwy Weinidog, mewn ymateb i'n cyfraniad ar y gwelliant hwn, ymrwymo i gymryd camau i archwilio'n llawn sut y gallai'r gwelliant, pe na bai'n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth, nac unrhyw aelod o'i meinciau cefn heddiw, ddylanwadu ar y canllawiau statudol? Diolch yn fawr.
Mae hyn yn codi mater eithaf arwyddocaol. Yn amlwg, mae'r hyn y mae gwelliant Plaid Cymru yn ceisio ei wneud yn rhywbeth yr wyf i'n ei ystyried sy'n bwysig dros ben. Ond mae hefyd yn dangos terfynau ein pwerau. Fel Senedd Cymru, gallwn ddeddfu er lles Cymru, ond ni allwn ddiystyru cytundebau rhyngwladol, a soniwyd am rai o'r cytundebau rhyngwladol eisoes heddiw, sef yr un a lofnodwyd gydag Awstralia a Seland Newydd. A phe bai'r berthynas â Tsieina yn chwalu i'r fath raddau fel y gallai'r trefniadau cig a chynnyrch llaeth sydd gan Awstralia a Seland Newydd gyda Tsieina arwain ar unwaith at ailgyfeirio'r holl gynhyrchion hynny i'n hynys ni ac i Gymru, mae sut yn union y byddem ni'n amddiffyn ein hunain rhag hynny yn gwestiwn agored. Ac yn sicr byddai'n codi'r cwestiwn sut y byddai cyrff cyhoeddus y mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ymateb o ran ein cyfrifoldebau byd-eang yn ogystal â'n hangen i hyrwyddo Cymru lewyrchus, gydnerth, iachach. Ond rwy'n deall na allwn ni hefyd fod yn deddfu ar rywbeth a fyddai'n rhoi cyfle i bobl yn rhywle arall ymyrryd â'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud. Felly, rwyf i o'r farn bod hwn yn fater anodd iawn sy'n peri problemau y bydd yn rhaid i ni ei ddatrys yn y dyfodol, rwy'n credu, oherwydd mae'n ymddangos i mi, os byddwn ni'n pleidleisio dros hyn, yna mae'n bosibl y gallem ni beryglu'r Bil cyfan.
Y Dirprwy Weinidog i gyfrannu, Hannah Blythyn.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau? Ac, a dweud y gwir, a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Jenny Rathbone am y gwaith y mae hi wedi ei wneud ar y ddeddfwriaeth hon yn ei swyddogaeth fel cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, yn ogystal?
Yn gyntaf, o ran gwelliant 4, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi ei drafod yn helaeth yn ystod hynt y ddeddfwriaeth hon o ran targedau caffael, ac rwyf i wedi egluro o'r blaen pam nad yw'n briodol i ddarpariaeth yn ymwneud â thargedau gael ei chynnwys ar wyneb y Bil, pa un a ydym ni'n eu galw nhw'n 'dargedau' neu'n 'amcanion' mewn termau meintiol. Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio ystyried yr holl nodau llesiant, gan gydbwyso'r rhain gyda chostau ac ansawdd. Mae hwn yn fater cymhleth. Mae gan ganolbwyntio ar dargedau rhifiadol mewn un maes penodol y potensial i greu cymhellion cyferbyniol a chanlyniadau llai na delfrydol.
Fe wnaeth y Llywodraeth gyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2 i adran 39 y Bil i wneud yn eglur yr wybodaeth y byddwn yn disgwyl i awdurdodau contractio ei darparu o dan y gofyniad adrodd blynyddol. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am sut mae proses gaffael awdurdod o fudd i economi ei ardal, gan gynnwys trwy ddyfarnu contractau i fentrau bach a chanolig eu maint. Rydym ni'n credu mai dyma'r dull cywir. Bydd gen i fwy i'w ddweud ar adran 39 pan fyddwn ni'n trafod grŵp 10, ond am y tro, gallaf gadarnhau na fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 4.
Fodd bynnag, fel yr amlinellodd Peredur yn ei gyfraniad, ceir gwaith ar draws y Llywodraeth i wir sicrhau bod caffael cyhoeddus yng Nghymru mor gryf â phosibl, pa un a yw hynny trwy brynu nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir yng Nghymru, neu drwy'r gwaith fel y nodir yn y cytundeb cydweithio i wneud dadansoddiad manwl o gadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus a mesur manteision economaidd prosiect caffael. Rwy'n ymrwymo'n llwyr i barhau i gydweithio â'r holl randdeiliaid a phartneriaid i ddatblygu'r canllawiau statudol sy'n eistedd ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth hon.
O ran gwelliant 1, mae'r gwelliant hwn gan y Llywodraeth yn un bach ac yn dechnegol ei natur. Yng Nghyfnod 2, pasiwyd nifer o welliannau a ddisodlodd yr holl gyfeiriadau at nodau caffael cymdeithasol gyfrifol yn y Bil gyda chyfeiriadau at nodau llesiant. Diben y gwelliannau hynny oedd cryfhau'r cysylltiad rhwng y dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol a chyflawni nodau llesiant o dan Ddeddf 2015. Fodd bynnag, methwyd un cyfeiriad a oedd yn weddill at nodau caffael cymdeithasol gyfrifol yn Atodlen 2 y Bil ar y pryd. Felly, y cwbl y mae gwelliant 1 y Llywodraeth yn ei wneud yw cywiro'r esgeulustod hwnnw.
Felly, i gloi, rwy'n cadarnhau na fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant 4, ond rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi gwelliant 1. Diolch.
Peredur Owen Griffiths i ymateb.
Diolch, Llywydd. Os caf i droi at Jenny yn gyntaf ar ddatblygiad y canllawiau statudol ac edrych ar fwyd o ffynonellau lleol, mae'n rhywbeth y gellir gweithio drwyddo. Nid wyf i'n deall yn iawn y ddadl yr oedd Jenny yn ei gwneud, ond rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn gweithio gyda chyflenwyr lleol ac awdurdodau lleol i weithio drwy'r pethau hynny ac i weithio yn unol â'r canllawiau statudol yn y Bil hwn. Mae'n siomedig nad yw'r Gweinidog yn hoffi targedau, ond rydym ni wedi cael y sgwrs yma unwaith neu ddwy, ac nid yw'n ddim syndod i mi, mewn gwirionedd, yn hynny o beth. Ond, pan ydym ni'n edrych ar y canlyniadau gwrthwynebol neu'r canlyniadau anfwriadol wrth drafod y gwelliant hwn, mae'n ymwneud mwy â'r canlyniadau a fwriedir o greu degau o filoedd o swyddi yng Nghymru a'r economi, ac mae caffael lleol cryf yn gwneud hynny. A beth am y canlyniad dymunol o ychwanegu degau o filiynau o bunnoedd at economi Cymru? Felly, rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni gytuno i anghytuno ar y rhannau hynny mae'n debyg.
Rwy'n croesawu sylwadau'r Gweinidog i wella'r broses o gasglu data ac i roi gwell adlewyrchiad i ni o'r llinell sylfaen bresennol. Mae hyn yn rhywbeth y mae'r Llywodraeth yn ei ddweud wrthym ni sy'n rhwystr sylweddol i fesur ac felly gosod targedau caffael, felly mae unrhyw newid tuag at system a fyddai'n galluogi hyn yn y dyfodol, efallai hyd yn oed gyda Llywodraeth y dyfodol, i'w groesawu'n fawr hefyd. Rydym ni hefyd yn croesawu'r ymrwymiadau a wnaed drwy'r cytundeb cydweithio ar gyfer ychwanegu gwerth £100,000 i £150,000 o gyllid i hyrwyddo nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir yng Nghymru. Byddwn yn parhau i weithio, drwy'r cytundeb cydweithio, ar ein hymrwymiad ar y cyd i gynnal dadansoddiad manwl o gadwyni cyflenwi'r sector cyhoeddus.
Nodaf sylwadau'r Gweinidog ar ddatblygu'r canllawiau statudol a phwysigrwydd ymgysylltu â phartneriaid ar y cyd yn y datblygiad hwn. Rwy'n siomedig nad yw'r Gweinidog yn cydnabod y cyfle yn llawn, drwy'r canllawiau, i roi arwydd eglur i osod nod polisi o gynyddu lefel caffael cyhoeddus nwyddau a gwasanaethau gan gyflenwyr a busnesau lleol. Felly, i gloi, dylai'r Llywodraeth hon ganolbwyntio mwy ar yr effaith gadarnhaol yn hytrach nag effaith negyddol agweddau ar ddeddfwriaeth. Dyna pam rwy'n annog y Senedd i bleidleisio o blaid y gwelliant hwn. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly gwnawn ni symud i bleidlais ar welliant 4. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, yn erbyn 28, ac felly mae'r bleidlais yn hafal. Fe fyddaf i felly yn defnyddio fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 4. Felly canlyniad y bleidlais fydd: o blaid 28, neb yn ymatal, 29 yn erbyn gwelliant 4. Mae'r gwelliant wedi'i wrthod, felly.
Gwelliant 1. Ydy gwelliant 1 yn cael ei symud gan y Dirprwy Weinidog?
Ydy, mae'n cael ei symud, felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes gwrthwynebiad? Nac oes, ac felly, mae gwelliant 1 wedi ei dderbyn.