Grŵp 10: Adroddiadau caffael cymdeithasol gyfrifol blynyddol (Gwelliannau 7, 8, 9, 44, 46)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:48 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:48, 7 Mawrth 2023

Doedd dim cyfeiriad at y Gymraeg ar wyneb y Bil, fel y’i cyflwynwyd. Soniais yn ystod y cyfnod pwyllgor y ddeddfwriaeth yma am ba mor bwysig ydy hi i’r Gymraeg gael ei gwreiddio wrth galon y fframwaith caffael cyhoeddus yng Nghymru, fel un o’r amcanion cymdeithasol a pholisi cyhoeddus allweddol yr ydym yn disgwyl i’r maes yma gyfrannu tuag ato. Mae eisoes yn bolisi Llywodraeth yn sgil y cytundeb cydweithio i gynyddu niferoedd y gofodau Cymraeg, gan gynnwys gweithleoedd, i roi un enghraifft o sut allai’r ddeddfwriaeth yma yrru’r amcanion a’r dyheadau o ran y Gymraeg ymlaen yn ymarferol drwy gaffael.

Fe wnaethom ni sôn yng Nghyfnod 2 am y sector adeiladu a’r arfer arbennig sydd yn digwydd gan gwmnïau fel Jones Bros, Rhuthun, a chwmni Alun Griffiths, a’r ffaith bod mwyafrif gweinyddiaeth ffordd osgoi Caernarfon wedi bod yn Gymraeg, ac wedi darparu cyfleoedd swyddi gwerthfawr drwy gyfrwng y Gymraeg, a bod cwmni Griffiths wedi datblygu hetiau caled gyda bathodynnau 'Iaith Gwaith' i hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Ond mae angen cysoni’r arfer da yma drwyddi draw drwy weithgareddau caffael. Os derbynnir y gwelliant hwn, bydd yn galluogi mynnu bod cyrff cyhoeddus yn adrodd ar sut yn union y byddant yn ymarferol yn sicrhau bod eu gweithgareddau caffael yn cyfrannu at hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Buaswn i'n ddiolchgar os gall y Gweinidog roi sicrwydd ar y record heddiw bydd ei swyddogion yn gweithio yn agos gydag Efa Gruffydd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, wrth ddrafftio unrhyw reoliadau, canllawiau statudol ac anstatudol, boed ar yr adran hon yn benodol neu yn gyffredinol, fel bod gennym ni fframwaith sy’n ffit i bwrpas. Diolch yn fawr.