Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 7 Mawrth 2023.
Wel, nid wyf i'n credu bod unrhyw beth arall gennyf i'w ychwanegu at eich ail gwestiwn na ddywedais i eisoes wrth Janet Finch-Saunders a Jane Dodds. O ran eich cais cyntaf chi, rwy'n ymwybodol o adroddiad Sefydliad Bevan, ac rwy'n credu bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ystyried hwnnw ar hyn o bryd.