Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 7 Mawrth 2023.
Llywydd, diolch i chi am y cyfle i agor y ddadl hon ar y penderfyniad ynglŷn â chyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2023-24. Cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru ym mis Ebrill 2019 ac maen nhw'n berthnasol i incwm nad yw'n incwm o gynilion nac o ddifidend pobl sy'n preswylio yng Nghymru sy'n talu'r dreth incwm. Mae cyfraddau treth incwm Cymru yn codi ymhell dros £2.5 biliwn bob blwyddyn tuag at ariannu cyllideb Llywodraeth Cymru. Cafodd cyfraddau Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf eu cyhoeddi yn y gyllideb ddrafft. Bydd y cynnig i bennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2023-24 yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â phobl gyffelyb yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gosodwyd ein dull ni o bennu cyfraddau treth incwm ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gyfan gwbl yn y cyd-destun yr ydym ni'n ei weithredu mewn Llywodraeth sy'n gyllidol gyfrifol. Rydym ni'n wynebu pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus oherwydd cyfraddau uchel o chwyddiant, ac mae ein trigolion ni'n cael eu herio bob dydd gyda'r argyfwng costau byw. Mae ein sylfaen ni o dreth incwm yn gymharol simsan, sy'n golygu y byddai angen codiad i'r gyfradd sylfaenol i'n hadnoddau ni newid yn sylweddol, a hynny i gyd tra bod ein trigolion ni'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau ynni a bwyd.
Rwyf i wedi bod yn eglur iawn nad nawr yw'r amser cymwys i gynyddu treth incwm yng Nghymru. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i rewi trothwyon treth incwm yn golygu bod y rhai sydd gennym ni sy'n ennill yr incwm lleiaf wedi cael eu llusgo nawr i'r system dreth incwm. Fe fyddai codi'r cyfraddau neu wneud unrhyw newidiadau ar hyn o bryd yn gorfodi cyfraniad ychwanegol ar y rhai sy'n lleiaf abl i'w fforddio, a hynny ar adeg pan fo'r cyfraniad treth cyffredinol ar ei lefel uchaf ers 70 o flynyddoedd. Bu'r cyd-destun a wynebwyd gennym ni'n heriol dros ben yn ystod y broses o lunio'r gyllideb hon. Mae chwyddiant wedi erydu ein cyllideb ni i lefelau pryderus o isel, ac ni lwyddodd Llywodraeth y DU i godi ein cyllidebau ni i fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw o ran cyllido. Y gwir yw na allem ni ymdrin â'r holl bwysau a nodwyd gyda'r cyllid sydd ar gael. Er hyn i gyd, fe gynlluniwyd ein cyllideb ni am 2023-24 i wneud y mwyaf o effaith yr adnoddau sydd ar gael gennym ni trwy gydbwyso'r anghenion byrdymor sy'n gysylltiedig â'r argyfwng costau byw parhaus gan barhau hefyd i weithredu newid tymor hwy a chyflawni ein rhaglen ni ar gyfer uchelgeisiau'r llywodraeth.
Mae cyfrifoldeb gennym ni i ddarparu cyllideb a gostiwyd yn llawn ac sy'n cydbwyso'r anghenion o ran gwario gyda'r pwysau ariannol y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu eisoes, ac mae cadw cyfraddau o dreth incwm i Gymru ar gyfer pob band ar 10c yn y bunt yn caniatáu i ni wneud felly. Ar sail rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, gan osod y gyfradd ar 10c i'r bandiau i gyd mae disgwyl y byddwn ni'n codi £2.795 biliwn yn 2023-24. Er nad yw'r cyfraddau wedi newid, mae disgwyl i Gyfraddau Treth Incwm Cymru fod wedi rhoi £89 miliwn yn ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru ers iddi gael ei datganoli. Ynghyd â'r cyllid a dderbyniwyd drwy'r grant bloc, mae cyfraniadau treth incwm Cymru yn rhan hanfodol o'r gyllideb, ac rwy'n taer argymell yr Aelodau i gefnogi'r cynnig heddiw i ni allu parhau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y cyfnod heriol iawn hwn. Mae'r cynnig heddiw yn sicrhau hefyd ein bod ni'n parhau i gyflawni ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i beidio â chodi mwy o dreth ar deuluoedd Cymru drwy gyfraddau treth incwm Cymru cyhyd ag y bydd effaith economaidd coronafeirws yn parhau.
Wrth edrych ymhellach ymlaen, fe'n harweinir ni gan ein hegwyddorion ni ynglŷn â threthiant, sy'n ein hymrwymo i lunio trethi sy'n eglur a sefydlog sy'n cyflawni ein hagenda flaengar. Fe ddylai'r rhai sydd â mwyaf o fodd dalu cyfran fwy. Mae sicrhau ein bod ni'n gwneud y mwyaf o'n cyfrifoldebau ni o ran trethi datganoledig yn golygu gweithio yn agos gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi hefyd o ran gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru. Fel roedd adroddiad diweddaraf y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn tynnu sylw ato, mae'r prosesau a'r trefniadau llywodraethu cadarn gyda CThEF yn rhoi sail gadarn i gasglu a gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru yn effeithiol ac effeithlon, wrth symud ymlaen. Cyhoeddwyd alldro cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2020-21 gan CThEF y llynedd. Roedd yr alldro yn weddol agos at y rhagolygon, o ystyried yr amodau economaidd eithriadol ar y pryd. Ychwanegwyd swm cysoni cadarnhaol at y gyllideb ar gyfer 2023-24. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl heddiw, ac fe ofynnir i'r Senedd gytuno ar benderfyniad trethi Cymru a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2023-24, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau am eu cefnogaeth nhw y prynhawn yma.