– Senedd Cymru am 2:44 pm ar 7 Mawrth 2023.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y ddadl ar gyfraddau treth incwm am y flwyddyn 2023-24, a dwi'n galw ar y Gweinidog cyllid i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM8215 Lesley Griffiths
Cynnig bod y Senedd, yn unol ag adran 116D o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn cytuno ar y penderfyniad ynghylch cyfraddau Cymru ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru 2023-24 fel a ganlyn:
a) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd sylfaenol y dreth incwm yw 10c yn y bunt;
b) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd uwch y dreth incwm yw 10c yn y bunt; ac
c) y gyfradd Gymreig a gynigir ar gyfer cyfradd ychwanegol y dreth incwm yw 10c yn y bunt.
Llywydd, diolch i chi am y cyfle i agor y ddadl hon ar y penderfyniad ynglŷn â chyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2023-24. Cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru ym mis Ebrill 2019 ac maen nhw'n berthnasol i incwm nad yw'n incwm o gynilion nac o ddifidend pobl sy'n preswylio yng Nghymru sy'n talu'r dreth incwm. Mae cyfraddau treth incwm Cymru yn codi ymhell dros £2.5 biliwn bob blwyddyn tuag at ariannu cyllideb Llywodraeth Cymru. Cafodd cyfraddau Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf eu cyhoeddi yn y gyllideb ddrafft. Bydd y cynnig i bennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2023-24 yn golygu y bydd trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu'r un dreth incwm â phobl gyffelyb yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Gosodwyd ein dull ni o bennu cyfraddau treth incwm ar gyfer y flwyddyn nesaf yn gyfan gwbl yn y cyd-destun yr ydym ni'n ei weithredu mewn Llywodraeth sy'n gyllidol gyfrifol. Rydym ni'n wynebu pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus oherwydd cyfraddau uchel o chwyddiant, ac mae ein trigolion ni'n cael eu herio bob dydd gyda'r argyfwng costau byw. Mae ein sylfaen ni o dreth incwm yn gymharol simsan, sy'n golygu y byddai angen codiad i'r gyfradd sylfaenol i'n hadnoddau ni newid yn sylweddol, a hynny i gyd tra bod ein trigolion ni'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau ynni a bwyd.
Rwyf i wedi bod yn eglur iawn nad nawr yw'r amser cymwys i gynyddu treth incwm yng Nghymru. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i rewi trothwyon treth incwm yn golygu bod y rhai sydd gennym ni sy'n ennill yr incwm lleiaf wedi cael eu llusgo nawr i'r system dreth incwm. Fe fyddai codi'r cyfraddau neu wneud unrhyw newidiadau ar hyn o bryd yn gorfodi cyfraniad ychwanegol ar y rhai sy'n lleiaf abl i'w fforddio, a hynny ar adeg pan fo'r cyfraniad treth cyffredinol ar ei lefel uchaf ers 70 o flynyddoedd. Bu'r cyd-destun a wynebwyd gennym ni'n heriol dros ben yn ystod y broses o lunio'r gyllideb hon. Mae chwyddiant wedi erydu ein cyllideb ni i lefelau pryderus o isel, ac ni lwyddodd Llywodraeth y DU i godi ein cyllidebau ni i fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw o ran cyllido. Y gwir yw na allem ni ymdrin â'r holl bwysau a nodwyd gyda'r cyllid sydd ar gael. Er hyn i gyd, fe gynlluniwyd ein cyllideb ni am 2023-24 i wneud y mwyaf o effaith yr adnoddau sydd ar gael gennym ni trwy gydbwyso'r anghenion byrdymor sy'n gysylltiedig â'r argyfwng costau byw parhaus gan barhau hefyd i weithredu newid tymor hwy a chyflawni ein rhaglen ni ar gyfer uchelgeisiau'r llywodraeth.
Mae cyfrifoldeb gennym ni i ddarparu cyllideb a gostiwyd yn llawn ac sy'n cydbwyso'r anghenion o ran gwario gyda'r pwysau ariannol y mae pobl yng Nghymru yn eu hwynebu eisoes, ac mae cadw cyfraddau o dreth incwm i Gymru ar gyfer pob band ar 10c yn y bunt yn caniatáu i ni wneud felly. Ar sail rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, gan osod y gyfradd ar 10c i'r bandiau i gyd mae disgwyl y byddwn ni'n codi £2.795 biliwn yn 2023-24. Er nad yw'r cyfraddau wedi newid, mae disgwyl i Gyfraddau Treth Incwm Cymru fod wedi rhoi £89 miliwn yn ychwanegol i gyllideb Llywodraeth Cymru ers iddi gael ei datganoli. Ynghyd â'r cyllid a dderbyniwyd drwy'r grant bloc, mae cyfraniadau treth incwm Cymru yn rhan hanfodol o'r gyllideb, ac rwy'n taer argymell yr Aelodau i gefnogi'r cynnig heddiw i ni allu parhau i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn y cyfnod heriol iawn hwn. Mae'r cynnig heddiw yn sicrhau hefyd ein bod ni'n parhau i gyflawni ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i beidio â chodi mwy o dreth ar deuluoedd Cymru drwy gyfraddau treth incwm Cymru cyhyd ag y bydd effaith economaidd coronafeirws yn parhau.
Wrth edrych ymhellach ymlaen, fe'n harweinir ni gan ein hegwyddorion ni ynglŷn â threthiant, sy'n ein hymrwymo i lunio trethi sy'n eglur a sefydlog sy'n cyflawni ein hagenda flaengar. Fe ddylai'r rhai sydd â mwyaf o fodd dalu cyfran fwy. Mae sicrhau ein bod ni'n gwneud y mwyaf o'n cyfrifoldebau ni o ran trethi datganoledig yn golygu gweithio yn agos gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi hefyd o ran gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru. Fel roedd adroddiad diweddaraf y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn tynnu sylw ato, mae'r prosesau a'r trefniadau llywodraethu cadarn gyda CThEF yn rhoi sail gadarn i gasglu a gweinyddu cyfraddau treth incwm Cymru yn effeithiol ac effeithlon, wrth symud ymlaen. Cyhoeddwyd alldro cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2020-21 gan CThEF y llynedd. Roedd yr alldro yn weddol agos at y rhagolygon, o ystyried yr amodau economaidd eithriadol ar y pryd. Ychwanegwyd swm cysoni cadarnhaol at y gyllideb ar gyfer 2023-24. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl heddiw, ac fe ofynnir i'r Senedd gytuno ar benderfyniad trethi Cymru a fydd yn pennu cyfraddau treth incwm Cymru ar gyfer 2023-24, ac rwy'n gofyn i'r Aelodau am eu cefnogaeth nhw y prynhawn yma.
Diolch i chi, Gweinidog, am y datganiad yna. Fel rwy'n siŵr y gwyddoch chi, Gweinidog, gweithwyr Cymru sy'n mynd adref â'r pecynnau cyflog isaf yn y Deyrnas Unedig—swm rhyfeddol o £3,000 yn llai na'r rhai cyffelyb yn yr Alban. Y ffaith seml yw y byddai unrhyw gynnydd yn y dreth incwm yn ymosodiad uniongyrchol ar bobl sy'n gweithio'n galed. Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio â chynyddu cyfradd treth incwm Cymru eleni. Ar hyn o bryd, caiff tua £2.8 biliwn o gyllideb Llywodraeth Cymru ei godi drwy'r dreth incwm yn unig. Nid swm bychan mohono, fel gwyddom ni, ac mae pobl Cymru wedi ymddiried yn y Llywodraeth gyda'r arian hwn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Gyda gweithwyr Cymru ar y cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig, y peth olaf sydd ei angen arnyn nhw yw gorfod ymdrin â gwleidyddion sy'n awyddus i gymryd mwy o'r arian y buon nhw'n llafurio amdano. Fel gŵyr llawer ohonom ni yn y Siambr, mae gan Gymru ganran fawr o drethdalwyr sy'n talu'r gyfradd sylfaenol—mwy nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig. Er bod trethdalwyr cyfradd sylfaenol yn cyfrif am 92 y cant yng Nghymru, y ffigur hwnnw yw 87 y cant yng ngweddill y DU.
Fe wn i fod rhai yn y Siambr hon a fyddai'n hoffi cynnydd yn y dreth incwm i weithwyr dygn Cymru, ac rwy'n hynod falch o weld eu bod nhw yn y lleiafrif. Nid yw cam o'r fath yn ystyried y ffaith y byddai hynny'n taro yn anghymesur ar y rhai sy'n ei chael hi fwyaf anodd yn y gymdeithas. Mae hi'n bwysig ystyried y goblygiadau gwirioneddol iawn hefyd a fyddai oherwydd unrhyw newidiadau i'r gyfradd ychwanegol o dreth incwm. Rydym ni'n gwybod mai'r rhai sy'n talu'r gyfradd ychwanegol o dreth incwm sydd fwyaf tebygol o ymfudo oherwydd newidiadau yn y dreth. Felly ni fyddai cynnydd i'r gyfradd ychwanegol yn gwneud dim ond golygu y byddai llai o bobl yn talu trethi yng Nghymru. Rwy'n credu'n gryf y dylem ni fod yn ystyried torri trethi pryd bynnag mae hynny'n bosibl, nid eu codi nhw, yn arbennig felly mewn cyfnod anodd. Yn sicr, ni fyddem ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig yn codi treth incwm yn ystod tymor y Senedd hon, ac eto nid yw Llafur wedi addo dim o'r fath, gan ddewis dweud na fydden nhw'n codi treth incwm, fel clywsom ni gynnau, cyn belled â bod effaith economaidd coronafeirws yn parhau. Fe fyddwn i'n gobeithio, wrth symud ymlaen, cael gweld mwy o addewidion pendant gan Weinidogion Llafur fel bydd gan bobl yng Nghymru fwy o sicrwydd ynghylch cyfraddau'r trethi y gallan nhw fod yn disgwyl eu talu.
Ar bwynt ehangach trethi datganoledig, fe hoffwn i bwysleisio'r pwynt pe byddai Llywodraeth Cymru yn dymuno cyflwyno trethi eraill ar bobl Cymru, bod hi'n rhaid iddyn nhw wir ystyried yr hyn a fyddai'r effeithiau economaidd ac ariannol ar gymunedau ledled y wlad. Gweinidog, mae busnesau yng Nghymru yn wynebu argyfwng yng nghostau gweithredu eu busnesau ar hyn o bryd oherwydd pwysau chwyddiant byd-eang o ganlyniad i ymosodiad barbaraidd Putin ar Wcráin. Felly, rwy'n eich annog chi'n daer i ailystyried gweithredu treth dwristiaeth gan eich Llywodraeth ar fyrder.
I gloi, er fy mod i'n croesawu penderfyniad Gweinidogion Llafur i beidio â cheisio codi treth incwm eleni, mae angen i ni fod yn edrych yn fanwl ar y polisïau trethi cyfredol, gan sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pwerau datganoledig i helpu i feithrin twf busnesau, cynyddu cyflogau a sicrhau bod gwaith dyfal yn talu ledled y wlad i bawb. Diolch i chi.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am agor y ddadl? Mae'n teimlo ein bod ni wedi cael y ddadl yma dair, bedair o weithiau'n barod yn y mis neu ddau ddiwethaf, a dwi'n gwneud dim ymddiheuriad am y ffaith bod y diolch am hynny i Blaid Cymru. Rŷn ni wedi bod yn barod i fynd i'r afael â'r pwnc yma yn hytrach na jest nodio'r peth drwyddo, efallai, fel byddai wedi digwydd fel arfer. Ni fel plaid sydd wedi gwneud yr achos dros ddefnyddio'r pwerau yma sydd gyda ni. A pha bwrpas cael y pwerau oni bai bod yna barodrwydd gwirioneddol i'w defnyddio nhw, pan fydd amgylchiadau'n mynnu eu defnyddio nhw, wrth gwrs, ac nid o dan unrhyw amgylchiadau? Mae'n rhaid i mi ddweud, os ydy'r Llywodraeth ddim yn teimlo mai nawr yw'r amser i wneud hynny, yna edrychwch ar y trajectory: po fwyaf o lymder fydd yn dod o gyfeiriad y Ceidwadwyr, po fwyaf o doriadau fydd yn cael eu gorfodi ar Gymru, po gryfaf fydd y ddadl yn y pen draw i ddefnyddio'r pwerau yma, felly mae'n rhaid braenaru'r tir fel, pan fydd yr amser yn dod, fod Cymru'n barod i fynd, os oes angen o gwbl. Ond dwi ddim eisiau bod nôl fan hyn mewn blwyddyn yn clywed y Gweinidog eto'n dweud, 'Wel, dŷn ni ddim yn gwybod beth fyddai goblygiadau amrywio lefel trethi, ac yn y blaen, felly mae'n anodd i ni wneud unrhyw beth ynglŷn ag e.'
Dwi'n deall, wrth gwrs, ei fod e'n benderfyniad anodd, ond yr hyn sydd ddim wedi fy mhlesio i ynglŷn â'r drafodaeth gyffredinol o gwmpas hyn hyd yn hyn ydy natur fonocrom y drafodaeth: codi treth incwm, a dyna ni. Na—mae modd edrych ar hwn yn fwy creadigol, gyda mwy o haenau a defnyddio, efallai, dreth y cyngor i wrthbwyso'r impact ar bobl, efallai, sydd ddim ar gyflogau uwch ac yn y blaen. Ond, dyna ni—rŷn ni fan hyn heddiw gydag un cynnig o'n blaenau ni ac un mater i'w benderfynu.
Nawr, yn ystod y ddadl ddiweddar ynglŷn â datganoli mwy o bwerau treth incwm i Gymru, fe soniodd y Gweinidog cyllid yn ei hymateb fod deall y newidiadau ymddygiadol yn allweddol ar gyfer datblygu agenda polisi treth Cymru sy'n aeddfedu, ac rwy'n cytuno â hynny, wrth gwrs; mae Plaid Cymru yn cytuno â hynny. Mae edrych ar y pethau hyn yng nghyd-destun arbennig Gymru yn ffactor pwysig. Ond mae hi'n amlwg bod diffygion yn y sylfaen dystiolaeth. Yn wir, roedd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft yn mynegi siom am nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o effaith newidiadau ymddygiadol a fyddai'n codi oherwydd newid polisi. Nawr, fe gyfeiriodd y Gweinidog at astudiaeth o'r Swistir, wrth gwrs, ar newid ymddygiad, a'i bod yn ystyriaeth yng nghynnwys canllaw cyflym Llywodraeth Cymru, ac rydym ni o'r farn efallai mai hwnnw yw'r dirprwy agosaf sydd ar gael i Gymru. Ond rwy'n siŵr eich bod chi'n cytuno nad yw hwnnw cystal ag y gallai fod, ac yn sicr nid yw'n adlewyrchu hynodion sylfaen y dreth yng Nghymru ac, felly, mae angen dirfawr erbyn hyn am waith a gafodd ei deilwra yn benodol i Gymru i fwydo yn uniongyrchol i benderfyniadau'r Llywodraeth yn y dyfodol yn hyn o beth. Felly, fe hoffwn i gael deall gan y Gweinidog sut yn union y bydd hynny'n digwydd nawr ac er mwyn i ni ddeall, neu fod yn dawel ein meddyliau, na fyddwn ni yn yr unfan unwaith eto, fel dywedais i'n gynharach, yn gofyn yr un cwestiynau ac yn gwrando ar yr un atebion di-ddim.
Nawr, mae pŵer wedi bod gan Gymru i amrywio cyfraddau'r dreth incwm. Ni chafodd ei ddefnyddio erioed. Yn gyson, rydyn ni wedi cynnal yr un cyfraddau ag a bennwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ond mae hi'n ddiddorol, serch hynny, i Brif Weinidog Cymru, mewn ymateb i rai o'r penderfyniadau a wnaeth llywodraeth Truss, awgrymu y gallai honno fod yn senario lle gallem, ac efallai y dylem ni ystyried amrywio cyfraddau'r dreth incwm yng Nghymru. Ond, wrth gwrs, hyd yn oed wedyn, ni fyddai'r sylfaen honno o dystiolaeth ar gael, felly a ydych chi'n awgrymu, os yw'r Prif Weinidog o'r farn fod angen gwneud hyn, y gallwn ni ei wneud heb sylfaen dystiolaeth? A oes yna un rheol i Lywodraeth Cymru ac un arall i Blaid Cymru? Oherwydd, siawns nad oes angen i ni fwrw ati i wneud y gwaith hwnnw, fel bydd gallu gan y Llywodraeth i wneud hynny wrth deimlo'r angen i weithredu yn y ffordd honno.
Nawr, mae'r faith fod 85 y cant, neu fwy hyd yn oed, o drethdalwyr Cymru ar y gyfradd sylfaenol wedi cael ei dyfynnu yn rheswm i beidio ag addasu cyfraddau treth incwm Cymru, ond, fel dywedais i—ac rwy'n cydymdeimlo yn llwyr â'r anhawster sydd gyda hynny—rydym ni wedi cyflwyno ein hachos yn y fan hon dros ganiatáu i Gymru fod â'r un pwerau â'r Alban o ran newid a phennu ein bandiau treth incwm ein hunain, er mwyn i ni allu anelu unrhyw amrywiad yng nghyfradd y dreth incwm mewn dull mwy cyfreithiol.
Nawr, rwy'n ofni nad yw'r ddadl yn digwydd mewn gwirionedd i'r graddau y dylai hi fod nac yn mynd i'r afael â rhai o'r cymhlethdodau hyn fel y dylai. Fe geir consensws, os edrychwch chi ar Ganolfan Llywodraethiant Cymru, y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol ac eraill. Mae'r rhain yn gwestiynau y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac nid yw Llywodraeth Cymru, yn fy marn i, wedi ymateb yn ddigonol i hynny nac i'r her a osodwyd gennym ni o ran yr angen i gamu i'r marc i gynnal y drafodaeth honno'n iawn, ac rwy'n gobeithio, os rhywbeth, y bydd ein hymyraethau ni dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yn arwain at hynny, o leiaf. Diolch.
Rwyf i am ddechrau trwy ddweud fy mod i'n gefnogol yn ideolegol i gynyddu'r gyfradd dreth ar y ddau fand incwm uwch. Fe ddylai pobl sy'n ennill cyflogau uwch dalu mwy am ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Dyna ran o'r pris yr ydym ni'n ei dalu am fyw mewn cymdeithas wâr. Y broblem sydd gennym ni yw, rhif un, datganoli treth incwm yn rhannol—dim ond un rhan o'r dreth ar incwm a gafodd ei datganoli i ni. Nid yw incwm difidend wedi cael ei ddatganoli i ac nid yw'r dreth ar enillion cyfalaf wedi cael ei datganoli i ni. Felly, mae gennych chi ddwy dreth arall ar incwm sydd heb eu datganoli. Nid oes gennym unrhyw reolaeth o gwbl dros drethiant difidend; nid ydym ni'n cael unrhyw fudd ohono. Ac ystyr hyn yn syml yw: fe all pobl sy'n gweithio iddyn nhw eu hunain elwa ar ystod o fanteision. Ond y peth gorau i bobl hunangyflogedig yw sefydlu cwmni, talu difidend i chi eich hunan ac nid cyflog, ac yna fe fyddwch chi'n talu cyfradd dreth sylweddol is—8.75 y cant yn gyfradd sylfaenol, 33.75 y cant yn gyfradd uwch, 39.35 y cant yn gyfradd ychwanegol. Felly, yr hyn sydd gennym ni yw bod pobl yn defnyddio, yn unol â'r system sy'n gyfredol erbyn hyn, modd o symud at incwm difidend yn hytrach na chyflog, oherwydd mae hynny'n eu harbed nhw, rhag y ffigurau yr wyf i newydd sôn amdanyn nhw, rhag talu symiau sylweddol o arian.
At hynny, mae gennym symudiad trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Nid oes unrhyw fantais nac anfantais o ran trethiant o fod yn drethdalwr yng Nghymru neu yn Lloegr, ac er bod rhai pobl yn cael eu rhoi ar restr y wlad anghywir weithiau, fe ddylai'r effaith net fod yn ddim oll oherwydd nid oes unrhyw fudd o wneud hynny. Os ydych chi'n cyflwyno mantais o gwbl, yna mae hi'n ddigon posibl y bydd pobl yn cofrestru yn yr ardaloedd sy'n trethu isaf y gallan nhw eu dewis yn gyfreithiol. Fe all rhai pobl beidio â symud dros unrhyw ffin o gwbl; fe all rhai pobl sydd â sawl eiddo benderfynu pa eiddo y maen nhw'n dymuno ei gael yn brif breswylfa iddyn nhw, ac o'r herwydd, yn gallu newid maint y dreth y bydden nhw'n ei thalu.
Yna mae gennym statws di-ddomisil ar gyfer osgoi treth incwm. Mae hyn yn rhywbeth sy'n sylfaenol anghyfiawn yn fy marn i. Ni fyddwn ni'n gallu newid hynny heddiw, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y mae angen i ni siarad amdano. Codir treth enillion cyfalaf ar gyfradd o 10 neu 18 y cant ar drethdalwyr cyfradd sylfaenol, a 20 neu 28 y cant ar gyfraddau uwch, pob un yn sylweddol is na'r gyfradd dreth arferol. Fe fyddai cynyddu'r gyfradd dreth is yn effeithio ar rai sy'n ennill y cyflogau gwaelaf yn y gymdeithas. Fe fyddai cynnydd o 1c mewn treth incwm yn golygu y byddai angen talu, am bob £100 a delir ar hyn o bryd bydd rhaid talu £105. Beth mae £5 yn ei olygu? I'r rhai sy'n siopa yn Lidl, mae hynny'n golygu hanner pwys o fenyn, torth o fara a dau beint o laeth. I bobl sydd ar incwm isel, mae £5 yn bwysig pan fyddan nhw'n prynu bwyd. Pan ydym ni'n siarad am angen ariannol, ni fyddai cynyddu'r bil treth o unrhyw gymorth.
Mae nifer y trethdalwyr ar y gyfradd ychwanegol yng Nghymru yn ôl CThEF o dan 1,500 ar gyfer y flwyddyn hon. Mae'r rhain, wrth gwrs, yn symudol ar y cyfan. Ychydig iawn o arian a fyddai codi'r gyfradd ychwanegol yn ei godi i Gymru. Fy nisgwyliad i fyddai gostyngiad yn yr incwm a ddeuai yn sgil hynny. Rwyf i am gefnogi'r cyfraddau a awgrymir. Yr hyn y byddwn i'n annog Llywodraeth Cymru i'w wneud yw datganoli pob treth ar incwm yn rhannol, a fyddai'n golygu datganoli cyfraddau difidend yn rhannol a datganoli enillion cyfalaf yn rhannol, ar gyfer eu trethu nhw ar yr un gyfradd â threth incwm mewn gwirionedd. Fe fyddai hynny'n deg ac fe fyddai hynny'n golygu y gallem ni godi symiau sylweddol o arian oddi wrth bobl a oedd yn canfod ffyrdd i osgoi'r system. Rwy'n falch fod y Prif Weinidog yn nodio ei ben. Rwy'n credu bod hwn yn faes y dylem ni fod yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth wirioneddol iddo.
Rwy'n credu bod Silk wedi camgymryd, ac fe wn i, wrth edrych ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ein bod ni'n gobeithio cael Paul Silk i ddod atom ni i drafod ein sefyllfa ni o ran datganoli trethiant. Rwy'n credu bod rhai pethau yma a oedd yn ganlyniadau anfwriadol oherwydd datganoli trethiant, ac mae angen i ni wneud pethau yn iawn. Fe fyddai trethu difidendau ac enillion cyfalaf wrth i ni drethu incwm a enillir yn ffordd lawer tecach o fwrw ymlaen â hi.
Y Gweinidog cyllid nawr i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch i chi, a diolch i bob Aelod am y cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Wrth gwrs, wrth i ni symud ymhellach i'r tymor Seneddol, fe fyddwn ni'n parhau i adolygu swyddogaeth hanfodol cyfraddau treth incwm Cymru fel treth a ddatganolwyd yn rhannol yma yng Nghymru.
Rwy'n credu bod Llŷr wedi agor ei sylwadau brynhawn heddiw drwy ddweud ein bod ni wedi trafod cyfraddau treth incwm Cymru sawl gwaith yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n credu bod hynny'n beth da iawn, oherwydd mae cymaint o ddiddordeb o bob rhan o'r Siambr, gan bwyllgorau'r Senedd, gan gyrff academaidd y tu allan i'r Senedd. Rwy'n credu ambell waith bod angen i ni ein hatgoffa ein hunain ein bod ni ar ddechrau taith yn hyn o beth. Dim ond ym mis Ebrill 2019 y cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru, ond mae hi'n hollol iawn bod gennym ni olwg ar y dyfodol fel hyn wrth ystyried i ble yr awn ni nesaf.
Dim ond i ymateb i rai o'r pwyntiau penodol, rwy'n credu i effaith ymddygiadol fod yn rhywbeth a gafodd ei godi yn amlwg iawn yn y ddadl. Fe fyddwn i'n dweud nad newid ymddygiadol yw'r unig beth yr ydym ni'n ei ystyried wrth ystyried cyfraddau treth incwm Cymru. Yn amlwg mae'n rhaid i ni feddwl am y darlun economaidd cyffredinol, a baich y dreth yn gyffredinol ar bobl. Rwy'n credu bod y pwyntiau yr oedd Mike Hedges yn eu gwneud yn bwerus iawn yn yr ystyr hwnnw, gan nodi'r dewisiadau gwirioneddol y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd, a hefyd, wrth gwrs, yr addewidion a wnaethom i bobl yn ein maniffesto o ran cyfraddau treth incwm Cymru.
Gan droi at y pwynt ynglŷn ag effeithiau ymddygiadol, mae newid mewn cyfraddau treth, yn amlwg, yn debygol o effeithio ar ymddygiad pobl, ac fe fydd hynny ag effaith wedyn ar swm y dreth a gesglir. Cyfeiriodd Llŷr Gruffydd at ein canllaw cyflym, sy'n ystyried yr hyn yr ydym ni'n ei ddeall yw'r effeithiau ymddygiadol, ar sail astudiaeth o'r Swistir. Wrth gwrs, rydym ni'n edrych yn fanwl ar brofiad yr Alban, lle maen nhw wedi cyflwyno cyfraddau uwch yn ddiweddar ar gyfer y rhai sydd ar incwm uwch. Yn y flwyddyn sydd ohoni, mae disgwyl i refeniw treth incwm yr Alban wneud cyfraniad net negyddol i gyllideb Llywodraeth yr Alban mewn gwirionedd. Mae Comisiwn Cyllid yr Alban yn disgwyl effaith negyddol net o tua £100 miliwn ar gyllideb yr Alban eleni, er gwaethaf ymdrech dreth ychwanegol gan drethdalwyr yr Alban o tua £850 miliwn oherwydd newidiadau i'r gyfradd a'r trothwy. Mae hynny'n pwysleisio'r angen gwirioneddol i ni fynd i mewn i hyn gyda threm eglur iawn, gyda'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen arnom ni. Lle ceir bylchau o ran tystiolaeth, fe fyddwn ni'n sicr yn golygu archwilio'r hyn y gallwn ni ei wneud eto i lenwi'r bylchau hynny.
Fe wnaeth CThEF ddadansoddi'r newidiadau treth cynharach yn yr Alban, ac fe wnaethon nhw gynhyrchu rhai amcangyfrifon ar effeithiau ymddygiad. Cyhoeddwyd y rhain, a'u cyflwyno gerbron ein cynhadledd dreth ni'r llynedd. Roeddwn i o farn fod honno'n ymyrraeth bwysig iawn. Ond nid oedd yr amcangyfrifon hynny'n cynnwys ymatebion i newidiadau trethiant drwy ymfudo, ac fe fyddai hynny'n amlwg o ddiddordeb i ni yma yng Nghymru. Mae CThEF yn bwrw ymlaen erbyn hyn â gwaith ar set ddata hydredol, a fydd, rwy'n gobeithio, yn caniatáu rhywfaint o ddadansoddiad ychwanegol o effeithiau ymddygiadol newidiadau o ran y dreth, gan gynnwys ymatebion ymfudo. Fe fyddwn ni'n edrych yn ofalus iawn ar hynny, ac mae ein swyddogion ni mewn cysylltiad rheolaidd â CThEF.
O ran y pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch datganoli treth incwm ymhellach, fe fyddai mwy o bwerau i amrywio trothwyon treth incwm yn rhoi rhai arfau polisi ychwanegol i ni yn Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ni ystyried yr anghenion a'r risgiau yn ofalus iawn, gan gynnwys y risg o lawer mwy o gysylltiad â thwf cymharol ar sail trethiant rhwng Cymru a mannau eraill yn y DU. Rwy'n credu y byddai hynny'n arbennig o bryderus i ni o ran y cyfraddau uwch ac ychwanegol, lle mai 10c yn unig yw ein cysylltiad ni ym mhob band ar hyn o bryd. Mae twf mewn refeniw yn y ddau fand hyn yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol o flwyddyn i flwyddyn na'r refeniw cyfradd sylfaenol, ac yn tueddu i amrywio mwy rhwng gwahanol rannau o'r DU. Mae hyn yn effeithio, wrth gwrs, ar effaith cyllidebol net blwyddyn i flwyddyn datganoli treth incwm drwy'r mecanwaith addasu grant bloc, felly mae hwnnw'n gam peryglus i ni ei gymryd. Fe fyddai'n rhaid i ni wneud hynny gyda threm eglur, unwaith eto.
Pan ydym ni wedi siarad am yr agenda bwysig hon yn ddiweddar rydym ni i gyd, rwy'n credu, wedi edrych ymlaen at adroddiad terfynol y comisiwn cyfansoddiadol i weld yr hyn a fydd ganddo i'w ddweud am ein pwerau ni i drethu a'r broses i geisio datganoli rhagor o bwerau trethu. Rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan o'r gymysgedd. Rwyf i am sicrhau cydweithwyr fy mod i yn ystyried hon yn drafodaeth barhaus. Mater parhaus yw hwn lle mae angen caffael mwy o dystiolaeth, ac yn amlwg fe fyddwn ni'n parhau i gynnal y trafodaethau hynny ar gyfer dod o hyd i ffordd ymlaen.
Fe hoffwn i atgoffa cyd-Aelodau, wrth i mi ddod at ddiwedd fy nghyfraniad yn y fan hon, ei bod hi'n rhaid pasio'r penderfyniad cyfraddau treth incwm Cymru cyn y gyllideb derfynol. Heb refeniw cyfraddau treth incwm Cymru, ni fyddai hyd at £2.8 biliwn o gyllid ar gael yn ein cyllideb derfynol ni. Fe fyddai hynny, wrth gwrs, yn golygu bod ein cyllideb derfynol ni ar gyfer 2023-24 yn anfforddiadwy. Rwy'n gobeithio y byddai cyd-Aelodau yn cytuno na fyddai hwnnw'n ganlyniad derbyniol. Felly, rwy'n credu er gwaethaf yr heriau eang sy'n ein hwynebu ni, rydym ni wedi gwneud rhai penderfyniadau anodd yn seiliedig ar gydweithio, tryloywder a chynaliadwyedd, ac fe fyddwn ni'n ymrwymo i barhau i weithredu'r ymagwedd honno wrth i ni ystyried swyddogaeth treth incwm mewn blynyddoedd i ddod.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, ac felly byddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.