Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch i chi, a diolch i bob Aelod am y cyfraniadau i'r ddadl heddiw. Wrth gwrs, wrth i ni symud ymhellach i'r tymor Seneddol, fe fyddwn ni'n parhau i adolygu swyddogaeth hanfodol cyfraddau treth incwm Cymru fel treth a ddatganolwyd yn rhannol yma yng Nghymru.
Rwy'n credu bod Llŷr wedi agor ei sylwadau brynhawn heddiw drwy ddweud ein bod ni wedi trafod cyfraddau treth incwm Cymru sawl gwaith yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n credu bod hynny'n beth da iawn, oherwydd mae cymaint o ddiddordeb o bob rhan o'r Siambr, gan bwyllgorau'r Senedd, gan gyrff academaidd y tu allan i'r Senedd. Rwy'n credu ambell waith bod angen i ni ein hatgoffa ein hunain ein bod ni ar ddechrau taith yn hyn o beth. Dim ond ym mis Ebrill 2019 y cyflwynwyd cyfraddau treth incwm Cymru, ond mae hi'n hollol iawn bod gennym ni olwg ar y dyfodol fel hyn wrth ystyried i ble yr awn ni nesaf.
Dim ond i ymateb i rai o'r pwyntiau penodol, rwy'n credu i effaith ymddygiadol fod yn rhywbeth a gafodd ei godi yn amlwg iawn yn y ddadl. Fe fyddwn i'n dweud nad newid ymddygiadol yw'r unig beth yr ydym ni'n ei ystyried wrth ystyried cyfraddau treth incwm Cymru. Yn amlwg mae'n rhaid i ni feddwl am y darlun economaidd cyffredinol, a baich y dreth yn gyffredinol ar bobl. Rwy'n credu bod y pwyntiau yr oedd Mike Hedges yn eu gwneud yn bwerus iawn yn yr ystyr hwnnw, gan nodi'r dewisiadau gwirioneddol y mae llawer o bobl yn eu hwynebu yng Nghymru ar hyn o bryd, a hefyd, wrth gwrs, yr addewidion a wnaethom i bobl yn ein maniffesto o ran cyfraddau treth incwm Cymru.
Gan droi at y pwynt ynglŷn ag effeithiau ymddygiadol, mae newid mewn cyfraddau treth, yn amlwg, yn debygol o effeithio ar ymddygiad pobl, ac fe fydd hynny ag effaith wedyn ar swm y dreth a gesglir. Cyfeiriodd Llŷr Gruffydd at ein canllaw cyflym, sy'n ystyried yr hyn yr ydym ni'n ei ddeall yw'r effeithiau ymddygiadol, ar sail astudiaeth o'r Swistir. Wrth gwrs, rydym ni'n edrych yn fanwl ar brofiad yr Alban, lle maen nhw wedi cyflwyno cyfraddau uwch yn ddiweddar ar gyfer y rhai sydd ar incwm uwch. Yn y flwyddyn sydd ohoni, mae disgwyl i refeniw treth incwm yr Alban wneud cyfraniad net negyddol i gyllideb Llywodraeth yr Alban mewn gwirionedd. Mae Comisiwn Cyllid yr Alban yn disgwyl effaith negyddol net o tua £100 miliwn ar gyllideb yr Alban eleni, er gwaethaf ymdrech dreth ychwanegol gan drethdalwyr yr Alban o tua £850 miliwn oherwydd newidiadau i'r gyfradd a'r trothwy. Mae hynny'n pwysleisio'r angen gwirioneddol i ni fynd i mewn i hyn gyda threm eglur iawn, gyda'r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen arnom ni. Lle ceir bylchau o ran tystiolaeth, fe fyddwn ni'n sicr yn golygu archwilio'r hyn y gallwn ni ei wneud eto i lenwi'r bylchau hynny.
Fe wnaeth CThEF ddadansoddi'r newidiadau treth cynharach yn yr Alban, ac fe wnaethon nhw gynhyrchu rhai amcangyfrifon ar effeithiau ymddygiad. Cyhoeddwyd y rhain, a'u cyflwyno gerbron ein cynhadledd dreth ni'r llynedd. Roeddwn i o farn fod honno'n ymyrraeth bwysig iawn. Ond nid oedd yr amcangyfrifon hynny'n cynnwys ymatebion i newidiadau trethiant drwy ymfudo, ac fe fyddai hynny'n amlwg o ddiddordeb i ni yma yng Nghymru. Mae CThEF yn bwrw ymlaen erbyn hyn â gwaith ar set ddata hydredol, a fydd, rwy'n gobeithio, yn caniatáu rhywfaint o ddadansoddiad ychwanegol o effeithiau ymddygiadol newidiadau o ran y dreth, gan gynnwys ymatebion ymfudo. Fe fyddwn ni'n edrych yn ofalus iawn ar hynny, ac mae ein swyddogion ni mewn cysylltiad rheolaidd â CThEF.
O ran y pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch datganoli treth incwm ymhellach, fe fyddai mwy o bwerau i amrywio trothwyon treth incwm yn rhoi rhai arfau polisi ychwanegol i ni yn Llywodraeth Cymru. Mae'n rhaid i ni ystyried yr anghenion a'r risgiau yn ofalus iawn, gan gynnwys y risg o lawer mwy o gysylltiad â thwf cymharol ar sail trethiant rhwng Cymru a mannau eraill yn y DU. Rwy'n credu y byddai hynny'n arbennig o bryderus i ni o ran y cyfraddau uwch ac ychwanegol, lle mai 10c yn unig yw ein cysylltiad ni ym mhob band ar hyn o bryd. Mae twf mewn refeniw yn y ddau fand hyn yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol o flwyddyn i flwyddyn na'r refeniw cyfradd sylfaenol, ac yn tueddu i amrywio mwy rhwng gwahanol rannau o'r DU. Mae hyn yn effeithio, wrth gwrs, ar effaith cyllidebol net blwyddyn i flwyddyn datganoli treth incwm drwy'r mecanwaith addasu grant bloc, felly mae hwnnw'n gam peryglus i ni ei gymryd. Fe fyddai'n rhaid i ni wneud hynny gyda threm eglur, unwaith eto.
Pan ydym ni wedi siarad am yr agenda bwysig hon yn ddiweddar rydym ni i gyd, rwy'n credu, wedi edrych ymlaen at adroddiad terfynol y comisiwn cyfansoddiadol i weld yr hyn a fydd ganddo i'w ddweud am ein pwerau ni i drethu a'r broses i geisio datganoli rhagor o bwerau trethu. Rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhan o'r gymysgedd. Rwyf i am sicrhau cydweithwyr fy mod i yn ystyried hon yn drafodaeth barhaus. Mater parhaus yw hwn lle mae angen caffael mwy o dystiolaeth, ac yn amlwg fe fyddwn ni'n parhau i gynnal y trafodaethau hynny ar gyfer dod o hyd i ffordd ymlaen.
Fe hoffwn i atgoffa cyd-Aelodau, wrth i mi ddod at ddiwedd fy nghyfraniad yn y fan hon, ei bod hi'n rhaid pasio'r penderfyniad cyfraddau treth incwm Cymru cyn y gyllideb derfynol. Heb refeniw cyfraddau treth incwm Cymru, ni fyddai hyd at £2.8 biliwn o gyllid ar gael yn ein cyllideb derfynol ni. Fe fyddai hynny, wrth gwrs, yn golygu bod ein cyllideb derfynol ni ar gyfer 2023-24 yn anfforddiadwy. Rwy'n gobeithio y byddai cyd-Aelodau yn cytuno na fyddai hwnnw'n ganlyniad derbyniol. Felly, rwy'n credu er gwaethaf yr heriau eang sy'n ein hwynebu ni, rydym ni wedi gwneud rhai penderfyniadau anodd yn seiliedig ar gydweithio, tryloywder a chynaliadwyedd, ac fe fyddwn ni'n ymrwymo i barhau i weithredu'r ymagwedd honno wrth i ni ystyried swyddogaeth treth incwm mewn blynyddoedd i ddod.