Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl ar ein cyllideb derfynol 2023-24. Fel yr amlinellais wrth gyhoeddi ein cyllideb ddrafft, heb os, mae hon yn gyllideb a wnaed mewn cyfnod anodd ar gyfer cyfnod anodd. Mae'n adlewyrchu cyfyngiadau ein setliad cyllido, ond er gwaethaf hyn, rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol ar gyfer Cymru. Er gwaethaf yr heriau rydyn ni wedi'u hwynebu, mae'r gyllideb hon wedi ei llunio gydag ysbryd o gydweithio a thryloywder, gan roi pobl a chymunedau Cymru'n gyntaf. Yn yr ysbryd hwnnw rwyf am ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gyllideb hon. Ni fyddai'r gyllideb hon wedi bod yn bosibl heb gyfranogiad a chydweithrediad cyd-Aelodau o fewn fy mhlaid fy hun. Rwyf am ddiolch hefyd i Siân Gwenllian, y prif Aelod dynodedig am drefniadau cyllidebol y cytundeb cydweithio, am ein hymgysylltiad parhaus a'r berthynas waith gynhyrchiol sydd gennym. Hoffwn ddiolch hefyd i Jane Dodds am ein trafodaethau adeiladol, yn enwedig mewn cysylltiad â deintyddiaeth wledig, a'r ffordd mae'r rhain wedi llunio'r cynlluniau yr ydym yn pleidleisio arnynt heddiw.
Mae'n bwysig cydnabod hefyd bod hon yn gyllideb sy'n adeiladu ar y sylfeini a amlinellwyd gennym y llynedd fel rhan o'n hadolygiad gwariant tair blynedd. Darparodd ein cyllideb 2022-23 becyn cyllideb tair blynedd sylweddol hyd at 2024-25 gan ddefnyddio pob ysgogiad i gryfhau gwasanaethau cyhoeddus, mynd i'r afael â newid hinsawdd, mynd i'r afael â'r argyfwng natur a chefnogi busnesau a phobl yng Nghymru. Wrth i ni fyfyrio, mae hon wedi bod yn flwyddyn pan welsom, ac rydym yn parhau i weld, effeithiau parhaus chwyddiant. Rydym wedi gweld tri Phrif Weinidog, tri Changhellor a'r camreoli cyllid cyhoeddus ysgytwol gan Lywodraeth y DU. Roedd yr arian a ddarparwyd gan ddatganiad yr hydref yn llawer is na'r ymyraethau sydd eu hangen i ymateb i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. Rydym bellach wedi gweld yr effeithiau hyn yn cael eu hamlygu drwy broses y gyllideb 2023-24.