Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 7 Mawrth 2023.
Nid yw Cymru wedi cael llai na'i haeddiant; £2.5 biliwn ychwanegol yn yr adolygiad gwariant cynhwysfawr hwn ar gael i Lywodraeth Cymru. Ond rydych chi wedi treulio eich amser yn mynd o gwmpas y canolbarth yn dweud wrth ffermwyr defaid y byddai eu marchnadoedd yn dymchwel. Y llynedd, aethon nhw i fyny 17 y cant—17 y cant. Does neb yn fwy camarweiniol yn y Siambr hon nac yn y wlad hon na Democrat Rhyddfrydol.