Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch. Un o'r rhesymau a glywais pam mae Conwy yn wynebu cynnydd mor serth yw oherwydd bod arweinwyr blaenorol y cyngor yn rhy amharod i'w gynyddu mewn gwirionedd fel y dylai fod wedi digwydd. Fe wnaethon nhw ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn, fe adawon nhw'r cyngor heb y cydnerthedd sydd gan awdurdodau lleol eraill, a does ganddyn nhw ddim dewis ond ei wneud nawr oherwydd bod ganddyn nhw flynyddoedd o ddal i fyny o'u blaenau.