Grŵp 1: Y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG): ymgyrraedd at y nodau llesiant (Gwelliant 45)

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 7 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 5:30, 7 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Jane Dodds hefyd am y ffordd gydweithredol rydyn ni wedi llwyddo i gydweithio wrth ddatblygu a bwrw ymlaen â'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth? Mae adran 1 y Bil yn nodi dibenion y cyngor partneriaeth gymdeithasol, sef darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion ar y dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol a grëwyd gan y Bil; caffael cymdeithasol gyfrifol, fel y darperir ar ei gyfer gan y Bil; a cheisio cyflawni nod llesiant 'Cymru lewyrchus' gan gyrff cyhoeddus wrth gynnal datblygiadau cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

O ran adran 1(2)(b), yr adran y mae Jane Dodds yn dymuno ei diwygio, mae'r nodiadau esboniadol ar gyfer y Bil yn esbonio mai pwrpas yr adran hon yw galluogi'r cyngor partneriaeth gymdeithasol i ddarparu gwybodaeth neu gyngor am weithgarwch a wnaed gan gyrff cyhoeddus

'i wella llesiant economaidd Cymru pe bai’r gweithgarwch hwnnw’n gysylltiedig â nod “Cymru lewyrchus”.'

Dyma'r nod llesiant sy'n cyfeirio at sicrhau 'gwaith addas', neu 'gwaith teg', fel y bydd pan gaiff ei ddiwygio gan adran 20 o'r Bil hwn.

Byddai gwelliant 45 Jane Dodds, i bob pwrpas, yn ymestyn cwmpas y cyngor partneriaeth gymdeithasol i gynnwys yr holl nodau llesiant yn Rhan 4 o Ddeddf 2015. Nid yw hyn, yn anffodus, yn rhywbeth y gall y Llywodraeth ei gefnogi. Doedd hi byth yn fwriad i'r cyngor partneriaeth gymdeithasol gael pŵer dros bopeth i gynghori Gweinidogion ar drywydd cyrff cyhoeddus ar bob un o'r saith nod llesiant. Bydd cyrff eraill mewn sefyllfa llawer gwell i wneud hynny, gan gynnwys, wrth gwrs, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Yn hytrach, mae adran 1, fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd, eisoes yn galluogi'r cyngor partneriaeth gymdeithasol i adrodd ar y graddau y mae cyrff cyhoeddus yn dilyn y nodau llesiant ehangach, ond mewn perthynas â'r cyngor a'r wybodaeth y maent yn ei darparu i Weinidogion ar y bartneriaeth gymdeithasol a dyletswyddau caffael cymdeithasol gyfrifol a roddir ar gyrff cyhoeddus gan y Bil hwn. Byddai ehangu cwmpas swyddogaethau'r gyngor partneriaeth gymdeithasol yn fwy cyffredinol, yn y ffordd a gynigiwyd gan y gwelliant, ym marn y Llywodraeth, yn arwain at ddryswch diangen drwy greu cylchoedd gwaith a chyfrifoldebau sy'n gorgyffwrdd.

Mae hefyd yn wir y byddai'r gwelliant yn amharu ar gydlyniad mewnol y Bil. Mae hynny oherwydd bod adran 1(2)(b), fel y'i drafftiwyd ar hyn o bryd ac yn unol â'r gwelliant, yn cynnwys cyfeiriad at Ran 2. Mae'n dweud, '(gweler Rhan 2)'. Bwriad hyn yw cyfeirio darllenwyr at Ran 2, oherwydd dyna'r rhan o'r Bil sy'n cyfeirio at nod llesiant 'Cymru lewyrchus', mewn dau le. Ond nid yw Rhan 2 yn cyfeirio at unrhyw un o'r nodau llesiant eraill, sy'n golygu, os derbynnir y gwelliant, y bydd y cyfeiriad at y Rhan honno o'r Bil yn mynd yn ddryslyd iawn. Felly, am y ddau reswm hynny, ni fydd y Llywodraeth yn cefnogi'r gwelliant hwn, ac rwy'n annog eraill i wrthod y gwelliant hefyd. Diolch.