Pobl Ifanc ym Myd Busnes

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 1:36, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Busnes Cymru yn annog y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid yng Nghymru. Mae'n cefnogi uchelgais entrepreneuraidd, ac yn rhoi cyngor ymarferol er mwyn iddynt allu bwrw ymlaen â'u syniadau. Ers 2016, mae 5,000 o bobl ifanc wedi cael cymorth gan gyngor ar ddechrau busnes, ac mae bron i 700 wedi dechrau busnes. Mae'r cyngor hwn bellach yn cael ei ategu gan y warant i bobl ifanc wrth gwrs.