Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 8 Mawrth 2023.
Diolch. Fel y gwyddoch, mae 95 y cant o fusnesau'r DU yn ficrofusnesau neu'n unig fasnachwyr. Gyda llawer o ffocws polisïau datblygu economaidd ar ddenu cyflogwyr mawr, a pharatoi pobl ifanc ar gyfer gweithleoedd, mae'n rhaid inni holi a ydym yn gwneud digon i annog hunangyflogaeth. Roeddwn yn falch felly o weld cynllun sy'n cael ei redeg gan Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr, ar y cyd ag Ysgol Fusnes Rebel, i gynnig hyfforddiant am ddim i bobl ifanc ynghylch sut i ddechrau busnes. Weinidog, a fydd Llywodraeth Cymru yn monitro'r cynllun ac yn edrych ar ffyrdd naill ai o'i efelychu ar draws Cymru neu hyd yn oed ymgorffori'r gwersi yn y cwricwlwm ysgol? Diolch.