Diweithdra

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:55, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Mae'n anhygoel ac yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi bod wrthi'n ddi-baid yn creu cyfleoedd gwaith i bobl yn Ne Clwyd, ac ar draws Cymru yn wir. Ond Weinidog, pa mor bryderus ydych chi ynglŷn â cholli miliynau ar filiynau o bunnoedd o gyllid yr UE a'r effaith y gallai ei chael ar greu swyddi medrus gwerthfawr yng Nghymru?