1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2023.
4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth am ffigyrau diweithdra yn Ne Clwyd? OQ59225
Gwnaf. Y gyfradd ddiweithdra ar gyfer De Clwyd yn y 12 mis hyd at fis Medi 2022 oedd 3.7 y cant. Mae hynny i lawr 2.7 pwynt canran ar yr un cyfnod yn 2013.
Diolch, Weinidog. Mae'n anhygoel ac yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi bod wrthi'n ddi-baid yn creu cyfleoedd gwaith i bobl yn Ne Clwyd, ac ar draws Cymru yn wir. Ond Weinidog, pa mor bryderus ydych chi ynglŷn â cholli miliynau ar filiynau o bunnoedd o gyllid yr UE a'r effaith y gallai ei chael ar greu swyddi medrus gwerthfawr yng Nghymru?
Rwy'n bryderus iawn o hyd am y dewisiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU, nid yn unig am eu bod wedi torri addewidion maniffestos olynol, ond am eu bod yn gadael Cymru'n brin o ymhell dros £1 biliwn dros dair blynedd. Mewn gwirionedd, cynhaliodd Newsnight ymchwiliad yn ddiweddar lle'r oeddent yn credu y gallai'r bwlch fod cymaint â £1.4 biliwn. Nid pwysau cyllidebol yn unig yw'r bwlch y mae hynny'n ei greu i Gymru; mae yna gymaint o bethau y mae'n ein hatal rhag gallu eu gwneud.
Ac mae'n fwy na'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddweud, nid yw Llywodraeth y DU wedi gwrando arnom, nid ydynt wedi gwrando ar fusnesau ynghylch y gostyngiad yn yr arian, nac am gynlluniau dosbarthu'r gronfa honno. Mae'n tynnu arian oddi wrth sgiliau, oddi wrth fuddsoddi yn nyfodol yr economi. Nid yw awdurdodau lleol wedi cael eu clywed ynghylch cynllun y cronfeydd, gan eu gorfodi i gystadlu â'i gilydd, nid i weithio ar y cyd gyda'i gilydd. Nid ydynt wedi gwrando ar undebau llafur, addysg bellach nac addysg uwch. Os meddyliwch am yr hyn y mae prifysgolion yn ei ddweud, mae is-ganghellor Prifysgol Abertawe wedi bod yn glir iawn y bydd cannoedd o swyddi o safon uchel yn cael eu colli o Gymru os na cheir tro pedol uniongyrchol yn y gyllideb yr wythnos nesaf. Er hynny, rwy'n dal i gredu mai'r dull rydym wedi ei weithredu wrth fod eisiau dod â gwahanol weithredwyr mewn gwahanol ranbarthau yng Nghymru at ei gilydd yw'r un iawn i'w ddefnyddio. Pe bai gennym Lywodraeth y DU ar yr un donfedd yn barod i fuddsoddi yn y dyfodol mewn ffordd gydweithredol, gallem sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd pellach fyth ar greu cyflogaeth o ansawdd da yn Ne Clwyd, ac yng ngweddill Cymru yn wir.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Cymru, o dan Lywodraeth Lafur Cymru yn yr achos hwn, sydd â'r gyfradd gyflogaeth isaf ymhlith gwledydd y DU, mai Cymru oedd unig wlad y DU i weld gostyngiad mewn cyflogaeth, ac mai Cymru a welodd y cynnydd mwyaf yn y gyfradd anweithgarwch o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Ond ar 2.8 y cant, roedd cyfradd ddiweithdra De Clwyd yn is na'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan. A wnewch chi ymuno â mi felly i groesawu gwaith caled Aelod Seneddol De Clwyd, Simon Baynes, yn cynrychioli anghenion a diddordebau cwmnïau, sefydliadau ac etholwyr De Clwyd yn San Steffan, ag yntau wedi bod yn ymgyrchu'n llwyddiannus, er enghraifft, dros sicrhau bod cwmnïau gwrtaith fel Neatcrown Corwen Ltd yn Ne Clwyd yn cael eu cynnwys yn y cymorth a roddwyd gan Lywodraeth y DU i fusnesau ynni-ddwys. Ac wrth weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sicrhaodd grant o £13.3 miliwn o gronfa ffyniant bro y DU i Dde Clwyd gan Lywodraeth y DU, sy'n cynnwys gosod y to newydd yng ngorsaf Rheilffordd Llangollen Corwen, gyda'r to wedi ei gynhyrchu gan gwmni yn Ne Clwyd, Plant & Robinson Construction Limited.
Wel, edrychwch, rwy'n croesawu arian sy'n cael ei wario yn unrhyw ran o Gymru er mwyn sicrhau dyfodol economaidd gwell, ond rwy'n credu bod angen i'r Aelod edrych eto ar gynllun y gronfa ffyniant gyffredin a'r gronfa ffyniant bro. Roedd hanner awdurdodau lleol Cymru ar eu colled yn eu ceisiadau—proses geisiadau gystadleuol a fu'n draul ar amser, egni ac ymdrech. Ac efallai y carai siarad ag awdurdodau eraill yng Nghymru, gan gynnwys Wrecsam, a fu'n aflwyddiannus yn eu ceisiadau, neu Gyngor Sir y Fflint yn wir, nad oes unrhyw un o'u ceisiadau wedi'u derbyn. Mae hon yn broses gystadleuol sy'n gwastraffu amser, egni ac ymdrech. Byddem i gyd yn llawer gwell ein byd pe bai Llywodraeth y DU yn mabwysiadu ymagwedd lawer mwy cydweithredol, yn rhoi'r gorau i gystadlu a cheisio bachu pwerau oddi wrth Gymru. Rydym yn haeddu cael cyfleoedd i ddal gafael ar ein cyfrifoldebau, y pleidleisiodd pobl Cymru drostynt mewn dwy refferendwm, a chyllideb yr un faint ag o'r blaen, yn hytrach na cholli mwy na £1 biliwn. A byddai'n gadarnhaol iawn pe bai'r Torïaid yn y lle hwn yn gallu sefyll dros Gymru mewn gwirionedd, yn hytrach na gwneud esgusodion dros yr hyn sy'n cael ei wneud i Gymru gan eu meistri yn Llywodraeth y DU.