Prentisiaethau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:10, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer y prentisiaethau a gyflawnir drwy godi ymwybyddiaeth o'r rhaglen. Rydym yn hyrwyddo'r manteision i gyflogwyr a dysgwyr drwy ystod o weithgareddau marchnata a chyfathrebu drwy gydol y flwyddyn, ac wrth gwrs, mae yna bynciau a chwestiynau rheolaidd yn y Siambr a thu hwnt sy'n helpu i godi proffil y rhaglen.