Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 8 Mawrth 2023.
Diolch. Yng Nghymru, mae gradd-brentisiaethau yn dal i fod yn eu cyfnod peilot, ac nid ydynt ond ar gael ym maes TG, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch o hyd. Yn yr Alban, maent yn cynnig llawer mwy. Yn Lloegr, maent yn cynnig dros 100 o radd-brentisiaethau. Mae'r Llywodraeth hon yn gwneud cam â dysgwyr sydd eisiau aros yng Nghymru. Nid yw gradd-brentisiaethau lefel 7 NVQ wedi cael eu cyflwyno o hyd, yn wahanol i'r Alban a Lloegr. Felly, pam bod rhaid i Gymru fod y tu ôl i weddill y DU yn barhaus? Rydych yn dweud eich bod yn gweld yr angen a'r awydd am radd-brentisiaethau, felly lle mae'r cynigion? Nid yw ychwanegu dau arall ar ôl y peilot hwn yn ddigon da. Pryd y gallwn ddisgwyl i'r Llywodraeth hon ddal i fyny â Lloegr a'r Alban o'r diwedd yn hyn o beth?