Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 8 Mawrth 2023.
Diolch i Gareth Davies am y cwestiwn hwnnw, ac yn amlwg rwyf eisiau mynegi fy nhristwch mawr ynglŷn â'r hyn a ddigwyddodd i Kaylea, ac rwy'n credu ein bod i gyd wedi dilyn y disgrifiad o'r hyn a arweiniodd at ei marwolaeth, ac yn amlwg rydym yn cydymdeimlo'n fawr.
Mae adolygiad ymarfer plant wedi'i sefydlu, sef y ffordd arferol o fwrw ymlaen â'r achosion hyn, gyda'r sefyllfaoedd hyn sy'n codi, a bydd hwnnw'n dilyn ei gwrs. Mae cadeirydd wedi'i benodi, rwy'n credu, a phan fydd yr adolygiad o'r achos yn cyflwyno'i adroddiad, byddwn yn edrych ar yr hyn y maent yn ei argymell ac yn sicr byddwn yn ystyried hynny'n ddifrifol iawn. Ond adolygiad ymarfer plant yw'r cam arferol yn dilyn achos mor drasig.