Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 2:27, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yr hyn sy'n siomedig yw'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn amharod i gynnal adolygiad o wasanaethau plant ledled Cymru. Rydym yn dechrau gweld tuedd, Ddirprwy Weinidog, oherwydd gwelsom achos trasig marwolaeth Logan Mwangi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a marwolaeth Kaylea Titford ym Mhowys. Rhieni anfad a achosodd farwolaeth Logan, a rhieni esgeulus a achosodd farwolaeth Kaylea, mewn dau awdurdod lleol gwahanol yng Nghymru. Felly, a yw'r Gweinidog yn sylweddoli'r angen o'r diwedd am adolygiad plant ledled Cymru ar draws y 22 awdurdod lleol, i sicrhau bod gan ein holl gynghorau allu i ymdrin ag achosion fel rhai Logan Mwangi a Kaylea Titford?