Ambiwlans Awyr Cymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:19, 8 Mawrth 2023

Diolch i Russell George am y cwestiwn pwysig yma. Yn yr ymateb a’r ymgyrch ar lawr gwlad, mae hynny wedi dangos yn glir y pwysigrwydd mae'r elusen yma yn ei ddal yng nghalonnau pobl ein cymunedau ni. Fe wnes i fynychu amryw o gyfarfodydd cyhoeddus yn Nhywyn, Porthmadog, Pwllheli a Chaernarfon, gyda channoedd o bobl yn troi allan yng nghanol gaeaf er mwyn gwrando a rhannu profiadau. Y bobl yma a'r bobl ddaru drefnu'r ymgyrch a rhoi miloedd o oriau o'u hamser nhw, rhwng y dwsinau o'r bobl yna, ddaru sicrhau bod newid barn yn mynd i fod a bod yr ambiwlans awyr yn gwrando. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno efo fi i ddiolch i'r ymgyrchwyr yma am eu gwaith? Ond ymellach, a wnaiff y Gweinidog weithio efo'r rhanddeiliaid eraill er mwyn sicrhau na fydd y canolfannau ambiwlans awyr yn cael eu canoli i ffwrdd o'n cymunedau ac yr ydym ni'n medru sicrhau eu dyfodol nhw yn y cymunedau hynny yn edrych ymlaen? Diolch.