Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 8 Mawrth 2023.
Fel y dywedais mewn ymateb i Mike Hedges, yn y pen draw, rydym yn gobeithio y bydd pob plentyn dwy oed yn elwa o Dechrau'n Deg, ond wrth gwrs mae'n rhaid gwneud hyn fesul cam. Felly, mae pob awdurdod lleol yn cyflwyno eu cynlluniau ar gyfer ehangu Dechrau'n Deg, felly bydd sir Fynwy wedi cyflwyno cynllun, ac rwy'n credu ein bod yn y broses o gymeradwyo'r cynllun hwnnw. O fis Ebrill ymlaen, bydd ehangu cam 2 yn dechrau yn yr ardaloedd o amddifadedd mewn ardaloedd gwledig, ardaloedd o amddifadedd mewn etholaethau nad ydynt wedi cael Dechrau'n Deg yn draddodiadol, fel fy etholaeth fy hun, lle na cheir darpariaeth Dechrau'n Deg, ond fel y dywedwch, ceir pocedi o amddifadedd, a'n nod yw cyrraedd yr holl ardaloedd hynny, a bydd cam 2 yn mynd â hyn ymhellach. Ac wrth gwrs, elfen bwysig arall o'r ehangu yw ein bod eisiau rhoi pwyslais ar ddatblygu lleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.