2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2023.
4. Pa gymorth sydd ar gael i bobl yng Nghymru gydag osteoporosis? OQ59195
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi'r rheini sy'n byw gyda chyflyrau iechyd yr esgyrn yng Nghymru, ac mae gwella'r ddarpariaeth i bobl sydd ag osteoporosis yn flaenoriaeth. Mae fy natganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn nodi ein disgwyliadau fod yn rhaid i wasanaethau cyswllt toresgyrn fod ar gael a chael eu cryfhau yn yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru.
Diolch. Ar Ddiwrnod Osteoporosis y Byd fis Hydref diwethaf, cyfarfûm â'r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol yn y Senedd. Clywais fod pobl yng Nghymru yn dioddef 27,000 o doriadau osteoporotig bob blwyddyn; fod yna 100,000 amcangyfrifedig o doriadau asgwrn cefn na wnaed diagnosis ohonynt yng Nghymru; fod chwarter y bobl yn cael tri neu fwy o doriadau cyn iddynt gael diagnosis; fod problemau iechyd meddwl yn codi o'r boen gyson; a bod cymaint o bobl yn marw o achosion sy'n gysylltiedig â thorri esgyrn ag sy'n marw o ganser yr ysgyfaint neu ddiabetes. Clywais hefyd fod y therapïau a'r meddyginiaethau cywir yn bodoli, ond bod y loteri cod post o ran diagnosis yn golygu bod degau o filoedd o Gymry sydd angen gofal yn cael eu hesgeuluso.
Y mis hwn, anfonodd y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol e-bost yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru eu bod yn ymrwymo i ddarparu 100 y cant o wasanaethau cyswllt toresgyrn ym mhob bwrdd iechyd—er fy mod yn meddwl i chi ddweud bod hynny'n fwy o ddyhead nag ymrwymiad yn eich ymateb; rwy'n gobeithio y gwnewch chi egluro hynny yn eich ymateb—a fyddai'n golygu bod pob claf dros 50 oed gydag asgwrn wedi torri ar ôl cwymp yn cael ei archwilio a'i reoli er mwyn gostwng eu risg o dorri esgyrn yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, er hynny, pam mai dim ond 66 y cant o bobl dros 50 oed yng Nghymru sydd â mynediad at wasanaethau cyswllt toresgyrn pan fo'r ffigwr eisoes yn 100 y cant yn yr Alban a Gogledd Iwerddon? Sut yr ewch chi i'r afael â'r angen cudd presennol a ddisgrifiais yng Nghymru?
Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwch yn ymwybodol fod osteoporosis yn gyflwr cyffredin a gwanychol iawn. Mae tua 18 y cant o boblogaeth Cymru yn byw gydag ef, sy'n nifer uchel tu hwnt. Yn wir, mae un o bob dau o'r rhai ohonoch chi sydd dros 50 yn y fan hon yn debygol o dorri asgwrn yn y dyfodol—y rhai ohonoch chi sy'n fenywod—ac mae un o bob pump dyn dros 50 oed â risg uwch o dorri asgwrn. Mae'n rhaid i bawb ohonom fod yn ymwybodol fod hyn yn rhywbeth sy'n bosibl, a dyna pam ei bod hi'n gwneud synnwyr inni roi mesurau ataliol ar waith os gallwn. Yr hyn a wyddom yw ein bod wedi gweithio'n agos iawn â'r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol er mwyn datblygu'r rhaglen genedlaethol honno. Yn amlwg, cawsom y gynhadledd honno yn ôl ym mis Hydref, lle cawsom y gynhadledd genedlaethol gyntaf ar gyfer y gwasanaeth cyswllt toresgyrn, ac yn wir dyhead y gynhadledd honno a bwriad y gynhadledd honno oedd nodi ein disgwyliad y bydd y loteri cod post yn dod i ben ac y bydd darpariaeth o wasanaethau ar gael ledled Cymru gyfan.