Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 8 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr, Rhun. Yn amlwg, rydych yn siarad â phobl wahanol iawn i'r rhai y bûm innau'n siarad â nhw, oherwydd, mewn gwirionedd, rwyf wedi cael llawer o bobl yn dweud mai'r cam a gymerais oedd y cam yr oedd angen ei gymryd. A dweud y gwir, ddoe, fe siaradais â grŵp cyfan o feddygon ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd, a nododd eu bod yn deall bod yr hyn a oedd yn digwydd yn gam eithaf radical. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn nawr ein bod yn canolbwyntio ar y gwaith dan sylw, ein bod yn deall bod llawer iawn o waith i'w wneud. Byddaf yn cyfarfod â'r cadeirydd newydd ddydd Gwener yn y gogledd, i sicrhau bod dealltwriaeth o'r dasg anferth sydd o'n blaenau i wella'r bwrdd iechyd hwn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod pobl yn deall bod problemau gwirioneddol gydag arweinyddiaeth a rheolaeth, problemau gwirioneddol gydag effeithiolrwydd a dull llywodraethu'r bwrdd, problemau gwirioneddol gyda diwylliant sefydliadol a diogelwch cleifion, a dyna'r mesurau a fydd yn cael y ffocws gyda'r bwrdd newydd yn ei le.