Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:35, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn hollol iawn fod hyn—ei wneud yn destun mesurau arbennig—yn gam roedd angen ei gymryd nawr. Wrth gwrs, fe ddylai fod wedi bod mewn mesurau arbennig. Ond y cwestiwn yw pam fod gennym fwrdd sydd, ers wyth mlynedd, wedi bod angen bod mewn mesurau arbennig. Os na fydd y Gweinidog yn rhannu fy uchelgais i edrych ymlaen at ddechrau newydd, gyda byrddau iechyd newydd, beth am edrych yn ôl yn iawn i ddysgu mwy am y gwersi sydd angen eu dysgu? Mae un cyn-aelod annibynnol o'r bwrdd, a gafodd ei ddiswyddo i bob pwrpas yr wythnos diwethaf, unigolyn uchel ei barch, wedi awgrymu bod mwy na digon o sail i gael ymchwiliad annibynnol nawr—yr ymchwiliad i dwyll, y camweinyddu, yr oruchwyliaeth wael ar gontractau mawr gwerth miliynau o bunnoedd. Maent yn dweud eu bod yn argyhoeddedig fod adroddiad diweddar Archwilio Cymru ynddo'i hun yn cynnig digon o sail dros hynny. Mae bwrdd iechyd sy'n methu ers wyth mlynedd yn golygu wyth mlynedd o forâl isel staff, ac rwy'n teimlo dros bob un ohonynt. Mae'n golygu wyth mlynedd o wasanaeth gwael i'r boblogaeth. Mae angen inni wybod beth sydd wedi bod yn digwydd dros yr wyth mlynedd a mwy hynny, er mwyn inni allu diogelu'r cyhoedd. A wnaiff y Gweinidog gytuno â fy ngalwad am ymchwiliad cyhoeddus?