Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 8 Mawrth 2023.
Yn sicr, nid wyf am gytuno â galwad am ymchwiliad cyhoeddus, oherwydd rwy'n meddwl bod angen inni fwrw ymlaen â'r gwaith. Mae ymchwiliad cyhoeddus yn mynd i dynnu sylw pobl oddi ar y gwaith sydd angen ei wneud. Yr hyn y byddwn i'n dadlau yw bod hyn yn ddechrau newydd mewn gwirionedd. Am y tro cyntaf erioed yn hanes Cymru, rydym wedi gwneud bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig, ac rydym hefyd wedi cymryd y cam digynsail o roi cyfle i aelodau annibynnol ymddiswyddo. Yn amlwg, eu gwaith nawr fydd darllen adroddiad Archwilio Cymru, a oedd yn feirniadol iawn o'r swyddogion gweithredol, yn ofalus iawn. Ond mae angen inni sicrhau bod eu hawliau fel gweithwyr yn cael eu parchu, ac mae'n rhaid inni ddilyn y drefn briodol.