Endometriosis

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Cefin Campbell Cefin Campbell Plaid Cymru 3:00, 8 Mawrth 2023

Diolch yn fawr iawn. Wel, gan ei bod hi heddiw yn Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, ac yn Fis Ymwybyddiaeth Endometriosis, fel rŷch chi wedi fy nglywed i yn dweud o'r blaen yn y Siambr, dwi'n cael llawer iawn o ohebiaeth gan ferched yn y gorllewin sydd yn dangos nad yw'r ddarpariaeth ar gyfer menywod sy'n dioddef o endometriosis yn hanner digon da.

O ran y cynllun iechyd menywod, ar draws y 29 cyflwr lle mae anghydraddoldeb rhywedd yn bodoli, gan gynnwys endometriosis, rŷch chi wedi sôn bod NHS Cymru yn mynd i ddatblygu'r cynllun iechyd menywod yma, ond dwi'n synnu braidd gan ystyried y ffaith bod iechyd menywod yn bodoli mewn cyd-destun llawer ehangach na jest iechyd yn unig. Mae'n ymwneud â thlodi, mae'n ymwneud â deiet, mae'n ymwneud â chyflwr tai, ac yn y blaen. Dwi'n synnu mai nid chi fel Llywodraeth sydd yn arwain ar hyn, fel sydd yn digwydd yn yr Alban ac yn Lloegr. Allech chi gadarnhau i ni y bydd y cynllun iechyd menywod yma yn mynd i'r afael â chau'r bwlch o ran anghydraddoldeb rhywedd, fel bod merched yng Nghymru yn derbyn llawer gwell cefnogaeth?