Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 8 Mawrth 2023.
Dwi wedi ymrwymo i’r blaenoriaethau sydd wedi’u gosod yn y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched, ac mae NHS Cymru yn datblygu cynllun iechyd menywod 10 mlynedd ar ei gyfer. Mae hyn yn cynnwys y disgwyliad y bydd pob bwrdd iechyd yn sicrhau mynediad teg ac amserol i driniaeth briodol a chefnogaeth ar gyfer endometriosis.