Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 8 Mawrth 2023.
Mae rhai pobl wedi cwestiynu rôl amgryptio ac a all hyn gynnig y diogelwch sydd ei angen i ddiogelu data myfyrwyr sy'n cael ei gasglu mewn ysgolion, drwy sicrhau na all hacwyr wyrdroi cyfrinair neu allwedd. Ond mae'n rhaid inni ystyried bod rhaid i ddata biometrig plentyn fod yn ddiogel am ei oes—felly, chwech i wyth degawd—ac mae'n amhosibl dweud o dan ein system bresennol y gall data biometrig plentyn fod yn ddiogel am y 70 mlynedd a mwy nesaf. Gall y Swyddfa Gartref a'r heddlu wneud hyn nawr mewn gwirionedd.
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, GDPR, dylid dileu data myfyrwyr pan fyddant yn gadael yr ysgol, ond mae myfyrwyr sy'n dychwelyd i'w hysgolion ar ôl graddio wedi sylweddoli bod systemau biometrig yn dal i adnabod eu holion bysedd mewn llawer o achosion.
Felly, beth a wnaethom hyd yma yng Nghymru? Nôl yn 2021, cysylltais â Llywodraeth Cymru, nad oedd yn ymwybodol fod ysgolion yn defnyddio'r dechnoleg yma na phwy oedd yn gwerthu'r dechnoleg i'n hysgolion. Mewn ymateb, bu Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru Jeremy Miles yn gweithio gydag ysgolion a phobl ifanc i egluro canllawiau anstatudol i ysgolion yng Nghymru, ac nad oes amgylchiadau lle caiff ysgol neu goleg brosesu data biometrig dysgwyr yn gyfreithlon heb hysbysu pob rhiant i blentyn a chael y caniatâd angenrheidiol. Aeth Llywodraeth Cymru ymhellach hefyd gan gynhyrchu fersiwn hawdd i blant ei deall fel adnodd i bobl ifanc allu deall sut mae eu data'n cael ei gasglu, eu hawl i gydsynio, ac yn hollbwysig, eu hawl i ddweud na. Roedd yn wych cyflwyno hyn yn Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda'n Gweinidog addysg, ac rwy'n gwerthfawrogi'r dull rhagweithiol a chydweithredol hwn o egluro'r canllawiau. Fodd bynnag, dim ond ateb dros dro oedd hwn yn mynd i fod wrth ddisgwyl am y sgwrs ehangach sydd ei hangen ar frys yn y Siambr hon ac yn ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y gallwn ei dechrau heddiw. Oherwydd canfu arolwg barn gan Survation a gynhaliwyd yn 2018 ar ran Defend Digital Me, grŵp ymgyrchu dros hawliau plant a phreifatrwydd, i rieni ar draws Lloegr yr oedd ysgolion eu plant yn defnyddio technoleg fiometrig, fod 38 y cant wedi dweud nad oeddent wedi cael cynnig unrhyw ddewis, ac nad oedd dros 50 y cant wedi cael gwybod pa mor hir y byddai'r olion bysedd neu ddata biometrig arall yn cael eu cadw, neu pryd y byddent yn cael eu dinistrio. Nid oes gennym unrhyw astudiaethau cyfatebol yma yng Nghymru.
Mae Defend Digital Me hefyd wedi canfod enghreifftiau o ysgolion lle mae defnyddio technolegau biometrig yn orfodol i bob disgybl, neu lle mae'n rhaid i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ddefnyddio system fiometrig i gael eu cinio, tra bod pobl eraill yn cael dewis peidio. Yn 2022, fe wnaethant ofyn i 10 undeb llafur ar draws y DU gydag aelodau yn y byd addysg, a ddywedodd nad oes ganddynt unrhyw god ymarfer ar hyn i gynorthwyo staff gyda'u defnydd eu hunain a'u hawliau, nac ar gyfer disgyblion.
Mae hefyd yn mynd yn erbyn erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n dweud bod gan blant a phobl ifanc hawl i addysg ni waeth pwy ydynt; o dan erthygl 16 y confensiwn, ni fydd unrhyw blentyn yn destun ymyrraeth fympwyol neu anghyfreithlon â'i breifatrwydd, a hefyd mae gan y plentyn hawl i ddiogelwch y gyfraith rhag ymyrraeth o'r fath; ac erthygl 8 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol hefyd, sef yr hawl i breifatrwydd.
Yn seiliedig ar yr holl dystiolaeth hon, deuthum i'r casgliad fod casglu data biometrig mewn ysgolion yn ymwthiol, yn ddiangen, yn anghymesur, ac nid yw'n cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gyfredol na chonfensiynau hawliau dynol. Mae technoleg fiometrig mewn ysgolion yn fwy cyffredin nag a sylweddolwn. Fe'i cyflwynwyd yn gyntaf oddeutu 2000, a dros y degawd diwethaf, mae'r defnydd o'r technolegau hyn wedi cynyddu'n aruthrol, gyda thua 75 y cant o ysgolion uwchradd ledled y DU bellach yn defnyddio technoleg olion bysedd, yn ogystal â bod yn gyffredin iawn mewn ysgolion cynradd. Rydym yn gwybod, yn y 2000au cynnar, fod llawer o'r technolegau hyn ar un adeg yn gwmnïau o'r DU a werthai dechnoleg a arferai fod yn dechnoleg filwrol i'r sector cyhoeddus a phreifat, ond erbyn hyn dengys ymchwil fod y rhan fwyaf o ddarparwyr yn gwmnïau o'r Unol Daleithiau, Canada ac Israel. Fodd bynnag, mae i bwy, sut a pham mae cwmnïau preifat yn gwerthu'r data technoleg fiometrig i ysgolion yn parhau i fod yn aneglur. Mae'r ymchwilydd Pippa King, ymgyrchydd ar ddefnyddio data biometrig mewn ysgolion, ynghyd â Defend Digital Me, wedi gofyn am geisiadau rhyddid gwybodaeth. Ymatebodd rhai ysgolion, ond nid oes eglurder o hyd ynghylch pa adran o'r Llywodraeth neu gyrff eraill sy'n monitro a yw ysgolion yn cadw at Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012, faint o ysgolion sy'n defnyddio technoleg fiometrig, faint o ddisgyblion sydd â'u data biometrig yn cael ei storio ar gronfeydd data ysgolion neu gyflenwyr, neu a yw'r data'n hygyrch ac yn cael ei rannu y tu allan i'r ysgol. Ar ben hynny, mae sylw cyffredinol Rhif 16 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn dweud:
'Ni ddylai gwladwriaethau fuddsoddi cyllid cyhoeddus ac adnoddau eraill mewn gweithgareddau busnes sy'n tramgwyddo hawliau plant.'
Er mwyn cydymffurfio â'r safon hon, mae angen asesiad effaith ar hawliau dynol. Nid wyf yn credu bod y rhain yn cael eu gwneud.
Mae gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ran i'w chwarae yn hyn o beth, ac fe wnaethant geryddu Adran Addysg y DU yn ddiweddar, yn dilyn camddefnydd hir o wybodaeth bersonol hyd at 28 miliwn o blant. Canfu ymchwiliad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fod diwydrwydd dyladwy gwael yr Adran Addysg wedi golygu bod cronfa ddata o gofnodion dysgu disgyblion wedi cael ei defnyddio yn y pen draw gan Trust Systems Software UK i wirio a oeddent yn 18 oed ai peidio pan oeddent eisiau defnyddio cyfrif gamblo. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi ymateb o ddifrif i'r tramgwydd hwn, ond rwy'n galw arnynt yn awr i sicrhau bod asesiadau risg priodol a phrosesau caffael cwmnïau technoleg mewn lleoliadau addysgol yn cael eu rhoi ar waith i reoleiddio biometreg eang mewn ysgolion. Oherwydd, fel y mae Big Brother Watch wedi nodi, mae'n annerbyniol fod y dechnoleg casglu data biometrig yn cael ei gwerthu i ysgolion a rhieni gan gwmnïau diegwyddor fel opsiwn mwy diogel. Cyfarfûm â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ddiweddar i leisio fy mhryderon a chynnig anfon y dystiolaeth a gyflwynais heddiw atynt, ac rwy'n gobeithio y gallwn gydweithio ar hyn yn y dyfodol.
Rwyf hefyd wedi cyfarfod â chomisiynydd plant blaenorol a chyfredol Cymru, a hoffwn ofyn i'r swyddfa fabwysiadu hyn fel rhan allweddol o'u hagenda hawliau plant i ofyn iddynt sut maent yn teimlo ynglŷn â defnydd o'r technolegau hyn yn eu hysgolion. Mae'n fwy na chasglu olion bysedd yn unig; gall data biometrig gynnwys gwybodaeth am batrwm y croen, nodweddion corfforol neu fysedd neu gledrau unigolyn, nodweddion iris neu unrhyw ran arall o'r llygad, neu lais neu lawysgrifen unigolyn. Ym mis Hydref 2021, cofrestrwyd mwy na 2,000 o ddisgyblion mewn naw ysgol yng Ngogledd Ayrshire i dalu am eu cinio drwy ymddangos o flaen camera a weithredwyd gan y staff wrth y til. Roedd y system, a osodwyd gan CRB Cunninghams, yn cymharu'r plant â lluniau a gofrestrwyd ac yn didynnu gwariant y dydd o'u cyfrif. Ymatebodd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyflym, cafodd yr holl ddata ei ddileu, ac fe wnaeth yr ymchwiliad a ddeilliodd o hynny ddatgelu sut nad yw sefydliadau fel cynghorau lleol wedi'u paratoi'n ddigonol ar gyfe y dasg o gasglu, prosesu a chadw data personol. Fodd bynnag, dim ond drwy lens torri GDPR y llwyddwyd i graffu ar yr achos yn hytrach nag edrych i weld a ddylid cyflwyno hyn yn y lle cyntaf ai peidio. Mae Big Brother Watch wedi tynnu sylw at y ffaith bod gwledydd eraill, fel Ffrainc, Sweden a rhannau o'r Unol Daleithiau wedi gwahardd hyn oherwydd pryderon ynghylch preifatrwydd.
Felly, nid oes amwysedd. Fel gwleidyddion, rwy'n credu bod gennym rwymedigaeth foesol a moesegol i drafod y mater hwn ac a ydym am gael hyn yma yng Nghymru neu'r DU ai peidio. Mae'r comisiynydd biometreg a chamerâu gwyliadwriaeth, yr Athro Fraser Sampson, wedi rhybuddio bod angen ystyried a goruchwylio gwyliadwriaeth fiometrig mewn ysgolion yn ofalus. Dywedodd:
'Yn eironig braidd, mae gwyliadwriaeth fiometrig yn galw am wyliadwriaeth gyson. Er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei llywodraethu'n briodol, osgoi canlyniadau anfwriadol ac erydu rhyddid yn ddi-droi'n-ôl, mae'r maes hwn yn galw am gydnabyddiaeth ofalus—ac nid yw unrhyw un sy'n credu ei fod yn ymwneud â diogelu data yn unig wedi bod yn talu sylw.'
Unwaith eto, mae gennym gyfrifoldeb fel seneddwyr ac yn y Llywodraeth i graffu ar hyn.
Yn olaf, beth mae hyn yn ei wneud i lais ein plant yn ein cymdeithas? Rwyf am orffen drwy ofyn y cwestiynau ehangach hyn: pa neges y mae hyn yn ei rhoi i fyfyrwyr, fod modd defnyddio eu data biometrig, eu cyrff, yn gyfnewid am drafodiad ariannol? Fel oedolion, nid oes raid inni roi ein holion bysedd i gael bwyd, gwybodaeth, hawliau i addysg, a gobeithio y byddem yn protestio pe bai raid inni wneud hynny, ond mae'n rhaid i'n plant wneud hynny. Sut mae hyn yn dylanwadu ar y ffordd y mae ein plant yn gweld eu hawliau sifil? Oherwydd, fel y gwnaeth un person a ysgrifennodd ataf nodi, gall yr heddlu, o dan awdurdod Ei Fawrhydi a Deddf Seneddol, gasglu olion bysedd oedolion heb ganiatâd os ydynt wedi cael eu harestio, eu cyhuddo neu eu cael yn euog, ond mae'n rhaid i'n plant wneud hyn yn ddyddiol. A sut mae casglu data biometrig mewn ysgolion yn parhau'r ideoleg, os nad oes gennych unrhyw beth i'w guddio, nad oes gennych ddim i'w ofni—ideoleg beryglus sy'n deillio o fraint ac sydd bob amser yn cael ei defnyddio gan ormeswyr? Efallai na ddylai'r cwestiwn heddiw ofyn a yw adnodd yn ddigon cyfreithlon i'w ddefnyddio mewn lleoliadau addysgol ai peidio, ond yn hytrach, a yw'n parchu urddas pobl a nodau addysg, ac yn cydymffurfio â'r ystod lawn o hawliau dynol, rhyddid mynegiant, rhyddid barn a nodau'r hawl i addysg. Diolch.