5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) — Data biometrig mewn ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 3:29, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch o galon i Sarah Murphy am gychwyn y ddadl hon. Gwn fod Sarah wedi rhoi llais go iawn i'r pryderon ynghylch data biometrig a hawliau digidol, felly diolch am y cyfle i gefnogi hyn ac i gymryd rhan yn y ddadl hon. Diolch yn fawr iawn. 

Mae casglu a defnyddio data biometrig mewn ysgolion yn codi pryderon gwirioneddol am hawliau, cyfreithlondeb a defnydd priodol o ddata mor allweddol. Yn benodol, mae angen inni fod yn sicr fod ysgolion yn cydymffurfio â disgwyliadau Llywodraeth Cymru a'r gyfraith hefyd. I mi, mae dau gwestiwn yma: a yw'r ddeddfwriaeth yn ddigon da i warchod hawliau ein plant, ac a yw ysgolion yn gweithredu o fewn y ddeddfwriaeth a'r canllawiau gan Lywodraeth Cymru. Mae'n hynod bryderus clywed hanesion ynglŷn â sut mae ysgolion yn peryglu disgwyliadau Llywodraeth Cymru a data plant. Nid wyf yn credu eu bod yn gwneud hyn o unrhyw fwriad maleisus, ond yn hytrach o ddiffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â beth yw'r disgwyliadau, sy'n gallu arwain at ganlyniadau pryderus. Wrth wneud hynny, maent yn creu amgylchedd lle mae pobl ifanc yn dod i arfer â'r syniad fod eu data biometrig yn rhywbeth i'w drosglwyddo fel mater o drefn. Mae angen inni gofio nad yw systemau ond cystal â'r bobl sy'n eu defnyddio, ac mae angen inni fod yn ymwybodol o'r risgiau y byddant yn ymgorffori rhagfarn anymwybodol.

Er bod diogelu data yn fater sydd wedi ei gadw'n ôl, mater i Lywodraeth Cymru yw sut mae'r rheolau'n cael eu cymhwyso mewn ysgolion, fel y clywsom gan Sarah, ac mae'n galonogol iawn clywed am y gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma. Felly, mae angen inni adeiladu ar ganllawiau a disgwyliadau Llywodraeth Cymru, a roddwyd i ysgolion i ddiogelu data ein plant, ac wrth greu'r disgwyliadau ynglŷn â'i gasglu hefyd.

Yn Ewrop, rydym yn gweld cyfraith achosion yn ei gwneud yn glir fod anghydraddoldeb statws rhwng yr ysgol a'r disgybl yn ffactor wrth benderfynu a yw defnyddio data biometrig yn gyfreithlon ai peidio. Yn fy marn i, dyma egwyddor a ddylai lywio sut mae ysgolion yn gweithredu yng Nghymru hefyd. Yn fwy cyffredinol, mae angen inni fod yn wyliadwrus ynghylch ddeddfwriaeth diogelu data. Ar hyn o bryd mae Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth San Steffan wedi ei oedi unwaith eto yn y Senedd. Mae'r Bil Deddfwriaeth yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), sydd ar hyn o bryd yn Senedd San Steffan unwaith eto, yn golygu, ymhlith pethau eraill, fod adolygiad o'r ddeddfwriaeth diogelu data yn y DU, sydd i ddod, yn seiliedig ar gyfraith diogelu data'r UE. Rwy'n deall bod disgwyl i Lywodraeth San Steffan gyhoeddi ei chynigion ar gyfer GDPR y DU yn fuan. Mae angen inni fod yn ymwybodol o'r risg y bydd yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i lastwreiddio cyfraith diogelu data.

Rwy'n hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r Senedd am ddatblygiadau yn y maes hwn, ac y bydd yn sicrhau bod yr angen i ddiogelu data plant a phobl ifanc yn yr ysgol, a mannau eraill, yn cael ei gydnabod ac y gweithredir arno. Unwaith eto, diolch enfawr i Sarah am godi'r mater hwn, a gobeithio y byddwn yn parhau i drafod hyn ac yn cadw llygad ar unrhyw ddatblygiadau. Diolch yn fawr iawn.