6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Y Troad Terfynol? P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:40, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Cyn mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â'r ddeiseb, hoffwn nodi peth o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gennym y safonau iechyd a lles anifeiliaid uchaf yn y byd. Ar ddechrau'r tymor Llywodraeth hwn, nodais ein cynllun lles anifeiliaid pum mlynedd. Mae'n nodi ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu ac yn ategu ein fframwaith iechyd a lles anifeiliaid. Gyda'i gilydd, maent yn gosod y cyfeiriad ac yn gyrru ystod eang o welliannau lles anifeiliaid rwyf am eu gweld.

Mae gwaith ar orfodi lles anifeiliaid wedi mynd rhagddo, gyda galwad am dystiolaeth ar y gweill i ganfod a yw'r rheoliadau presennol yn parhau i fod yn ddigonol. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ariannu prosiect gorfodaeth ar gyfer awdurdodau lleol gydag 11 o swyddogion newydd yn dechrau ar eu gwaith, ac mae dros 40 wedi cael hyfforddiant dros y tair blynedd ddiwethaf.

Caeodd ein hymgynghoriad ar deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai ym mis Chwefror, gyda chrynodeb o'r ymatebion i'w gyhoeddi'n fuan. Rydym wedi bod yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill i archwilio'r defnydd o gewyll wedi'u cyfoethogi ar gyfer ieir dodwy, llociau porchella ar gyfer moch, a chewyll bridio ar gyfer adar hela. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban, rhanddeiliaid a sefydliadau lles anifeiliaid ar gynigion i wella lles anifeiliaid sy'n cael eu cludo.

Mae'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) yn gwneud darpariaethau i ddarparu diwygiadau pwysig. Yn anffodus, mae wedi'i oedi ar hyn o bryd, ac rwyf wedi bod yn annog Llywodraeth y DU i ailafael ynddo. Rydym wedi diweddaru canllawiau statudol ar gyfer y rheoliadau bridio cŵn, ac mae cyflwyno rheoliadau newydd ar werthu anifeiliaid anwes wedi ei gwneud yn drosedd i werthu ci bach neu gath fach na chânt eu bridio ar y safle lle cânt eu gwerthu. Rwy'n credu bod yr holl gamau hyn yn atgyfnerthu'r neges: mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth bendant yma yng Nghymru.

Ar sicrhau ansawdd bywyd da i anifeiliaid, mae'r Aelodau wedi cwestiynu a yw hyn yn wir am filgwn rasio ar hyn o bryd. Mae adroddiadau diweddar ac adborth ar y trefniadau presennol yn dangos yn amlwg fod lle i wella neu i sicrhau newid ehangach. Yn 2019, fe wnaethom sicrhau cyllid o dan y rhaglen gyflawni mewn partneriaeth i alluogi cyngor Caerffili i gynnal archwiliadau lles anstatudol yn stadiwm milgwn Valley. Cynhaliodd swyddogion iechyd anifeiliaid wyth arolwg mewn rasys rhwng mis Chwefror 2020 a mis Awst 2022. Ar dri achlysur, roedd milfeddyg yn bresennol gyda swyddogion. Er nad adroddwyd am unrhyw faterion lles difrifol yn yr arolygiadau hyn, nid yw'r trac yn gweithredu yn ôl safonau Bwrdd Milgwn Prydain a gafodd eu datgan yn arferion gorau gan gynrychiolwyr y diwydiant y cyfarfûm â hwy. Rwyf am i'r arolygiadau hyn barhau, ac rwy'n gwneud darpariaethau ar gyfer hynny. Maent yn cynnig amddiffyniad allweddol i'r milgwn a mewnwelediad i'r amodau yn ystod rasys, gan nodi mai cipolwg yn unig ar fywydau a lles y cŵn yw hwn.

Gwnaed cymariaethau â'r diwydiant rasio ceffylau. Mae rasio ceffylau ym Mhrydain ymhlith y gweithgareddau anifeiliaid sy'n cael eu rheoleiddio orau yn y byd. Mae Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain, ynghyd â'r RSPCA a Lles Ceffylau'r Byd, yn un o gefnogwyr y protocol lles ceffylau cenedlaethol. Mae o leiaf un swyddog milfeddygol Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain ar ddyletswydd ym mhob ras, ac mae'n goruchwylio lles ceffylau ac yn sicrhau bod y safonau a osodwyd gan yr awdurdod yn cael eu cynnal.

Mae llawer o ffactorau i'w hasesu wrth inni geisio gwella lles milgwn rasio, ac rwy'n ymroddedig i archwilio pob cyfle i weld sut y gellir cyflawni hyn. Fel y soniodd Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn ei sylwadau agoriadol, rwyf wedi ymrwymo i ymgynghori ar gynigion, a fydd yn cynnwys ceisio safbwyntiau ar drwyddedu a gwahardd rasio milgwn yng Nghymru. Byddwn yn archwilio pob opsiwn a byddwn yn ystyried barn y cyhoedd a'r holl randdeiliaid. Er bod angen trafodaethau ynghylch gwaharddiad llwyr ac wrth gwrs fe fydd yn creu penawdau, mae'n hanfodol ein bod yn ystyried y pwnc mewn ffordd resymol a phriodol.

Rhaid i'n hymgynghoriad fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau a bydd angen cymorth gan y rhai yn y diwydiant, yn ogystal, wrth gwrs, â'n sefydliadau iechyd a lles anifeiliaid ni. Mae hyn yn hanfodol fel bod y cyhoedd yn cael barn wybodus ar y sefyllfa bresennol a sut y gellid dod â newid cadarnhaol i wella lles a chreu bywyd gwell i filgwn rasio ar bob cam o'u bywydau, nid yn ystod rasys yn unig. Rwyf am wneud hyn cyn gynted â phosibl, a bydd gwaith ar sylfaen dystiolaeth gryfach yn dechrau eleni, gyda'r bwriad o gyhoeddi ymgynghoriad tua diwedd 2023.

Fe wnaeth fy sylwadau i'r Pwyllgor Deisebau adael pob opsiwn ar y bwrdd, gan gynnwys trwyddedu a gwaharddiad graddol, ac ni fydd y Llywodraeth hon yn arddel safbwynt ar ddyfodol rasio milgwn hyd nes y bydd wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Diolch.