Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 8 Mawrth 2023.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymgysylltiad cadarnhaol â'r pwyllgor, nid yn unig heddiw ond drwy gydol y broses? Mae'r Gweinidog yn hollol gywir: mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth bendant, a dyna safbwynt y pwyllgor yn ei waith ymchwiliol. Roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn cyfeirio at y gwahaniaeth rhwng rasio milgwn a'r awdurdodau rasio ceffylau yng Nghymru. Rwy'n meddwl bod honno'n wers bwysig i'w dysgu.
A gaf fi ddiolch i bob un o'r cyfranwyr yn y ddadl heddiw? Mae'n bwnc emosiynol; fe wyddom ei fod yn bwnc emosiynol. Fe wnaeth Jane Dodds fynegi'n dda iawn, fel y mae'n gwneud bob amser yn y Siambr hon, ei chof am ei hannwyl Arthur. Nid yw Jane am weld Arthur arall yn mynd drwy brofiadau tebyg. Nid wyf eisiau gweld unrhyw gi yn mynd drwy'r profiadau hynny. Ond roedd yna gymysgedd o deimladau. Fe wnaeth nifer o gyd-Aelodau gefnogi dull o wahardd yn raddol; roedd nifer o gyd-Aelodau'n anghytuno. Roedd nifer o gyd-Aelodau eisiau aros. Nid oedd Hefin David, er enghraifft, am arddel safbwynt hyd nes y bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gwblhau. Ond roedd yn gwbl briodol yn fy marn i ei fod wedi sôn, fel yr Aelod o'r Senedd dros Gaerffili, am ganlyniadau a phryderon ynghylch yr hyn a all ddigwydd nesaf i'w etholwyr. Roedd yn gywir i wneud hynny ac wrth gwrs, mae angen ateb y cwestiynau hynny.
Rwy'n credu mai'r hyn a glywsom heddiw oedd pa mor bwysig yw'r ymgynghoriad hwnnw. Rwyf am droi at ddau bwynt, rwy'n credu, a wnaed gan fy nghyd-Aelodau ar fy llaw chwith. Cyfeiriodd James Evans, yn gyntaf, at yr opsiwn niwclear o wahardd. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y canlyniadau i'r economi ac yn y blaen. Wel, mewn gwirionedd, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y canlyniadau hynny a'r hyn a benderfynwyd gennym oedd nad oedd yna opsiwn niwclear i wahardd yfory—os oedd tystiolaeth o blaid gwaharddiad, dylai fod yn ddull graddol, fel y gellir lliniaru'r canlyniadau hynny. Ac os caf droi at fy nghyd-Aelod Joel James, rwy'n credu mai'r hyn y ceisiodd ef ei bwysleisio oedd pwysigrwydd yr ymgynghoriad hwnnw. Fe wnaeth holl aelodau'r pwyllgor gefnogi ymgynghoriad cyhoeddus. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwnnw, ac edrychwn ymlaen at glywed canlyniad hynny.
Fe fyddwn i'n dweud, wrth fyfyrio ar y cyfraniadau, fy mod i'n credu mewn gwirionedd fod y pwyllgor wedi cael tystiolaeth gadarn gan y ddwy ochr. Cynhaliwyd dwy sesiwn dystiolaeth lafar yn ein pwyllgor. Clywsom gan gadeirydd Premier Greyhound Racing, clywsom gan berchennog trac rasio Valley yng Nghymru, a chlywsom gan gadeirydd ac aelod annibynnol o Fwrdd Milgwn Prydain. Ac ar yr ochr arall, clywsom gan Hope Rescue—y deisebydd—Achub Milgwn Cymru a sefydliad achub cŵn Almost Home. Roedd y dystiolaeth ger bron y pwyllgor ar y pryd yn ddigon i berswadio mwyafrif o aelodau'r pwyllgor i alw am waharddiad graddol. Ond rwy'n credu ei fod yn ein hatgoffa'n bwysig fod yna broses gywir fel y nodais wrth agor y ddadl hon. Bydd yna ymgynghoriad cyhoeddus. Cyfeiriodd y Gweinidog at hynny hefyd, a bydd yn cynnwys y cwestiwn pwysig, rwy'n meddwl, i aelodau'r pwyllgor, ar wahardd rasio milgwn yn raddol.
Ddirprwy Lywydd, nid wyf yn credu bod angen imi ddweud llawer mwy na hynny. Rwy'n credu, mewn gwirionedd, fod mwyafrif yr Aelodau yn y Senedd yn cefnogi gwaharddiad graddol. Mae yna rai sy'n cefnogi rheoleiddio. Yr hyn sy'n gwbl glir yw na all rasio milgwn yng Nghymru barhau fel y mae heddiw. Mae hynny'n gwbl glir. Diolch i'r ymgyrchwyr a'r deisebydd, oherwydd heb y deisebydd, ni fyddem wedi cael y ddadl hon heddiw; ni fyddem wedi cael yr ymchwiliad. Rwy'n edrych ymlaen at yr ymgynghoriad. Rwy'n edrych ymlaen at ei ganlyniad ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chyd-Aelodau yn rhinwedd fy swydd fel Aelod o'r Senedd, ac nid fel Cadeirydd, i barhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i gyflawni argymhellion yr adroddiad a chau'r llen ar rasio milgwn yng Nghymru. Diolch.