Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 8 Mawrth 2023.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i gynnig ein gwelliant.
Mae angen inni wneud pethau'n wahanol os ydyn ni am gyrraedd net zero erbyn 2050—yn sicr os ydyn ni am fod yn fwy uchelgeisiol a'i chyrraedd erbyn 2035, fel rŷn ni ym Mhlaid Cymru yn datgan. Mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Cyn imi fanylu ar y pwyslais rŷn ni eisiau ei weld ar wella dewisiadau pobl o ran darpariaeth trafnidiaeth cyhoeddus, dwi jest eisiau datgan yn glir unwaith eto bod yr uchelgais a'r sbardun tu ôl i'r penderfyniad yma gan Lywodraeth Cymru yn un dwi'n ei groesawu. Dyw e ddim yn benderfyniad sydd yn mynd i fod yn boblogaidd ym mhobman, ond os ydyn ni dim ond yn gwneud penderfyniadau hawdd a phoblogaidd, bydd dim planed ar ôl i ni. Felly, dwi eisiau jest gwneud hwnna'n glir.
Wrth ddweud hyn, mae'n rhaid inni hefyd gydnabod pwysigrwydd cymryd pobl Cymru ar y daith i'r dyfodol newydd o'n blaenau. Pwrpas ein gwelliant ni yw ailffocysu'r drafodaeth ar yr angen am fwy o fuddsoddiad a sicrwydd i'n darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn, unwaith eto, gwella a chryfhau dewis pobl, cynnig mwy o agency, fel byddwn ni'n dweud yn Saesneg. Achos dwi'n meddwl bod lot o bobl yn teimlo'n ofnus neu'n bryderus am y newidiadau hyn. Rŷn ni angen ffeindio ffyrdd o esmwytho pryderon pobl, o fodloni'r rhai sy’n poeni, ac i roi hyder iddyn nhw am beth fydd hyn yn ei olygu iddyn nhw.
Ar hyn o bryd, mae nifer o lefydd yng Nghymru lle dydy'r opsiwn o gymryd bws neu trên jest ddim ar gael, neu dydy’r opsiwn ddim yn realistig yng nghyd-destun bywydau pobl. Mae hyn yn arbennig o wir yn y cymoedd ac yn ardaloedd cefn gwlad Cymru, ac mae angen sicrhau na fydd y dyfodol newydd angenrheidiol yma yn arwain at arwahanu ac unigrwydd. Eto, rhaid inni fynd â’r bobl ar y siwrnai gyda ni. Ac mae'n rhaid inni wneud yr opsiwn o deithio ar drafnidiaeth cyhoeddus yn opsiwn hawdd ac opsiwn sy'n haws i bobl ei wneud. Rhwng 2019 a 2020, cynyddwyd prisiau bysys 3.5 y cant ac, yn yr un cyfnod, collwyd rhyw 690 o arosfannau bysiau, sy'n ei gwneud hi'n anoddach fyth i ddal bws. Gwnaeth etholwraig gysylltu â mi wythnos hon yn pwyntio mas ei fod e'n costio £2.20 i fynd ar y bws o yrion Caerffili i mewn i'r dref. Mae hwnna'n siwrnai o 1.5 milltir. A dywedon nhw hefyd, os oedden nhw eisiau mynd i gyngerdd yng Nghaerdydd gyda'r nos, dydy e ddim yn bosibl iddyn nhw gyrraedd adref ar y bws, achos mae’r bws olaf am 9 o'r gloch y nos, a dydy’r etholwraig ddim yn teimlo’n saff yn cerdded adref o'r orsaf trenau. Dwi'n meddwl mae'n rhaid inni edrych ar realiti bywydau pobl a'i wneud e’n bosibl i bobl newid eu ffyrdd nhw o fyw, achos eto, dydyn ni methu jest cario ymlaen yn cael mwy a mwy a mwy o ffyrdd i ddifancoll. Eto, dwi eisiau inni gyrraedd dyfodol lle mae pobl yn gweld bod hyn ddim dim ond yn bosibl ond yn normal.
Cyn imi orffen, Llywydd, gwnaf i jest dweud gair am drenau, achos mae hwnna wedi cael ei grybwyll yn barod yn y ddadl yma. Mae diffyg buddsoddiad yn ein rheilffyrdd yn ein dal ni nôl fel cenedl, a'r Ceidwadwyr yn San Steffan sydd ar fai. Does dim cyfiawnhad am y penderfyniad i wrthod Cymru y biliynau sy'n ddyledus inni am HS2. Mae'n cynrychioli ymosodiad cyfansoddiadol, amgylcheddol a moesol, a does dim cyfiawnhad am hynny. Mae'n rhaid inni ffeindio ffyrdd newydd o fyw, ond mae’n rhaid inni ffeindio ffyrdd o gyrraedd y dyfodol gwyrddach, gyda phawb ar yr un daith gyda'n gilydd, dim neilltuo neu amddifadu cymunedau sydd ddim yn ffitio'r model, ond gwneud y buddsoddiad, mynnu pwerau ychwanegol gan San Steffan, a chreu realiti newydd. Dyna'r ffordd o greu unrhyw lwybr newydd. Dyna'r ffordd i wneud yn siŵr bod hyn yn newid ar gyfer pobl Cymru gyfan.