7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr adolygiad ffyrdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 8 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:22, 8 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n derbyn bod Canol Caerdydd ar ben arall y wlad. Un gymhariaeth fyddai fel gofyn i rywun feicio o Grangetown i Lan yr Afon drwy Lanrhymni: gallwch ei wneud, ond nid yw'n ymarferol. Mae angen inni sicrhau bod y cysylltiadau teithio llesol hynny'n ymarferol ac yn ddeniadol i bobl. Ni wnewch chi gerdded na beicio o Lanfairpwll i Barc Menai, ddau gan llath i ffwrdd, drwy fynd ychydig filltiroedd i'r cyfeiriad arall dros bont Menai.