Part of the debate – Senedd Cymru am 5:22 pm ar 8 Mawrth 2023.
Mae'r adolygiad ffyrdd, fel rôn i'n dweud, yn cyfeirio at y posibilrwydd o ddefnyddio'r dec isaf ar gyfer ehangu rheilffordd ar gyfer y dyfodol, er mwyn ehangu trafnidiaeth gyhoeddus, a dyna ichi enghraifft yn fanna o'r dryswch yn yr adroddiad ac yn ymateb y Llywodraeth. 'Does dim angen pont,' rydyn ni'n ei glywed, 'Mae angen annog defnydd trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.' A dwi'n cytuno'n llwyr, wrth gwrs, ond does yna ddim awgrym o sut i ehangu trafnidiaeth gyhoeddus heblaw efallai dwyn llwybr posib ar gyfer teithio llesol.