1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023.
1. Pa ystyriaeth roddodd Llywodraeth Cymru i Fil diwygio cydnabod rhywedd yr Alban wrth greu'r 'Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru'? OQ59239
Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Roedd yr ymrwymiad i geisio pwerau datganoledig sy'n ymwneud â chydnabod rhywedd, ac i gefnogi ein cymunedau traws, wedi'i gynnwys yn ein rhaglen lywodraethu ac mae'n rhan o'r cytundeb cydweithio. Mae'r cynllun gweithredu LHDTC+ wedi cynnwys yr ymrwymiad hwn ers ei ddrafft cyntaf. Mae'r rhain yn bolisïau a wnaed yng Nghymru, nid yn yr Alban.
Prif Weinidog, fis diwethaf, fe wnaethoch chi ddatgan eich bwriad i gopïo Bil hunanddiffinio yr Alban wrth ryddhau eich cynllun gweithredu LHDTC+, sy'n bwriadu ei gwneud hi'n haws i ddynion biolegol fynd i mewn i fannau ar gyfer menywod yn unig, gwthio ideoleg rhywedd mewn ysgolion, ac annhegwch mewn chwaraeon. Prif Weinidog, roedd dicter mawr yn yr Alban ynghylch y Bil diwygio cydnabod rhywedd, gyda phleidleisio yn dangos yn gyson nad oedd y cyhoedd yn yr Alban yn cytuno â'r cam. Ac mae'n amlwg o'r farn gyhoeddus ar draws Cymru a'r DU fod pobl yn gweld pwysigrwydd gwarchod menywod a merched, a pham y byddai Bil o'r fath yn peryglu hynny. Ond eto, rydych chi'n dal i fwrw ymlaen â'ch cynlluniau. Wnaethoch chi ddysgu dim byd o'r llanast yn yr Alban? Byddai'r cam hwn i gopïo'r Alban dim ond yn gwadu ffaith fiolegol a thawelu lleiafrif bach yn eich plaid. Mae dynion a menywod ar hyd a lled y wlad yn wirioneddol bryderus ynghylch eich gweledigaeth unllygeidiog, ac maen nhw hefyd yn pryderu oherwydd i Ysgrifennydd Gwladol yr wrthblaid rannu delweddau yn uniongyrchol o'ch cynhadledd Llafur Cymru gan annog casineb yn erbyn y rhai sy'n sefyll dros fenywod a merched. Prif Weinidog, a ydych chi'n esgusodi eu hymddygiad, ac ydych chi o'r diwedd yn deall y pryder gwirioneddol ynghylch eich cynllun a'ch bwriad i gopïo Bil hunanddiffinio yr Alban?
Llywydd, mae pobl trawsryweddol sy'n mynd trwy'r broses o newid eu rhyw cyfreithiol yn haeddu ein parch, ein cefnogaeth a'n dealltwriaeth. Dyna ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol yr Alban ar lawr Tŷ'r Cyffredin wrth gyflwyno cynnig y Llywodraeth i rwystro'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn Yr Alban. Rwy'n credu y byddai'n fuddiol i'r Aelod gymryd yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban o ddifrif, a meddwl am yr hyn y mae hi wedi'i ddweud ar lawr y Senedd y prynhawn yma drwy'r lens honno.
Does dim byd yn yr hyn y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu ei wneud a fyddai'n haeddu'r disgrifiad y mae'r Aelod wedi'i gynnig i ni yma y prynhawn yma. Byddwn ni'n dilyn, fel y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, nid polisïau a ddatblygwyd mewn mannau eraill, ond polisïau y byddwn yn eu datblygu yma yng Nghymru—polisïau a oedd yn ein maniffesto, y cawsom ein hethol arnyn nhw, polisïau sydd wedi bod yno yn ein rhaglen lywodraethu ers dechrau tymor y Senedd hon, a pholisïau sydd wedi'u nodi'n fanylach yn y cynllun gweithredu LHDTC+, gyda'i 46 o gynigion polisi gwahanol. Mae'r rheini'n seiliedig ar yr ymdeimlad hwnnw o barch, cefnogaeth a dealltwriaeth, a phe byddai'r ddadl hon yn cael ei nodweddu'n fwy gan y rhinweddau hynny, byddai'n elwa o'r herwydd.