Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 14 Mawrth 2023.
Llywydd, gan ddefnyddio cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi 20 o brosiectau ledled Powys yn y flwyddyn ariannol bresennol drwy Gronfa Cymru Actif. Mae hyn yn ychwanegol at brosiectau cyfalaf megis y trac pwmp newydd ger Tal-y-bont ar Wysg a rhoi wyneb newydd ar y trac athletau yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu.