1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddarparu cyfleusterau chwaraeon modern ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed? OQ59252
Llywydd, gan ddefnyddio cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru, bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi 20 o brosiectau ledled Powys yn y flwyddyn ariannol bresennol drwy Gronfa Cymru Actif. Mae hyn yn ychwanegol at brosiectau cyfalaf megis y trac pwmp newydd ger Tal-y-bont ar Wysg a rhoi wyneb newydd ar y trac athletau yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu.
Hoffwn ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich ateb. Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o £12.6 miliwn mewn cyfleusterau ar lawr gwlad yng Nghymru, gyda phrosiectau unigol o fuddsoddi wedi'u cyfarwyddo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Rwyf yma heddiw i gefnogi'r alwad am fwy o fuddsoddiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Mae'r canolbarth ar ei cholled o ran arian parod y mae mawr ei angen yn ffrydiau cyllido Llywodraeth Cymru ar gyfer cyfleusterau chwaraeon. Roedd Powys yn hanner isaf holl awdurdodau lleol Cymru, ac yn bennaf mae hynny oherwydd nifer y boblogaeth. Ond nid wyf yma i feirniadu yn unig, oherwydd mae gennyf i ateb ar gyfer ble gellid gwario'r arian hwnnw o bosib. Mae angen uwchraddio cyfleusterau yn Rhaeadr yn fy etholaeth i yn daer, er mwyn rhoi cae o safon uchel iddyn nhw a all gynhyrchu sêr chwaraeon Cymru'r dyfodol. Felly, Prif Weinidog, rwy'n gwybod nad oes gennych chi unrhyw ddylanwad uniongyrchol dros yr arian hwnnw, ond eich presenoldeb—. Os byddech chi'n dweud ar gof a chadw y dylai Cymdeithas Bêl-droed Cymru edrych o ddifri ar gynigion Rhaeadr, rwy'n hollol siŵr y byddai eich dylanwad yn mynd yn bell i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cael y buddsoddiad yna sydd ei angen yn amlwg ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.
Wel, y ffordd orau un, Llywydd, fyddai pe na bai Llywodraeth y DU wedi defnyddio pwerau Deddf y farchnad fewnol yn uniongyrchol i ariannu Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Dyna arian a ddylai fod yma yng Nghymru, gyda phenderfyniadau yn ei gylch yn cael eu gwneud yma yng Nghymru. Yna, byddwn i'n gallu helpu'r Aelod yn llawer mwy uniongyrchol.
Byddwch yn cofio'r dadleuon yn Nhŷ'r Cyffredin—ac yn enwedig yn Nhŷ'r Arglwyddi—pan oedd yn rhaid i Weinidogion Llywodraeth y DU esbonio bod pwerau Deddf y farchnad fewnol yn angenrheidiol dim ond i ymyrryd yn y materion mwyaf difrifol, pan oedd penderfyniadau economaidd hynod bwysig yn y fantol, a dyna pam roedden nhw'n cael eu gwneud. Wel, o fewn ychydig fisoedd, roedden nhw'n cael eu defnyddio nid yn unig i ariannu Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ymdrin â chaeau pêl-droed yng Nghymru, ond mae Llywodraeth y DU wedi cymryd dyfodol cyrtiau tenis Cymru hefyd i'w dwylo eu hunain. Nawr, mae yna fater o arwyddocâd economaidd dwys. Yr hyn y mae'n ei ddweud wrthych yw na fwriadwyd erioed i Ddeddf y farchnad fewnol gael ei defnyddio yn y ffordd yr awgrymodd y Gweinidogion hynny. Fe'i cynlluniwyd bob amser er mwyn i Lywodraeth y DU allu gweithredu eu hoff brosiectau, gan gymryd penderfyniadau a chyllid oddi ar Gymru.
Dau ddarn o newyddion da, serch hynny, i James Evans: yn gyntaf oll, bydd Cronfa Cymru Actif ar agor eto ym mis Ebrill, ac o gofio bod 20 o brosiectau gwahanol yn cael eu hariannu yn etholaeth yr Aelod yn y flwyddyn ariannol bresennol, rwy'n credu y bydd hynny'n newyddion da, gobeithio, i'r prosiectau hynny ym Mhowys. Ac o ran y cynllun penodol y mae'r Aelod wedi'i grybwyll y prynhawn yma, rwy'n eithaf sicr y bydd yn cael ei gymryd o ddifrif gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a hynny ar yr amod y gall roi ei hun o fewn meini prawf y cynllun, ac rwy'n siŵr y bydd pobl yn gweithio'n galed i wneud hynny, rwy'n eithaf sicr y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn rhoi ystyriaeth briodol a difrifol iddo.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Gan gadw at thema cwestiwn James Evans ynghylch cyfleusterau chwaraeon roeddwn eisiau canolbwyntio ar byllau nofio. Mae llawer ohonom, rwy'n siŵr, wedi dysgu nofio mewn pyllau nofio, yn llythrennol yn rhoi sgiliau achub bywyd i ni, ac rydym yn gwybod bod pyllau nofio yn hanfodol ar gyfer iechyd meddwl, iechyd corfforol ac yn enwedig ar gyfer pobl ag anableddau. Ar hyn o bryd, rydym yn deall nad oes unrhyw gamau gan Lywodraeth Geidwadol y DU i helpu gyda biliau ar gyfer eiddo amhreswyl, felly tybed beth allai Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu awdurdodau lleol sy'n ei chael hi'n anodd iawn gyda biliau i gynhesu ein pyllau nofio, drwy edrych, rwy'n credu, ar Gyngor Sir Dyfnaint a'u harloesedd gyda boeler digidol. Tybed a oes opsiynau i ni ystyried ffyrdd arloesol o sicrhau bod ein pyllau nofio, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Powys, yn aros ar agor. Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds am hynna. Rwy'n gwybod bod y sector hamdden, nid dim ond yng Nghymru, ond dros y ffin hefyd, yn siomedig fod pyllau nofio wedi cael eu heithrio o ran cymorth o dan gynllun disgownt newydd Bil Ynni Llywodraeth y DU. Os ydych chi'n rhedeg amgueddfa, byddwch chi'n cael cymorth gan y cynllun hwnnw, ond os ydych chi'n rhedeg lle sy'n ynni-ddwys fel canolfan hamdden, ac yn enwedig pwll nofio, yna ni fyddwch yn cael unrhyw gymorth o gwbl. Mae hynny'n ymddangos yn wrthnysig, on'd yw e, o ystyried ein bod yn gwybod mai'r rhan ddrutaf o unrhyw ganolfan hamdden yw'r pwll nofio ei hun. Felly, byddwn yn gobeithio gweld yn natganiad y gwanwyn yfory ryw newid synhwyrol i'r cyfeiriad hwnnw, fel y bydd canolfannau hamdden a'r awdurdodau lleol sy'n eu cefnogi yn gallu talu'r costau hynny yn y ffordd honno.
Mae enghraifft Dyfnaint yn un ddiddorol, onid yw, oherwydd mae'n datrys y broblem mewn ffordd wahanol. Nid yw'n ceisio talu'r biliau uwch yn unig, mae'n ceisio dod o hyd i ffynonellau ynni newydd y gellir eu defnyddio. Mae llawer iawn o enghreifftiau yma yng Nghymru lle mae gennych chi ddiwydiannau sy'n creu llawer iawn o wres, lle mae'r gwres hwnnw yn syml wedi'i wasgaru i'r awyr, a lle, pe byddai'r agosatrwydd daearyddol yn ddigon addas, gallech geisio ailddefnyddio'r gwres hwnnw mewn ffordd sy'n darparu nid yn unig ar gyfer pyllau nofio, ond mewn cynlluniau gwresogi ardal ac ati. Mae llawer o feddwl yn cael ei roi, mewn sawl rhan o Gymru, i'r ffordd honno o arloesi ac arbrofi i ddod o hyd i ffyrdd gwell o gynhesu'r cyfleusterau lleol pwysig iawn hynny i'r dyfodol.