Diwydiant Ynni Adnewyddadwy

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:06, 14 Mawrth 2023

Brif Weinidog, petai yna awdurdod lleol sydd â’u cronfeydd pensiwn wedi'u buddsoddi mewn cwmni datblygu ynni penodol yn derbyn cais gan y cwmni hwnnw i wneud datblygiad yn eu hardal nhw, a ydych chi'n teimlo y byddai yna wrthdaro buddiannau mewn sefyllfa fel yna? Oherwydd yn amlwg, petai cynllun, prosiect neu isadeiledd lle mae’r awdurdod lleol yn rhan o’r penderfyniad yn cael mynd yn ei flaen, mi fyddai hynny’n dod â budd i gronfeydd pensiwn yr awdurdod lleol yna. Oes yna risg ynglŷn â pha mor ddiduedd fyddai'r broses yna yn eich barn chi?