Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Mawrth 2023.
Wel, dwi ddim wedi cael cyfle i ddeall y pwynt penodol y mae Llyr Gruffydd wedi’i wneud, Llywydd, so byddai’n well i fi ystyried beth fydd ar y Record y prynhawn yma. Rŷn ni eisiau—. Dwi wedi cael cyfarfod gyda Jack Sargeant jest wythnosau yn ôl i weld sut allwn ni alluogi awdurdodau lleol gyda'r cronfa bensiwn i fuddsoddi mewn pethau sy’n mynd i fod yn rhan o’r tymor hir yma yng Nghymru.
So, yn gyffredinol, dwi'n meddwl ei fod yn rhywbeth pwysig i dynnu’r arian yna mewn i’r seilwaith a phethau eraill, fel yn y maes egni cynaliadwy. Ond, ar y pwynt penodol, well i fi ystyried beth mae'r Aelod wedi'i ddweud a dod nôl ato fe.