Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 14 Mawrth 2023.
Roeddwn innau hefyd yng nghyfarfod clwstwr diwydiannol y de a gynhaliwyd yn Stadiwm y Mileniwm yn fy etholaeth, ac roedd yn gyfarfod diddorol iawn gyda llawer o bobl hynod bwysig yno.
Fodd bynnag, rwyf eisiau gofyn am lwybr ychydig yn wahanol i gyflawni sero net, sef y galw cynyddol am ynni adnewyddadwy yn ein cartrefi. Mae 40% o dai yng Nghymru dan berchnogaeth lwyr, heb forgais, naill ai'r bobl sy'n byw ynddyn nhw neu'r landlordiaid sy'n eu rhentu. Felly, pa strategaeth mae'r Llywodraeth yn ei defnyddio i apelio atynt i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy nawr, i wneud y peth iawn ar gyfer yr hinsawdd, trwsio'r tyllau yn eu pocedi, a chynyddu gwerth eu heiddo? Does dim byd gwell i roi hwb i'r galw am fesurau ôl-osod yn y sector tai preifat?