1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023.
5. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gyfyngu ar faint o amser y mae ambiwlansys yn cael eu gorfodi i aros mewn ciwiau y tu allan i ysbytai? OQ59276
Llywydd, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol, wedi sefydlu rhaglen wella genedlaethol a mwy o staffio yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Pan fo byrddau iechyd yn cymryd camau system gyfan ar y cyd, mae canlyniadau clir eisoes yn cael eu gweld o ran lleihau amseroedd aros ambiwlansys y tu allan i ysbytai.
Diolch am hwnna.
Ar ôl aros am ambiwlans am oriau, pan fo pobl yn cyrraedd yr ysbyty, yn aml does dim gwelyau sbâr, felly maen nhw'n gorfod aros y tu allan am fwy o oriau. Yn ddiweddar, cafodd mam oedrannus un o fy etholwyr ei chadw mewn ambiwlans am 15 awr ar ôl iddi ddioddef cwymp. Rwy'n pryderu bod ambiwlansys yn cael eu defnyddio i bob pwrpas fel ystafelloedd aros. Er hynny, rwyf eisiau gofyn i chi'n benodol, am yr effaith y mae cymaint o ambiwlansys sy'n aros heb ddiffodd yr injan yn ei chael ar lefelau llygredd aer y tu allan i'n hysbytai, ardaloedd lle mae pobl eisoes yn wael iawn ac maen nhw bellach yn anadlu aer llygredig.
Fis diwethaf, rwy'n gwybod bod y Gweinidog iechyd wedi cyhoeddi y byddai pwyntiau gwefru y tu allan i bob adran frys. Mae BMA Cymru wedi croesawu'r cynllun hwnnw, ond does dim llawer o fanylion eto ynghylch o ble fydd yr arian yn dod a phryd, a hefyd ar uwchraddio ambiwlansys i gerbydau trydan. Allech chi roi mwy o fanylion am hynny, os gwelwch yn dda, ac a allech chi hefyd ddweud sut y bydd y Llywodraeth yn monitro ansawdd aer y tu allan i ysbytai yn y cyfamser, oherwydd os yw ambiwlansys yn cael eu defnyddio fel ystafelloedd aros, ni ddylem fod yn cadw cleifion sy'n aros mewn amgylcheddau a fydd yn eu gwneud yn salach?
Wel, Llywydd, yr ateb sylfaenol yw peidio â chael ambiwlansys yn aros fel yna, ac er bod y sefyllfa yn y gwasanaeth iechyd yn parhau i fod yn heriol iawn, mae rhywfaint o newyddion da yn y maes hwn. Drwy gymryd agwedd system gyfan y cyfeiriais ato yn fy ateb gwreiddiol, llwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, drwy weithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans, i sicrhau gostyngiad o 50 y cant yn nifer yr oriau ambiwlans a gollwyd wrth drosglwyddo yn Ysbyty Athrofaol Cymru rhwng Ionawr eleni ac Ionawr y llynedd. Ac mae'r gwersi sydd yno i'w dysgu o'r arbrawf llwyddiannus hwnnw yn cael eu lledaenu i rannau eraill o Gymru bellach. Felly, mi fydd Delyth Jewell, rwy'n gwybod, â diddordeb yn yr hyn sy'n digwydd yn y de-ddwyrain ac ers dechrau'r mis hwn, mae model llif diogel newydd ar waith yn Ysbyty Athrofaol y Faenor, gan dynnu ar y gwaith sydd wedi bod yn llwyddiannus yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Y ffordd i wella ansawdd aer yw peidio â chael ambiwlansys yn aros i'r graddau y buon nhw. Pan fo rhaid iddyn nhw aros, fe ddylen nhw fod yn gerbydau trydan, nid cerbydau petrol, a dyna pam y cyhoeddodd y Gweinidog y byddwn ni'n gwella'r seilwaith wrth ddrws ffrynt yr ysbyty, fel ei bod hi'n haws i ambiwlansys weithredu yn y ffordd honno. Mae buddsoddiad sylweddol iawn eisoes gan Lywodraeth Cymru i wella fflyd gwasanaethau ambiwlans Cymru yn y ffordd honno. Fe ddaw'r arian ar gyfer y pwyntiau gwefru o gyllideb y Gweinidog ei hun, ac mae hi wedi nodi hynny, ac rwy'n siŵr y bydd gwybodaeth bellach y bydd hi'n gallu ei rhannu gydag Aelodau wrth i'r cynllun hwnnw ddatblygu.
Rwy'n sylwi bod Cymru a Lloegr wedi bod ag amseroedd ymateb ambiwlansys tebyg iawn o ran yr argyfyngau mwyaf difrifol ym mis Ionawr. Ond fe nodais fod ambiwlansys yn Lloegr 20 munud yn gynt yn cyrraedd eu cleifion categori 2 na'r rhai yng Nghymru o ran cyrraedd galwadau oren cleifion. Fe wrandawais ar eich ateb chi i Delyth Jewell, ac mae'n hollol iawn i ddysgu gwersi o rai rhannau o Gymru lle ceir profiad da ac efelychu hynny mewn rhannau eraill o Gymru, gan chwilio ble mae'r arfer gorau. Ond tybed pa arfer gorau y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei fabwysiadu o GIG Lloegr i gyrraedd y cleifion hynny'n gynt, yn enwedig mewn cysylltiad ag oedi wrth drosglwyddo gofal, wrth gwrs.
Fy man cychwyn, Llywydd, yw bob amser, lle ceir gwersi i'w dysgu, tu mewn neu y tu allan i Gymru, yna wrth gwrs byddem eisiau eu dysgu. O fy mhrofiad hir o'r mathau hyn o drafodaethau—a does gennyf i ddim byd o fy mlaen i—yr hyn y byddwn i'n tybio yw y bydd diffiniadau gwahanol o'r hyn sy'n cael ei nodi gan ymateb categori 2, felly rydyn ni'n cyfri pethau gwahanol, ac wrth gwrs rydyn ni'n eu cyfrif mewn daearyddiaeth wahanol hefyd, oherwydd bod cyfran uwch o Gymru yn cael ei ddosbarthu fel ardaloedd gwledig, gyda'r heriau a ddaw yn sgil hynny, o'u cymharu â rhai dros y ffin.
Ond gallaf sicrhau'r Aelod bod y bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau ambiwlans bob amser mewn cysylltiad â phobl sy'n rhedeg gwasanaethau ambiwlans yn Lloegr, yn rhannol oherwydd ei bod yn ffin fân-dyllog. Mae'r Gweinidog ei hun wedi ymrwymo i wneud hynny, a cheir dysgu i'r ddau gyfeiriad. Ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gytuno ar y ffordd bresennol y mae perfformiad y gwasanaeth ambiwlans yn cael ei fesur. Mabwysiadwyd honno wedyn yn Lloegr. A hynny oherwydd bod deialog, bob amser, rhwng gweithwyr proffesiynol a swyddogion yn gobeithio gweld lle mae yna bethau y gellir eu dysgu oddi wrth ei gilydd.