2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:29, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth yn ailymrwymo safbwynt Cymru ar groesawu ffoaduriaid. Mae'r rhethreg hyll a pheryglus sydd wedi'i defnyddio yn San Steffan am atal y llwybrau y mae pobl sy'n anobeithio yn cael eu gorfodi i'w defnyddio oherwydd mai cychod ar draws y sianel yw'r unig opsiwn sydd ar gael iddyn nhw pan fydd yr holl lwybrau cyfreithiol sydd ar gael wedi'u dileu—maen nhw wedi eu torri i ffwrdd—mae'n niweidio enw da Cymru yn rhyngwladol drwy fod wedi ein cysylltu â hyn. Byddwn yn cofnodi fy siom bod rhai ASau Ceidwadol, a rhai ASau Llafur hefyd, wedi rhannu postiadau ar-lein gydag iaith sy'n trin ffoaduriaid fel problem i'w datrys yn hytrach na phobl i'w cynorthwyo.

Nawr, rydyn ni yng Nghymru, rydyn ni'n falch o fod yn genedl noddfa. A allai datganiad nodi beth all y Llywodraeth hon ei wneud i wrthsefyll y difrod sy'n cael ei wneud i'n henw da ar y llwyfan rhyngwladol? Oherwydd, does bosib, nad yw'n bryd i ni atal caniatáu i Gymru gael ei baeddu drwy gysylltiad â'r creulondeb a'r dideimladrwydd sy'n dod o'r Swyddfa Gartref.