– Senedd Cymru am 2:27 pm ar 14 Mawrth 2023.
Yr eitem nesaf fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r ddadl cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) wedi'i gohirio tan yr wythnos nesaf. Yn yr un modd, mae'r drafodaeth ar Reoliadau Gwastraff Deunydd Pacio (Casglu a Chofnodi Data) (Cymru) 2023 hefyd wedi'i gohirio. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i ofyn i chi, Trefnydd, am ddatganiad gennych chi'ch hun yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig ynghylch brech y gwiwerod? Mae problemau enfawr gyda brech y gwiwerod; mae'n effeithio ar lawer o wiwerod coch, ein gwiwerod brodorol, yn Yr Alban, ac rwy'n pryderu'n fawr bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu er mwyn atal achosion yn y fan yma. Bu achosion, wrth gwrs, ar Ynys Môn ychydig flynyddoedd yn ôl yn 2020 a 2021, ac fe gafodd 70 y cant i 80 y cant o boblogaeth y gwiwerod coch ei ddileu. Ar hyn o bryd mae deiseb wedi ei gosod gerbron y Pwyllgor Deisebau yn y Senedd. Mae tua 8,000 o bobl wedi llofnodi'r ddeiseb honno yn galw ar Lywodraeth Cymru i ryddhau rhai adnoddau er mwyn gallu buddsoddi yn natblygiad brechlyn ar gyfer brech y gwiwerod. Rydyn ni'n gwybod bod gennym ymchwilwyr rhagorol yma yng Nghymru a allai helpu i gyflawni'r nod hwnnw, a fyddai'n gam enfawr ymlaen i'n gwiwerod coch brodorol. Felly, a gaf i ofyn i chi, gan mai fi yw hyrwyddwr y wiwer goch yn y Senedd hon, a wnaiff Llywodraeth Cymru gymryd rhai camau yn y maes hwn, ac a fydd datganiad yn dod yn fuan?
Yn sicr byddwn ni'n cymryd camau, ac rydyn ni wedi parhau i gymryd camau ers dechrau'r achosion ar Ynys Môn y cyfeirioch chi atyn nhw. Rwy'n credu, bryd hynny, gwnaethom ni gynnig pot bach o arian i weld beth y gellid ei ddysgu o hynny. Yn amlwg, byddaf yn aros am ganlyniad y ddeiseb—yn amlwg, mae nifer sylweddol o bobl wedi ei llofnodi—a pha un a fydd honno'n dod ymlaen ar gyfer dadl. Ond mae hefyd ar y rhestr o—. Byddwch chi'n ymwybodol bod y prif swyddog milfeddygol newydd, Richard Irvine, wedi dechrau ddoe. Fe wnes i ei gyfarfod am gyfnod byr, ond rydyn ni'n mynd i gael golwg ar lawer o faterion penodol. Yn amlwg, mae'n dod ag arbenigedd gwahanol i'r rôl hefyd, ond mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn ni'n edrych arno.
Hoffwn alw am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Llywodraeth yn ailymrwymo safbwynt Cymru ar groesawu ffoaduriaid. Mae'r rhethreg hyll a pheryglus sydd wedi'i defnyddio yn San Steffan am atal y llwybrau y mae pobl sy'n anobeithio yn cael eu gorfodi i'w defnyddio oherwydd mai cychod ar draws y sianel yw'r unig opsiwn sydd ar gael iddyn nhw pan fydd yr holl lwybrau cyfreithiol sydd ar gael wedi'u dileu—maen nhw wedi eu torri i ffwrdd—mae'n niweidio enw da Cymru yn rhyngwladol drwy fod wedi ein cysylltu â hyn. Byddwn yn cofnodi fy siom bod rhai ASau Ceidwadol, a rhai ASau Llafur hefyd, wedi rhannu postiadau ar-lein gydag iaith sy'n trin ffoaduriaid fel problem i'w datrys yn hytrach na phobl i'w cynorthwyo.
Nawr, rydyn ni yng Nghymru, rydyn ni'n falch o fod yn genedl noddfa. A allai datganiad nodi beth all y Llywodraeth hon ei wneud i wrthsefyll y difrod sy'n cael ei wneud i'n henw da ar y llwyfan rhyngwladol? Oherwydd, does bosib, nad yw'n bryd i ni atal caniatáu i Gymru gael ei baeddu drwy gysylltiad â'r creulondeb a'r dideimladrwydd sy'n dod o'r Swyddfa Gartref.
Diolch. Wel, rydyn ni'n falch iawn o fod yn genedl noddfa, ac, fel y gwyddoch chi, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ysgrifennu at y Gweinidog mewnfudo i ddatgan yn ddigamsyniol ein bod yn gwrthwynebu'r Bil mudo cyfreithiol, a bod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn debygol o fod yn ofynnol, wrth gwrs. A nododd y Gweinidog hefyd asesiad Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig y byddai'r Bil yn torri confensiwn y ffoaduriaid, ac, wrth gwrs, ni allai'r Ysgrifennydd Cartref ei hun sicrhau unrhyw un ei fod yn cydymffurfio â'r confensiwn hawliau dynol.
Felly, mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn ar y mater hwn. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd fod yn ofalus iawn, on'd oes, o'r iaith yr ydyn ni'n ei defnyddio, ac, unwaith eto, byddwch chi wedi clywed Gweinidogion y DU yn honni eu bod wedi rhoi cynnig ar bopeth arall, felly mae'r Bil hwn bellach yn angenrheidiol. Rydyn ni yn credu bod hynny'n anwiredd.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar dai cydweithredol. Mae tai cydweithredol yn boblogaidd mewn mannau mor amrywiol â Sgandinafia ac Efrog Newydd, ond mae wedi methu â dod yn ffurf safonol o lety yng Nghymru. Nid llety i bobl dlawd yn unig mohono; roedd John Lennon yn byw yn adeilad Dakota, oedd yn llety cydweithredol. Cafodd yr asiantaeth ddatblygu, Cwmpas, co-op y wlad, a'r sector tai dan arweiniad y gymuned eu cefnogi yn 2022 i gynyddu nifer yr eiddo tai cydweithredol yng Nghymru. A gaf i ofyn am ddiweddariad ar y cynnydd?
Hoffwn ofyn hefyd am ddatganiad ar faterion cladin i gynnwys cefnogaeth i ddatblygiadau lle nad yw'r datblygwr yn bodoli mwyach, dyddiad pan ddisgwylir i'r cytundeb gael ei lofnodi, a phryd disgwylir i'r gwaith adfer i eiddo fel Altamar ddechrau.
Diolch. Ar eich ail gwestiwn ynglŷn â chladin, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn sicr yn gwneud cyhoeddiad yn y dyfodol agos iawn ynglŷn â hynny, a'r dyddiad y bydd y cytundeb yn cael ei arwyddo.
Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn am dai cydweithredol. Mae tai cydweithredol ei hun yn bwysig iawn, a doeddwn i ddim yn gwybod hynny am John Lennon, felly mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi'i ddysgu heddiw. Rydyn ni'n gwybod mai un o'r ffyrdd gorau o gynyddu'r ddarpariaeth yw rhoi cymorth i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn tai cydweithredol neu dai dan arweiniad y gymuned. Ac mae gennym gyllid drwy Cwmpas—fe gyfeirioch chi at Cwmpas, a oedd, yn amlwg, yn flaenorol yn Ganolfan Cydweithredol Cymru. Bwriad hwnnw yn sicr yw darparu'r gefnogaeth honno, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru'n darparu £180,000 eleni, ac am y ddwy flynedd nesaf, i gefnogi grwpiau tai sy'n cael eu harwain gan y gymuned yng Nghymru.
Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid am newidiadau i'r premiymau treth gyngor o 1 Ebrill, ac, yn benodol, yr eithriadau i'r ardoll arfaethedig o 300 y cant o'r dreth gyngor ar eiddo gwag ac ail gartrefi. Er y bydd gan gynghorau bŵer dewisol eang i benderfynu a ddylid codi premiwm, dangosodd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn fod y mwyafrif o'r ymatebwyr eisiau bod â mwy o eithriadau na'r rheini a restrwyd. Yn benodol, roedd hyn yn cynnwys eithriad ar gyfer elusennau cofrestredig sy'n darparu gofal seibiant i ofalwyr. Doedd ymatebwyr ddim eisiau i hyn fod yn bŵer dewisol i awdurdodau lleol.
Nawr, er gwaethaf trafodaethau gyda Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ystyried eithriadau yn yr achosion hyn, ychydig iawn o symud sydd wedi bod yn y maes hwn. Fel yr amlinellwyd gan y Gweinidog cyllid mewn datganiad ysgrifenedig ar yr ymgynghoriad, yr unig newid a wnaed i'r ddeddfwriaeth ddrafft oedd sicrhau bod eiddo nad oes ganddynt gyfnod o amser a bennir yn eu amodau cynllunio llety gwyliau wedi'u heithrio rhag talu'r premiwm.
Trefnydd, efallai fod hwn yn fater a allai fod wedi ei fethu gan y Gweinidog cyllid, ond mae'r darparwyr hyn yn cefnogi gwasanaeth gwerthfawr a hanfodol. Felly, pa drafodaethau y mae'r Gweinidog cyllid wedi'u cael gyda Gweinidogion a rhanddeiliaid eraill Llywodraeth Cymru ynghylch yr eithriadau hyn? Pa resymau sydd y tu ôl i'w phenderfyniad i beidio â'u hymestyn? A yw'r Gweinidog cyllid wedi cael sicrwydd gan awdurdodau lleol na fyddan nhw'n defnyddio eu pwerau dewisol i drethu'r rhai hynny sy'n darparu gofal seibiant ar bremiwm o 300 y cant? Ac, yn bwysicaf oll, pa ddadansoddiad sydd wedi'i wneud i ddod i'r penderfyniad hwn? Byddai diweddariad i'r Siambr, a'r cyfle i drafod a chael dadl ar y materion hyn ymhellach yn cael eu gwerthfawrogi.
Wel, rwy'n credu, gyda pharch, eich bod chi'n gofyn y cwestiynau hynny i'r Gweinidog anghywir. Rwy'n credu mai'r peth gorau fyddai i chi ysgrifennu at y Gweinidog cyllid. Rwy'n clywed yr hyn rydych chi'n ei ddweud am ddatganiad, ond fe wnaethoch chi ofyn cyfres o gwestiynau yn y fan yna na allaf i, yn amlwg, eu hateb o gwbl. Rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog wedi ein diweddaru ni—rwy'n meddwl, mewn datganiad llafar, ond efallai mai datganiad ysgrifenedig y byddai wedi bod—os oes unrhyw beth y tu hwnt i'r datganiad hwnnw nad yw wedi cael ei ateb, fe ofynnaf iddi gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Trefnydd, hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd, yn ymateb i'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a'u hadolygiad o gleifion yn cael eu rhyddhau o wardiau iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Amlygwyd risgiau sylweddol, ac maen nhw'n parhau, a hoffwn ofyn am sicrwydd gan y Gweinidog ei bod hi a'i swyddogion yn monitro'r sefyllfa ac yn cefnogi'r bwrdd iechyd i roi ar waith y gwelliannau sydd eu hangen.
Yn ail, fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae rhyddhau gwastraff dynol i'n hafonydd a'n moroedd yn broblem fawr. A'r wythnos diwethaf ym Mhontypridd, fe welsom ni lwyth o garthion heb eu trin yn pwmpio i mewn i afon Taf, ar ôl i bibell dorri. Mae llawer o Aelodau wedi codi materion ynghylch hyn yn y Senedd, ac, fel y cofiwn ni, rhoddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd ddatganiad am ansawdd dŵr i'r Senedd fis Tachwedd diwethaf. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog, yn diweddaru'r Senedd ar unrhyw drafodaethau sydd wedi digwydd wedi hynny gyda chwmnïau dŵr ynglŷn â'r mater hwn, gan y dywedodd bod uwchgynhadledd arall ar lygredd afonydd i fod i gael ei chynnal ym mis Chwefror 2023.
Diolch. O ran adolygiad AGIC o ansawdd trefniadau rhyddhau o unedau cleifion mewnol iechyd meddwl oedolion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, gallaf eich sicrhau bod uned gyflawni'r GIG yn darparu cymorth i'r bwrdd iechyd, ac mae swyddogion y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn monitro'r cynnydd trwy ein trefniadau ymyrraeth wedi ei thargedu gyda'r bwrdd iechyd. Ac wrth gwrs, mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r bwrdd iechyd flaenoriaethu cynllun o waith i weithredu'r argymhellion o'r adroddiad yr ydych wedi cyfeirio ato mewn ymateb i ganfyddiadau'r adolygiad.
O ran eich ail fater, rwy'n ymwybodol bod y bibell bellach wedi cael ei thrwsio. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda'r cwmnïau dŵr am amrywiaeth o drafodaethau. Mewn gwirionedd, cynhaliwyd yr ail uwchgynhadledd ffosffad ddydd Mercher diwethaf—roedd wedi'i gohirio o fis Chwefror. Cadeiriwyd hi gan y Prif Weinidog, ac roeddwn i a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yno, ac, yn amlwg, cynrychiolwyd y byrddau iechyd hefyd—mae'n ddrwg gen i, y byrddau dŵr, mae'n ddrwg gen i, cynrychiolwyd y cwmnïau dŵr hefyd. Rwy'n dangos fy oedran. [Chwerthin.]
Hoffwn gysylltu fy hun â'r pryderon a fynegwyd gan Heledd Fychan. Oherwydd darllenais heddiw fod carthion yn cael eu rhyddhau i afon Taf, a phwy sydd eisiau bod â thoiled yn datblygu y tu allan i'n hadeilad? Felly, mae hyn yn bryder difrifol iawn, y mae angen i ni fynd ar ei drywydd mewn mannau eraill.
Trefnydd, tybed a allwn ni gael diweddariad ar y trafodaethau yr oedd penaethiaid archfarchnadoedd i fod i gael gyda Gweinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Mark Spencer, a grybwyllwyd gennych yr wythnos diwethaf, ar sut rydym yn gwella'r prinder cyflenwadau llysiau a ffrwythau i fwydo ein cenedl. Beth, os rhywbeth, wnaethoch chi ddysgu o'r cyfarfod rhyng-weinidogol yr oeddech yn ei gynnal yr wythnos diwethaf, rwy'n credu? Yn benodol, rwyf eisiau archwilio sut mae'n bosibl bod tyfwyr ffrwythau yng Nghaint yn gorfod tynnu'r coed o'r ddaear yn eu perllannau, fel rydyn ni'n siarad, oherwydd bod yr archfarchnadoedd yn gwrthod talu digon iddyn nhw i hyd yn oed dalu eu costau, heb sôn am wneud elw i gadw'r busnes yn gynaliadwy. Ac yn eich rôl chi fel Gweinidog Materion Gwledig, sut ydyn ni'n mynd i ddefnyddio Bil Amaethyddiaeth (Cymru) i wneud yn siŵr nad yw'r math yma o ladrad agored yn digwydd yn ein gwlad ni?
Diolch. Wel, fedra i ddim cofio ble roeddwn i pan gyfeiriais i at hyn, ond yn sicr cyfeiriais at y cyfarfod a gynhaliwyd gan y Gweinidog bwyd a ffermio yn Llywodraeth y DU gydag archfarchnadoedd. Yn amlwg, rwy'n cwrdd gyda manwerthwyr, gyda phroseswyr a gyda ffermwyr ynghylch cyflenwad bwyd, ond gwnaeth y Gweinidog yn Llywodraeth y DU gynnal math o uwchgynhadledd archfarchnadoedd, na wnaeth, yn anffodus, wahodd Gweinidogion y gweinyddiaethau datganoledig iddi, ac rwy'n credu bod hynny'n drueni. Felly codais hyn gydag ef yn y grŵp rhyng-weinidogol, fel y dywedwch chi, ac yn y bôn dywedodd nad yr archfarchnadoedd sydd ar fai. Fe wnes i geisio egluro am y contractau, oherwydd rwy'n credu bod y pwynt yna'n bwysig iawn. Nawr, dydw i ddim yn gwybod beth sy'n digwydd yng Nghaint, ond rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn—bod angen i ni sicrhau bod y contractau hynny'n gwbl deg. Ac roedd yn ddiddorol iawn ar y pryd, pan oedden ni'n gweld prinder ffrwythau a llysiau yn ein harchfarchnadoedd nad oedden ni'n gweld hynny yn y siopau ffrwythau a llysiau.
O ran eich cwestiwn ynghylch y Bil amaeth, yn amlwg, mae hynny'n gosod rheolaeth tir cynaliadwy fel fframwaith ar gyfer ein polisi amaethyddol yn y dyfodol, ac yn amlwg rydym yn agosáu at Gyfnod 2 y Bil amaeth yr wythnos nesaf. A'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu, yn amlwg, yw sicrhau y bydd unrhyw bolisi a chymorth i ffermio yn y dyfodol yn gwobrwyo ffermwyr, yn amlwg, nid dim ond mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur, ond hefyd am gynhyrchu'r bwyd cynaliadwy hwnnw.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Weinidog yr Economi ar ba waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu ein tafarndai yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn iddyn nhw? Rwyf wedi gweld nifer o dafarndai yn cau yn fy etholaeth i, sydd yn drueni mawr i'r teuluoedd hynny sy'n ymwneud â hynny. Rwy'n gwybod bod llawer o'r ysgogiadau gan Lywodraeth y DU, ond rwy'n credu y byddai'n ddiddorol iawn clywed beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ein tafarndai a'n diwydiant lletygarwch yn ystod yr argyfwng costau byw.
Gwnaeth Gweinidog yr Economi a minnau gwrdd â chryn dipyn o gynrychiolwyr o'r diwydiant tafarndai, mewn gwirionedd, ym bragdy Brains, heb fod mor hir â hynny yn ôl, ychydig cyn y Nadolig mae'n debyg—cwpl o fisoedd yn ôl—i drafod yr hyn y gallem ni ei wneud fel Llywodraeth i gefnogi. Byddwch yn ymwybodol bod gennym amryw o gynlluniau a lefelau o gymorth hefyd. Rydych chi'n iawn: Llywodraeth y DU sydd â llawer o'r ysgogiadau hynny, ac rwy'n siŵr bod Gweinidog yr Economi yn cael trafodaethau gyda'i swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ar y mater hwn hefyd.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os gwelwch yn dda, ynghylch sicrwydd tenantiaeth i bartneriaethau meddygon teulu? Mae hyn yn dod yn sgil cyhoeddiad bod landlord meddygfa Porthmadog wedi rhoi cais cynllunio ymlaen i droi'r adeilad yn fflatiau. Bydd hyn yn golygu y bydd yn rhaid i'r feddygfa, o bosibl, gau, gan nad oes yna unlle arall ar ei chyfer hi yn y dref ar hyn o bryd. Mae'n ymddangos yn rhyfedd i fi bod gwasanaeth mor bwysig â meddygfa deuluol yn medu cael ei lluchio allan heb unrhyw sicrwydd, gan achosi pryder anferthol i'r cleifion. Felly, buaswn i'n ddiolchgar i gael datganiad ynghylch y sefyllfa yma, os gwelwch yn dda.
Yn ail, a gaf i ddatganiad gennych chi fel y Gweinidog amgylcheddol—gwledig, mae'n flin gen i—ynghylch beth ddaeth allan o'r cyfarfod ffosffadau yr wythnos diwethaf? A gawn ni ddiweddariad brys a buan ynghylch hynny, os gwelwch yn dda?
Bydd y diweddariad ar yr uwchgynhadledd ffosffadau yn dod drwy ddatganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog, ac nid gennyf fi. O ran eich cwestiwn ynglŷn â'r feddygfa yn eich etholaeth, byddwn i'n meddwl, gan ei fod yn fater mor benodol, y byddai'n well i chi ysgrifennu at y Gweinidog iechyd yn uniongyrchol.
Hoffwn gael dau ddatganiad, y cyntaf ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu—NPCC—a ryddhawyd heddiw, a ddywedodd fod naw o bob 10 cwyn am drais yn erbyn menywod a merched gan swyddogion heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi eu gollwng dros gyfnod o chwe mis. Ond, o'r achosion a ddatryswyd, dim ond 13 o'r swyddogion hynny gafodd eu diswyddo, yn ôl y data gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, ac fe gafodd dwy ran o dair o'r cwynion cyhoeddus eu categoreiddio yn rhai defnydd o rym. Yn yr achosion hyn, roedd cwynion gan fenywod yn ymwneud â'r defnydd o rym wrth gael eu rhoi mewn cyffion, ac roedd rhai o'r rheiny'n gwynion o ymosod yn rhywiol. Mae'n amlwg na allwn ni fynd ymlaen fel hyn, Gweinidog. Mae'n rhaid gwneud rhywbeth.
Mae'r ail ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yr hoffwn yn ymwneud â pha drafodaethau, os o gwbl, rydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â Boris Johnson yn enwebu ei dad, Stanley Johnson, i gael ei urddo'n farchog. Honnir i Stanley Johnson ddyrnu ei gyn-wraig, y diweddar Charlotte Wahl, mor galed yn ystod eu priodas gyntaf nes iddo dorri ei thrwyn. Mae wedi dweud bod cefnogwyr wedi dweud ei fod yn ddigwyddiad 'untro', fel petai hynny'n iawn. Mae Charlotte Wahl, ar y llaw arall, wedi dweud iddo ei tharo droeon a disgrifiodd eu priodas fel un 'dychrynllyd', 'ofnadwy'. Yr hyn sy'n fy mhoeni i a'r rhan fwyaf o bobl yw'r neges y gallai'r marchog arfaethedig ei rhoi i gyflawnwyr eraill cam-drin domestig ei bod yn iawn i gam-drin eich cymar, ac i'r dioddefwyr a'u teuluoedd bod yr hyn y maen nhw'n ei ddioddef yn dderbyniol, efallai hyd yn oed yn ddibwys. Mae hyn yn peryglu troi'r agenda am yn ôl, tra bod y Llywodraeth hon a'r Aelodau yn y fan yma yn ceisio symud yr agenda yn ei blaen.
Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymwybodol iawn bod y data newydd gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn tynnu sylw at yr hyn a ddywedoch chi, Joyce Watson—bod naw o bob 10 cwyn gan aelodau'r cyhoedd wedi arwain at beidio â chymryd camau yn erbyn swyddogion heddlu a staff a oedd wedi cael eu cyhuddo o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac roedd y data hwnnw wedi ei seilio ar fis Mawrth 2022, ac roedd yn gyfnod o tua chwe mis. Yn amlwg, mae plismona yn fater a gedwir yn ôl a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ond, fel y gwyddoch chi, fel Llywodraeth, ac yn sicr mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn cymryd y mater o ymddygiad yr heddlu o ddifrif, yn enwedig gan fod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wrth gwrs yn fater sydd wedi'i ddatganoli yma ac yn un yr ydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n cydweithwyr yn yr heddlu arno. Cadeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru ychydig cyn y Nadolig ac, yno, trafodwyd y mater o ffydd mewn plismona, a chytunwyd mewn gwirionedd ei fod yn fater mor bwysig y byddai'n eitem sefydlog ar bob agenda'r bwrdd partneriaeth hwnnw.
O ran eich ail bwynt, fel y dywedwch chi, fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo'n fawr i gymryd camau i fynd i'r afael â cham-drin domestig. Mae gennym linell gymorth Byw Heb Ofn—mae honno ar gael i unrhyw un sydd angen siarad â rhywun am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau penodol ynglŷn â'r anrhydedd y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Unwaith eto, mae'r holl bolisi a'r broses anrhydeddau yn fater a gedwir yn ôl yn llwyr a chyfrifoldeb Swyddfa Cabinet y DU ydyw, ond, eto, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, os yw hi wedi cael unrhyw drafodaethau, yn diweddaru'r Aelod, ond dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw rai.
Dau ddatganiad, os gwelwch yn dda. Hoffwn ddatgan buddiant ar yr un cyntaf, gan fod hyn yn effeithio ar berthynas, fodd bynnag, mae hefyd yn effeithio ar nifer fawr o fy etholwyr. Felly, hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar asesiadau cyn llawdriniaeth. Yn gynharach yn y mis, ysgrifennodd bwrdd Betsi ataf, gan ddweud, 'Mae cydweithwyr wedi cadarnhau unwaith y bydd claf wedi pasio'r POAC, nod y bwrdd iechyd yw trefnu llawdriniaeth ar ei gyfer o fewn 16 wythnos i ddyddiad y POAC.' Nawr, mae hyn wedi cynyddu, hyd y gwn i—rwy'n credu bod y Gweinidog bron â chytuno yn y fan yna—oherwydd roedd yn arfer bod yn chwe wythnos, ond erbyn hyn, mae pedwar mis yn sylweddol hirach nag yr oedd yn arfer bod. Mae gan wefan bwrdd Betsi rywfaint o wybodaeth am asesiadau cyn llawdriniaeth, ond nid wyf wedi gallu dod o hyd i unrhyw wybodaeth gyhoeddus am eu hamserlenni ar gyfer asesiadau o'r fath, nac, yn wir, sut mae'r canllawiau meddygol yn dylanwadu ar y rhain. Mae'r Ganolfan Gofal Amdriniaethol a gyhoeddwyd ym Mehefin 2021 yn nodi:
'Dylai'r holl wasanaethau amdriniaethol fod â system ar gyfer gwyliadwriaeth glinigol weithredol ar gyfer cleifion ar restrau aros, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi bod ar restrau am fwy na 3 mis ar gyfer llawdriniaeth P3 neu P4.'
Felly, rwy'n bryderus iawn bod bwrdd Betsi wedi ymestyn yr amserlenni i hyd at 16 wythnos ar adeg pan nad oes safon clir ar gyfer Cymru gyfan. Felly, er budd diogelwch cleifion, byddwn yn ddiolchgar pe bai modd gwneud datganiad.
O, ac wedyn—
Na, mae'n iawn. Rydych chi eisoes ymhell dros amser, ac mae gen i—
Yr ail un—
Ie. Gallwch chi wneud hwnnw yr wythnos nesaf, Janet. Rydych chi ymhell dros amser.
Diolch. Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r newid o chwe wythnos i 16 wythnos, ac fel y dywedwch chi, byddwn i wedi meddwl y byddai yna safon Cymru gyfan. Felly, fe wnaf yn sicr ofyn i'r Gweinidog iechyd edrych ar yr hyn yr ydych chi newydd ei gyflwyno, oherwydd rwy'n credu y byddai angen esboniad pe byddai wedi mynd o chwe wythnos i 16 wythnos ar gyfer asesiadau cyn llawdriniaeth, oherwydd, yn amlwg, os bydd rhywun yn cael asesiad cyn llawdriniaeth, yna gallai ei iechyd newid yn sylweddol yn yr amser hwnnw. Dydw i ddim yn ymwybodol os oes safon i Gymru gyfan, ond byddwn i wedi meddwl y byddai yna, felly fe wnaf yn sicr ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gael golwg ar hynny.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi, yn rhoi eglurhad o'r broses a ddilynir—yn fuan, gobeithio—i gyhoeddi rhoi statws porthladd rhydd i borthladd neu borthladdoedd yng Nghymru, penderfyniad a wnaed ar y cyd, wrth gwrs, gan Lywodraethau'r DU a Chymru. A hoffwn roi ar y cofnod, unwaith eto, fy niolch i gyngor Môn a Stena am lunio cais cryf iawn, iawn sydd â buddiannau pobl Môn yn ganolog iddo. Ac nid yw wedi bod yn broses hawdd cyrraedd y pwynt hwn—yr ymladd am statws ariannu cyfartal gyda Lloegr; doedd £26 miliwn am borthladd rhydd yn Lloegr ac £8 miliwn i Gymru ddim yn ymddangos yn deg—ond rwy'n ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r achos hwnnw i Lywodraeth y DU, ac am ofyn am y sicrwydd hynny ynghylch hawliau gweithwyr a rheoliadau amgylcheddol. A bydd angen llawer iawn o fonitro o hyd, ond, gyda'r sicrwydd ar waith, roedd gennym y sylfeini cadarn y gellid adeiladu cais cadarn arnynt. Gallwn, gobeithio, gyda'r statws, symud ymlaen at adeiladu ar ein statws fel ynys fasnachu. Cais cymunedol yw hwn i helpu cymuned sydd wedi dioddef ergyd ar ôl ergyd o gau Anglesey Aluminium a Rehau ac effaith Brexit y blynyddoedd diwethaf ac, wrth gwrs, y cyhoeddiad diweddaraf dinistriol ynghylch ffatri Two Sisters yn Llangefni. Felly, byddai eglurder i'w groesawu'n fawr.
Diolch i chi. Yn amlwg, penderfyniad i Weinidog yr Economi fydd hwn, a fydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd gyda datganiad maes o law.
Diolch i'r Trefnydd.