Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 14 Mawrth 2023.
Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymwybodol iawn bod y data newydd gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn tynnu sylw at yr hyn a ddywedoch chi, Joyce Watson—bod naw o bob 10 cwyn gan aelodau'r cyhoedd wedi arwain at beidio â chymryd camau yn erbyn swyddogion heddlu a staff a oedd wedi cael eu cyhuddo o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac roedd y data hwnnw wedi ei seilio ar fis Mawrth 2022, ac roedd yn gyfnod o tua chwe mis. Yn amlwg, mae plismona yn fater a gedwir yn ôl a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw, ond, fel y gwyddoch chi, fel Llywodraeth, ac yn sicr mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn cymryd y mater o ymddygiad yr heddlu o ddifrif, yn enwedig gan fod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wrth gwrs yn fater sydd wedi'i ddatganoli yma ac yn un yr ydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n cydweithwyr yn yr heddlu arno. Cadeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru ychydig cyn y Nadolig ac, yno, trafodwyd y mater o ffydd mewn plismona, a chytunwyd mewn gwirionedd ei fod yn fater mor bwysig y byddai'n eitem sefydlog ar bob agenda'r bwrdd partneriaeth hwnnw.
O ran eich ail bwynt, fel y dywedwch chi, fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo'n fawr i gymryd camau i fynd i'r afael â cham-drin domestig. Mae gennym linell gymorth Byw Heb Ofn—mae honno ar gael i unrhyw un sydd angen siarad â rhywun am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol. Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau penodol ynglŷn â'r anrhydedd y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Unwaith eto, mae'r holl bolisi a'r broses anrhydeddau yn fater a gedwir yn ôl yn llwyr a chyfrifoldeb Swyddfa Cabinet y DU ydyw, ond, eto, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, os yw hi wedi cael unrhyw drafodaethau, yn diweddaru'r Aelod, ond dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw rai.