3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 14 Mawrth 2023.
1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd? OQ59269
Mae gennym ni nifer o gynlluniau sy'n rhoi cymorth ymarferol ac ariannol ar gyfer dechrau defnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Ym mis Ionawr, fe gyhoeddais i gynllun grant cenedlaethol cartrefi gwag o £50 miliwn, sy'n agored i geisiadau nawr, i ychwanegu eto at y mesurau hyn.
Diolch i chi, Gweinidog, ac rwy'n hynod o falch y bydd pob un o'r awdurdodau lleol yn fy rhanbarth yn cymryd rhan yn y cynllun hwn, ac mae Gwynedd yn derbyn ceisiadau eisoes. Mae gwir angen amdano. Ac a gaf i ofyn, a ydych chi wedi cael cyfle i ddarllen adroddiad diweddaraf Sefydliad Bevan ynglŷn â'r farchnad rhentu preifat yng Nghymru a oedd yn canfod mai dim ond 32 eiddo a hysbysebwyd ledled Cymru a oedd ar gael ar gyfraddau lwfans tai lleol, ac mai 1.2 y cant o'r farchnad rhent a oedd ar gael ar gyfraddau lwfans tai lleol, ac nid oes gan 16 awdurdod lleol unrhyw eiddo o gwbl ar gael ar gyfraddau lwfans tai lleol? Felly, mae hi'n amlwg fod angen hwn i dynnu'r tai hynny yn ôl i'r farchnad, ac rwy'n tybio eich bod chi'n edrych ymlaen, fel minnau ac eraill, yng nghyllideb yfory a fydd yn cyd-fynd â'n buddsoddiad ni mewn tai fforddiadwy ar gyfer gallu cyflawni ar gyfer y cymunedau hyn sydd dan ofal pob un ohonom ni?
Ie. Diolch yn fawr i chi, Joyce Watson, am y cwestiwn amserol iawn yna. Fel y gwn y gwyddoch chwithau, Joyce, mae cartrefi gwag yn falltod llwyr ac yn achosi anhwylustod yn ein cymunedau ni. Maen nhw'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol, maen nhw'n achosi problemau iechyd amgylcheddol, maen nhw'n cyfrannu at ymdeimlad cyffredinol o ddirywiad yn y gymdogaeth, ac ymdeimlad nad oes neb yn poeni am y stryd arbennig honno mewn gwirionedd na'r gymdogaeth fechan arbennig honno chwaith. Ac mae hynny wir yn achosi rhwystredigaeth fawr pan fo'r cyflenwad tai mor wan hefyd. Mae hi'n drueni gwirioneddol a dyna symptom arall o'r farchnad dai gwbl gyfeiliornus sydd gennym ni sef bod hyn yn gallu digwydd.
Felly, fel dywedais i, rydyn ni wedi dyrannu £50 miliwn yn ystod y ddwy flynedd nesaf i sicrhau bod hyd at 2,000 o dai sydd wedi bod yn wag yn yr hirdymor ledled Cymru yn cael eu defnyddio unwaith eto trwy ein cynllun cenedlaethol o grantiau cartrefi gwag. A dim ond i ddweud, er bod y niferoedd yn amrywio—tua 22,000, er enghraifft, o gartrefi gwag—mae hi'n anodd iawn mewn gwirionedd gwahaniaethu rhwng y cartrefi hynny sydd, er enghraifft, yn cael eu marchnata ar werth neu'n wag am resymau eraill, pobl mewn—. Wyddoch chi, fe geir amrywiaeth o bethau. Felly mae gennym ni grant penodol iawn ar gyfer cartrefi sy'n wag ac y bydd yn rhaid gwneud gwaith i'w hadnewyddu nhw i'w defnyddio nhw unwaith eto mewn ffordd fuddiol, ac mae hwnnw'n ategu ein cynllun presennol ni, yn cynnwys Cynllun Prydlesu Cymru.
Rwy'n gwbl ymwybodol o adroddiad Bevan sy'n nodi bwlch cynyddol rhwng cyfraddau lwfansau tai lleol a rhenti tai preifat yng Nghymru. Fel gwyddoch chi, ni chafodd lwfansau tai lleol eu datganoli—oni fyddai hi felly. Rwyf i wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU dro ar ôl tro yn galw am weithredu ar fyrder ac ar unwaith i fynd i'r afael â hyn, a dim ond i ddweud wrth gyd-Aelodau gyferbyn â mi, yr wyf i'n gwybod nad ydyn nhw'n ddidostur, mae hyn bellach islaw—[Torri ar draws.] Mae hyn yn waeth na Deddf y Tlodion. Mae hyn yn waeth na'r sefyllfa dan Ddeddf y Tlodion. Nid yw hi'n dderbyniol na allwch chi ganfod un eiddo mewn 16 ardal ledled Cymru ar gyfraddau lwfans tai lleol. Mae angen dybryd i fynd i'r afael â hyn. Mae hi'n broblem fawr iawn. Nid pwynt gwleidyddol mohono; mae hi'n broblem wirioneddol fawr. Ac nid yw hi'n gwneud unrhyw synnwyr yn economaidd. Oherwydd y gost i awdurdodau lleol yn sgil digartrefedd pan na all pobl breswylio yn y sector rhentu preifat oherwydd bod y lwfans tai lleol wedi ei rewi yn yr amser digynsail hwn o chwyddiant a chynyddu rhenti, mae swm yr arian sy'n mynd allan o bwrs y wlad ar lefel yr awdurdodau lleol yn llawer mwy na'r swm a fyddai'n mynd i mewn ar lefel lwfans tai lleol. Felly, mae hi'n peri dryswch i mi fod y gyfradd wedi ei rhewi—mae wir yn peri dryswch i mi—ac rwy'n galw ar Lywodraeth y DU yn daer iawn i adolygu'r sefyllfa honno, oherwydd mae'n galongaled ac yn achosi dioddefaint gwirioneddol. Mae'n ein hatal ni hefyd rhag helpu landlordiaid da iawn sy'n awyddus i lunio'r cynllun hwn gyda ni rhag ymuno â'r cynllun, oherwydd mae'r cyfraddau lwfansau tai lleol mor isel nawr fel nad yw hi'n werth eu hamser nhw i wneud felly.
Felly, dim ond ar gyfer egluro'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, cyfradd y lwfans tai lleol yw'r hyn yr ydym ni'n ei dalu i landlordiaid sy'n ymuno â'r cynllun. Mae'n hynny'n parhau i fod yn werthfawr, ac fe ddylai landlordiaid barhau i ystyried hynny, oherwydd mae honno'n gwarantu'r incwm bob wythnos, bob mis, ac nid oes raid i chi ddioddef lleoedd gwag a throsiant a chanran yn mynd i wasanaethau rheoli ac ati. Felly, mae hi'n dal i fod yn werth ystyried hyn, ond po isaf y bydd cyfradd lwfans tai lleol yn gostwng, yr anoddaf yw ceisio marchnata ar y pwynt hwnnw. Fe wnaethom ni gynnydd cadarnhaol. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi mynd tu hwnt i'w nodau cychwynnol ar gyfer blwyddyn 1. Newyddion cadarnhaol yw bod Casnewydd newydd fynegi diddordeb i fod yn unfed awdurdod lleol ar bymtheg i ymuno â'r cynllun. Ond fe fyddai cynnydd yng nghyfradd lwfans tai lleol hyd at gyfradd briodol o wir gymorth.
Gweinidog, mae gennym ni galon draw yn y fan hon, ac rydym ni'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, ond gwaith Llywodraeth Cymru yw hwn. Mae tai yn fater a ddatganolwyd yn gyfan gwbl, ac fel dywedodd fy nghyd-Aelodau, mae 22,000 o gartrefi ledled Cymru yn wag. Felly, rydyn ni o'r farn ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru fod â strategaeth newydd, ar ei newydd wedd o ran sut i ddefnyddio unwaith eto'r tai hynny'n sy'n wag. Pan oeddwn i'n gynghorydd sir ym Mhowys, roedd nifer y bobl a oedd yn aros am gartrefi yn ddirifedi. Dim ond 5,000 o dai a wnaethom ni eu hadeiladu'r llynedd drwy Gymru gyfan. Felly, onid ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, ei bod hi'n hen bryd i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am ddefnyddio unwaith eto'r tai hyn sy'n wag ac adeiladu mwy o gartrefi er mwyn i ni allu rhoi cartrefi y mae pawb mewn gwirionedd yn haeddu eu cael yma yng Nghymru i'r bobl hynny yng Nghymru sydd ar restrau aros am dai?
Wel, wyddoch chi—'ochenaid', fel maen nhw'n dweud ar ddechrau'r peth—ni chafodd hyn ei ddatganoli yn gyfan gwbl. Ni chafodd y lwfans tai lleol ei ddatganoli.
Fe ddatganolwyd tai, Gweinidog.
Fe wnaethoch chi ddechrau gydag ymadrodd nad oedd yn gwbl gywir, oherwydd nid yw lwfans tai lleol wedi cael ei ddatganoli—[Torri ar draws.] Ni chafodd ei ddatganoli. Os ydych chi'n hoffi hynny neu beidio, ni chafodd ei ddatganoli. Felly, rydym ni wedi cael ein llyffetheirio o ran yr hyn y gallwn ni ei wneud, ac mae'r polisi hwnnw'n achosi digartrefedd, oherwydd ni all pobl aros mewn llety y maen nhw'n ei rentu oherwydd na allan nhw fforddio hynny oherwydd nid yw'r lwfans tai lleol yn ddigon hael. Mae'n llai na'r hyn a oedd ar gael gyda deddfau'r tlodion. Mae'n rhaid i chi dderbyn rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn.
Nawr, fe wnaethom ni lawer o bethau. Rydym ni wedi gwneud llawer o bethau yma yng Nghymru ac ar ôl i'r Torïaid weld synnwyr o'r diwedd a thynnu'r capiau oddi ar gyfrifon refeniw tai, a diddymu'r cyfyngiadau ar gyfrifon refeniw tai, dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl—ac fe gymerodd hi 40 mlynedd i chi ddod yn effro i hynny mewn gwirionedd—rydym ni wedi cynyddu hyn fwyfwy ers hynny. Does dim dianc rhag y wers hanes hon. Nid ydych chi'n hoffi hyn. Fe wnaethoch chi ofyn y cwestiwn i mi, a dyma'r ateb. Nid ydych chi'n hoffi hyn am nid ydych chi'n hoff o gywirdeb mewn atebion. Felly, yr ateb yw: rydym ni wedi gwneud popeth sydd wedi bod yn bosibl ei wneud gyda'n pwerau datganoledig ni, ond rydym ni, fel bob amser, wedi cael ein llyffetheirio gan Lywodraeth Dorïaidd gibddall a chwbl ddidostur.