Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

Part of 3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 3:26, 14 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Mae gan gyrff sydd â dyletswydd gan gynnwys awdurdodau lleol, gyfrifoldeb am reoli sbwriel a thipio anghyfreithlon yn eu hardaloedd arbennig nhw. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cadwch Gymru'n Daclus a Thaclo Tipio Cymru i gefnogi gwelliannau mewn ansawdd amgylcheddol lleol ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau â phartneriaid, gwaith gorfodi a hyrwyddo newid ymddygiad.