Sbwriel a Thipio Anghyfreithlon

Part of 3. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 14 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:27, 14 Mawrth 2023

Diolch, Weinidog. Fel byddwch yn ymwybodol, mae problem enbyd o ran ysbwriel a thipio anghyfreithlon, a gwyddom oll am yr effaith niweidiol mae hyn yn ei gael, nid yn unig ar harddwch ein cymunedau, ond hefyd o ran natur a bywyd gwyllt. Mae gennym ni oll, wrth gwrs, ran i’w chwarae a hoffwn ddiolch i’r miloedd o bobl ledled y wlad sydd yn mynd ati’n gyson i godi ysbwriel yn eu cymunedau fel gwirfoddolwyr, ym mhob tywydd, a chwarae eu rhan fel dinasyddion cydwybodol.

Ond mae yna rai mannau sydd rhy beryglus i wirfoddolwyr fynd ati i godi ysbwriel, megis wrth ochr lonydd prysur a hefyd traciau trên, ac eto mae problem ddifrifol o ran hyn mewn nifer o ardaloedd. Rwyf yn derbyn cwynion rheolaidd am ysbwriel gan bobl sy’n dal trên o’r Cymoedd i Gaerdydd, a rhai sy’n teithio ar ffyrdd yn fy rhanbarth, megis yr A470, yr M4 a’r A4232. Pryd gallwn ddisgwyl cyhoeddi cynllun terfynol y Llywodraeth i fynd i’r afael ag ysbwriel a thipio anghyfreithlon, a sut bydd hyn yn gwella’r broblem?